Mae Paolo, artist 13 oed, yn defnyddio Minecraft i greu celf am wahanol emosiynau
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Paolo, artist 13 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Minecraft rwy’n chwarae rhan amlaf. Rwy’n teimlo distawrwydd a rheolaeth wrth agor Minecraft. Dyma un peth dwi’n dda yn gwneud. Weithiau mae pethau bywyd go iawn yn anodd i mi, ond pan dwi’n chwarae Minecraft mae’n hawdd ac yn hwyl.
Dwi’n hoffi Minecraft gan nad ydw i’n meddwl am broblemau bywyd go iawn wrth i mi chwarae, dwi’n canolbwyntio 100% ar y gêm. Dwi wrth fy modd yn adeiladu bydoedd, chwarae, neu’n sgwrsio gyda ffrindiau. Mae’n llawer haws gwneud ffrindiau ar Minecraft gan fod i’n teimlo’n rhydd i fod yn fi’n hun. Mae adeiladu ar Minecraft yn teimlo fel bod i’n rhydd i fynegi fy hun, ac mae hyn yn dda i’m hiechyd meddwl.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?
Mae gan bawb feddyliau nad wyt ti’n gweld. Mae’r darn o gelf yma yn ymwneud â dangos meddyliau pobl a’r gwahanol emosiynau mae pobl yn ei deimlo. Fel y gweli di, mae’r ferch yn eistedd ar blaned ac rwyt ti’n gallu gweld ei meddyliau i gyd.
Mae’r adeiladu yma wedi ei osod yn y gofod i’w wneud yn fwy diddorol. Mae pob planed wahanol yn cynrychioli emosiwn gwahanol. Rwy’n hoffi sut mae’r lliwiau gwahanol yn symboleiddio emosiynau gwahanol.
Pan dwi’n meddwl am iechyd meddwl, dwi’n meddwl sut mae pobl yn teimlo a’u meddyliau, ac roedd hyn yn ysbrydoliaeth i mi.
Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?
Efallai dy fod di’n teimlo fel hyn nawr ond ni fydd yn parhau am byth. Un dydd bydd dy fywyd di’n anhygoel. Cofia rwyt ti yn ti a phaid gadael i neb newid hynny!
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!