Fel rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, aethom i’r digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd a siarad gyda phobl ifanc am bethau’n ymwneud â materion LHTDC+.Mae’r blog yma yn rhannu eglurhad pobl ifanc o ystyr y baneri roeddent yn ei wisgo. Mae’r blog yma yn rhannu rhai o’r atebion i’r cwestiwn ‘pwy ydy dy eicon LHDTC+?’
Eicon Avery
Alan Turing yw un fi mae’n debyg, o’r safbwynt gwyddoniaeth gyfrifiadurol, roedd cracio’r enigma yn yr Ail Ryfel Byd yn gyflawniad enfawr. Ac yna, i fynd drwy therapi hormon a wnaeth arwain iddo’n lladd ei hun, mae’n beth ofnadwy i glywed amdano. Mae gwybod ei fod wedi gweithio trwy’r holl boen a’r dioddef er mwyn ceisio helpu’r byd wedi cael effaith enfawr arna i. Mae’n atgoffa fi i ddal ati weithiau.
Eiconau Sarah
Langston Hughes a Frank O’Hara. Hen feirdd mewn cyfnod lle doedd neb yn ysgrifennu am stwff hoyw – roeddent yn ysgrifennu amdano pan roedd yn anghyfreithlon ac ati. Roeddent yn ysgrifennu amdano mewn ffordd hyfryd, felly ie. A James Baldwin, actifydd ac awdur gwych arall.
Dale Winton! Dale Winton, cofio? Sumpermarket Sweep.
Gyda cherddorion, mae cymaint to gerddoriaeth cwiar newydd cŵl. MUNA – un o fy hoff fandiau. Yna Fletcher, Lady Gaga. Nid oes amser gwell i fod yn hoyw, yn y wlad yma o leiaf. Mae siwrne hir o hyd yng ngwledydd eraill dwi’n meddwl.
Eicon Wren
Dwi’n gwybod nad yw’n berson enwog, ond fy chwaer hŷn. Mae gen i dri brawd a chwaer, a chyhoeddodd un o fy chwiorydd hŷn ei bod yn hoyw pan oedd yn iau na fi, felly helpodd hynny fi i ddod allan i bawb. Roedd yn llawer haws am ei bod hi wedi gwneud.
Eicon Lizzie
O damia, mae hynny’n gwestiwn mawr. Dwi’n meddwl Landon Cider. Brenin Drag. Actifydd grêt. Felly yn dda yn y gelf maen nhw’n ei gynhyrchu. Person anhygoel. Felly da.
Eicon Tezni
Y bobl yma y tu ôl i mi. Deaf Hub Cymru yw’r rhain ac maen nhw’n anhygoel. Maen nhw yma heddiw yn cynrychioli’r gymuned fyddar ac yn cynrychioli’r bobl sydd efallai ddim yn gyfarwydd â’r gymuned LHDTC+ ehangach, ac yn agor hynny i gyd i fyny. Mae’n wych gweld pawb yn dod at ei gilydd ac yn newid canfyddiadau’r hyn mae pobl efallai yn ei ddisgwyl o berson byddar a gwneud i bobl ddeall bod pobl fyddar yr un peth â phawb arall. Felly, y bobl yma.
Eicon Maddie
Yn Pride gwelais Justin Drag. Mae’n rhoi neges dda allan ac ati, felly ie.
Eiconau Lily
Nid oes gen i enwogion penodol na dim sydd yn ysbrydoliaeth, ond roedd llawer o’m ffrindiau wedi dod allan cyn fi ac roedd hynny wedi helpu fi i sylwi.
Eiconau Echo
Abigail Thorn i mi. YouTuber ac actores. Mae’n rhedeg sianel YouTube PhilosophyTube. Mae’n delio gyda llwyth o fel athroniaeth o’r chwith ar sawl pwnc, a sut mae hynny’n cael effaith ar ein llywodraeth sydd yn fwyfwy adain dde a’r byd yn gyffredinol.
Overly Sarcastic Productions. Un o fy hoff sianeli YouTube. Mae pawb sydd yn gweithio arno yn anrhywiol (asexual). Nid yw’n ddim i’w wneud a’r sianel. Sianel fel mytholeg a hanes ydyw ond hefyd, maen nhw’n rili cwiar ac yn cynnwys darnau o hanes cwiar diddorol. Nid yn y ganrif ddiwethaf yn unig, ond yn siarad am fel y Groegiaid, y Rhufeiniaid, y Fictoriaid gan fod pobl wedi bod yn hoyw’r holl amser! Nid yw’n rhywbeth a gychwynnodd gyda Oscar Wilde.
Eicon Matthew
Fel nerd llyfrau comig, dwi’n caru cast The Wicked and The Divine i gyd. Mae’n llyfr comig grêt am dduwiau sydd yn dod i’r ddaear fel sêr pop ac mae yna un sydd fel David Bowie lesbiaidd pwerus – dyna’r unig ffordd i’w ddisgrifio. Wedi selio ar fel y Diafol, mae hi’n rili cŵl. Ac ie, dyna’r egni dwi eisiau trosglwyddo weithiau.
Eicon Molly
Mae un fi yn rili ‘basic’– Sarah Paulson!
Eicon Nova
Bach yn randym, ond Jaiden Animations. Dwi’n cofio ychydig yn ôl (tipyn yn ôl mewn gwirionedd ac wedi dyddio braidd nawr), fe wnaeth ddarn am ddêtio, a theimlais y gallwn gysylltu ychydig iddo. Yn fwy diweddar, fe ddaeth allan yn aromantig ac anrhywiol – woop woop! Yr un peth a fi! Mae’n un o’r unig bobl gyda dilyniant mawr gallaf feddwl am yn sydyn fel hyn sydd yn aro-anrh. Ac i mi, mae hynny’n beth pwysig iawn.
Eicon Darcey
Ww, dwi ddim yn siŵr iawn. Roedd yna berson yn Pride Bryste yn ddiweddar a hi oedd y frenhines drag Mwslim cyntaf [Asifa Lahore]. Darganfuwyd y gallai fynegi ei hun wrth wneud hynny, ac mae bod y person cyntaf i wneud hynny’n wych.
Eicon Carenza
Dwi’n meddwl sioeau fel Doctor Who a Torchwood gan fod dyn hoyw, Russell T. Davis, wedi ailwampio’r cyfresi, ac mae yna lawer o gynrychiolaeth ynddynt, yn enwedig Torchwood. Mae gen ti bobl estron ynddo hefyd! Mae’n teimlo fel bod unrhyw beth yn bosib ac mae unrhyw beth yn dderbyniol. Dwi’n hoffi hynna.
Eicon Abi
Rhaid dweud Kate Bush. Mae gen i datŵ o Kate Bush ar fy nghoes. Ac nid yw’n hoyw chwaith! Ond mae Kate Bush wedi gwneud llawer iawn i hawliau LHDTC+. Mae wedi lleisio barn yn y degawdau oedd ddim yn dderbyniol, felly, Kate Bush i mi.
Eicon Chloe
Ww, rhaid i mi ddweud Ru Paul. Mae o’n ffabiwlys ym mha bynnag cymeriad mae’n chwarae ac mae bob tro’n amser da pan fydd o gwmpas.
Gwybodaeth Berthnasol
Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.
Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.
Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.