Site icon Sprout Cymraeg

Beth Sydd Tu Mewn i Becyn STI?

Wyt ti erioed wedi pendroni beth sydd tu mewn i becyn Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STI) ? Beth am ffeindio allan!

Archebu pecyn STI am ddim

Fel rhan o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus, mae Lucy, 21 oed, wedi rhannu ei phrofiad o archebu a dadbacio pecyn STI.

Cafodd y pecyn ei archebu drwy Cymru Chwareus, sy’n darparu pecynnau profi cartref am ddim ar gyfer heintiau STIs cyffredin – chlamydia, gonorrhoea, syffilis, hepatitis B a hepatitis C

Wedi i ti archebu, dylai’r pecyn gyrraedd dy gartref o fewn 3-5 diwrnod gwaith. Bydd yn cael ei yrru gan y Post Brenhinol mewn paced cynnil heb logos nag unrhyw wybodaeth am y cynnwys.

https://www.tiktok.com/@feedthesprout/video/7168859545098276102?is_from_webapp=1&sender_device=pc&web_id=7137715821124208133

Beth sydd yn y pecyn?

Roedd y bocs Lucy yn cynnwys y canlynol:

Gelli di archebu prawf dŵr os oes gen ti bidyn a phrawf anws os yw’n berthnasol i ti.

Pwy all dderbyn pecyn STI am ddim?

Mae’n rhaid i ti fod yn 16 oed i archebu pecyn STI am ddim gan Cymru Chwareus. Os wyt o dan 16, cysyllta gyda dy wasanaeth iechyd rhyw leol. I ganfod dy wasanaeth iechyd rhyw leol, clicia yma

Derbyn dy Ganlyniadau

Unwaith rwyt ti wedi cwblhau dy brofion STI, postia nhw am ddim i’r labordy yn yr amlen yn y pecyn.

Dylet ti dderbyn dy ganlyniadau o fewn 3 wythnos o ddychwelyd y pecyn. Os nad wyt ti wedi derbyn dy ganlyniadau o fewn 3 wythnos, gyrra e-bost i PHW.SexualHealth@wales.nhs.uk,  fydd yn gwirio dy ganlyniadau.

Os yw’r holl ganlyniadau yn NEGATIF ac roedd posib prosesu pob sampl, byddant yn gyrru neges testun.

Os oes unrhyw un o’r profion yn cael canlyniad POSITIF, bydd y gwasanaeth iechyd rhywiol lleol yn cysylltu i drefnu triniaeth a gofal cyfrinachol ac am ddim.

Os oes unrhyw un o’r profion yn cael canlyniad ADWEITHIOL, bydd y gwasanaeth iechyd rhywiol lleol yn cysylltu i drefnu profion pellach.

Gwybodaeth Berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch.

Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.

Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.

Exit mobile version