Site icon Sprout Cymraeg

Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 23-30 Awst

Dyma dy gyfle i ddangos dy falchder i bawb, i fod yn “loud” ac yn “proud”! Mae Penwythnos Mawr Pride Cymru wedi cyrraedd Caerdydd. Os nad yw hyn yn rhywbeth sydd yn apelio i ti, yna na phoener, mae yna ddigonedd o bethau eraill yn digwydd yn y ddinas fawr gyffrous yma!


Penwythnos Mawr Pride Cymru 2018

24-26 Awst – Lawnt Neuadd y Ddinas – £7 y dydd

Dathliad o hunaniaethau rhywiol/rhywedd amgen. Ac am ddathliad yw hwn! Bydd un o ddigwyddiadau enwog Caerdydd, Bingo Lingo, yn diddori am dipyn yn ogystal â llwyth o fandiau anhygoel yn perfformio. Er, rwy’n tybio mai perfformwyr teyrnged fydd y Cher a’r Amy Winehouse sydd ar y rhestr chwarae. Gwybodaeth bellach ar wefan Pride Cymru.

Gorymdaith Pride 2018

25 Awst, 11yb-12:30yp – Canol Dinas Caerdydd – Am ddim

“Roedd dros 7000 o bobl yn cymryd rhan yng ngorymdaith llynedd, yn ymestyn am dros filltir trwy strydoedd Caerdydd. Rydym yn hyderus y bydd gorymdaith eleni yn fwy o ran maint, disgleirdeb a sŵn!”

Mae’r digwyddiad yma yn rhad ac am ddim ac un o brif atyniadau’r Penwythnos Mawr. Gweler ei gychwyn yng ngwreiddiau’r symudiad ‘pride’ rhyngwladol yn protestio’r gormes o bobl LHDT ledled y byd. Gwybodaeth bellach, gan gynnwys y llwybr, yma.

Y Picnic ‘Queer’ Mawr 2018

Awst 25, 1yp-5yp – Gerddi Soffia – Am ddim

Mae yna lawer o actifyddion LHDT sydd ddim yn rhy hoff o’r orymdaith Pride, yn teimlo fel bod hwn wedi’i fasnacheiddio ormod ac wedi newid bwriad gwreiddiol y symudiad ‘pride’. Os hoffet ti fod yn rhan o ddigwyddiad ychydig fwy ymlaciol, gyda phicnic ac ychydig o bobl yn strymio’r gitâr a dod i adnabod ei gilydd, yna bydd hwn yn ddewis gwell i ti. Edrycha ar Facebook.

Os oes gen ti gwestiynau am unrhyw beth i’w wneud gyda materion LHDT, yna edrycha ar ein tudalen wybodaeth LHDT+.

Ysgol Haf Jedi yn No Fit State

27-31 Awst, 9yb-5:30yh – Four Elms – Wedi gwerthu allan!

Mae No Fit State yn syrcas cymunedol, ble mae pobl arferol yn cael dysgu sut i ddod yn acrobat talentog. “Os wyt ti’n cerdded y rhaff denau, yn siglo ar y trapîs neu’n rhoi tro ar yr acrobatig – byddi di’n sicr o gael o hwyl, yn dysgu sut i wneud triciau cŵl ac yn datblygu dy greadigrwydd mewn amgylchedd cefnogol a chyfeillgar heb unrhyw gystadleuaeth.” Yn anffodus mae’r tocynnau i’r cwrs poblogaidd hwn bellach wedi gwerthu allan, ond ceisia ffonio’r lleoliad yn agosach at yr amser rhag ofn bod rhywun yn tynnu allan.

Ceisiadau Bwrsari Ieuenctid No Fit State

Mwy o newyddion cyffrous gan y No Fit State Circus, maent yn derbyn ceisiadau ar gyfer Bwrsari Ieuenctid 2018-19. Gwna gais yma.

Sinema Awyr Agored Ynys y Barri

25 a 26 Awst – Ynys y Barri – Am ddim

Mae’r Admiral yn noddi sinema awyr agored yn Ynys y Barri. Yma gellir gwylio ET a The Greatest Showman, yn cychwyn am 8:30yh y ddwy noson. Gwybodaeth bellach ar Facebook.

Dylai hynny fod yn ddigon i gadw ti’n brysur nes i’r ysgol ddod yn ôl ar y fwydlen. Mwynha dy wythnos. Cariad mawr gan theSprout.

Exit mobile version