Mae Callum, 15 oed, yn rhannu sut mae gemau fideo wedi bod yn ffordd wych i gyfarfod ffrindiau newydd a lleihau straen.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Callum, artist 15 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Mae gemau yn helpu fy meddwl i fod yn fwy actif ac yn helpu fi i ganolbwyntio wrth dynnu sylw fy hun a chael rhywbeth i wneud. Ran amlaf, rwy’n chwarae gemau sydd â llawer o ‘side-quests’ gan fydd hyn yn cymryd mwy o amser a gallaf gwblhau’r gêm yn araf bach.
Mae gemau yn helpu fi i gymdeithasu mwy gyda ffrindiau a darganfod ffyrdd newydd i siarad gyda phobl. Gallaf eu chwarae ar ben fy hun i basio’r amser, neu rwy’n gallu chwarae gyda ffrindiau os ydw i’n unig neu os ydw i eisiau chwarae gyda nhw. Mae hefyd yn ffordd i dreulio mwy o amser gyda theulu.
Mae’n ffordd i mi fod yn fwy creadigol ac i gyfathrebu mwy nag yr ydw i fel arfer. Mae chwarae gemau fideo wedi bod yn ffordd dda i ddianc o unrhyw broblemau ac i gael hwyl ac ymlacio ar ben fy hun neu gyda rhywun arall dwi’n dewis.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?
Yr ysbrydoliaeth i greu’r darn celf oedd fy niddordeb mewn gemau fideo a chelf. Mae’r ddau wedi bod yn help mewn cyfnodau anodd ym mywyd ac wedi tynnu sylw a thynnu fi i ffwrdd o fy mhroblemau.
Mae gemau fideo wastad wedi bod yna i fi; mae wedi bod yn hobi a hefyd yn ffordd gallwn siarad gyda ffrindiau y tu allan i’r ysgol. Gallwn chwarae ac roedd popeth roeddwn yn ei wneud yn cael effaith ar y gêm, yn creu posibiliadau diddiwedd oedd yn adlonni o hyd.
Defnyddiais gemau i ddianc o unrhyw straen. Mae celf wedi helpu gyda fy iechyd meddwl gan ei fod yn ffordd i ymlacio o’r straen a chanolbwyntio ar greu rhywbeth fydda’n mynegi fy nheimladau. Dyma’r brif ffordd i mi ddweud “dyma sut dwi’n teimlo” ac, ran amlaf, byddai’n helpu fi a phobl eraill i ddeall fy nheimladau.
Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?
Byddwn yn dweud wrth rywun nad oes rhaid iddynt ddioddef ar ben eu hunain. Mae yna lawer iawn o bobl sydd yn cael yr un profiad â thi, felly ceisia siarad gyda rhywun rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt, fel oedolyn, ffrind, neu athro, fel nad oes rhaid i ti ddioddef ar ben dy hun. Mae yna bobl fydd wrth dy ochr di i helpu ti i ymdopi ac i helpu ti trwy’r cyfnod anodd yma.
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!