Mae Kallie, 19, yn rhannu sut mae chwarae gemau fideo wedi helpu gyda’i phryder a’i iechyd meddwl.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Kallie, artist 19 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Mae gemau fideo wedi bod yn ddihangfa o’r byd go iawn, ac yn aml rwy’n defnyddio gemau i helpu gyda fy mhryder ac iechyd meddwl ar y cyfan. Mae gemau fideo yn fy helpu i ymlacio a datgysylltu o realiti, ac rwy’n chwarae llawer o gemau annibynnol llai, yn benodol, gyda themâu ysgafn, traciau sain a chelf, sydd yn helpu i dawelu’r nerfau yn gyffredinol.
Mae gemau fel Life is Strange, Telltale’s the Walking Dead a Gone Home wedi llwyddo i’m nhrochi yn eu cyfanfydoedd ac wedi fy helpu i deimlo’n fwy sicr o fy hun mewn bywyd yn gyffredinol, wrth i mi allu gofalu a pherthnasu â’r cymeriadau. Rwyf wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau trwy sawl gêm, gan ymuno â nifer o gymunedau. Fel rhywun mewnblyg, a rhywun sydd yn dioddef gydag iechyd meddwl, mae hyn yn bwysig ac yn ystyrlon iawn i mi. Rwyf wedi creu llawer o gelf ffan ar gyfer gemau fideo yn y gorffennol, i fynegi’r cariad sydd gen i tuag atynt.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?
Teitl y darn ydy ‘Meithrin dy Feddyliau’ a’r ysbrydoliaeth y tu ôl iddo yw’r syniad bod y meddwl yn ardd sydd angen ei dendio er mwyn iddo dyfu a ffynnu. Mae gemau fideo yn helpu fy meddwl i ffynnu wrth roi allanfa creadigol a gofod diogel i ymlacio a lleddfu pryder, ac mae hyn wedi bod yn help mawr i fy iechyd meddwl yn gyffredinol.
Penderfynais greu hunan bortread ar gyfer y darn, i ddarlunio’r buddion mae gemau fideo yn ei gael ar fy iechyd meddwl personol. Dewisais balet lliw cynnes i roi synnwyr o gysur ac agosatrwydd. Defnyddiais baent acrylig hefyd a lliwiau llachar i ychwanegu at ergyd emosiynol y darn.
Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?
Y neges byddwn i’n ei rannu gyda rhai sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl ydy i ofalu am eu hunain. Darganfod y pethau rwyt ti’n mwynhau, treulio amser yn gwneud y pethau ti’n caru gwneud a threulio amser gyda dy hoff bobl. Bydd rhai dyddiau yn anodd, a rhai dyddiau’n dda. Gofala am dy hun a threulio rhai diwrnodau yn gwneud dim. Mae pawb yn gweithio ar gyflymdra gwahanol, felly paid bod yn galed arnat ti dy hun am nad wyt ti’n debyg i bobl eraill.
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!