Site icon Sprout Cymraeg

Nathan: Roedd Mam yn Fy Ngham-drin yn Emosiynol

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd ar TheSprout. Mae’n rhannu hanes Nathan sydd yn 14 oed, a gafodd cefnogaeth y Tîm Helpu Teuluoedd, rhan o wasanaeth Cefnogaeth a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Pam wnes di gysylltu â Phorth i Deuluoedd Caerdydd?

Roedd Nathan yn arfer byw gyda’i fam, ond bellach mae’n byw gyda’i dad. Eglurodd ei fod yn teimlo’n “rybish” cyn iddo dderbyn y cymorth.

Cyfeiriwyd y teulu at Cymorth i Deuluoedd ar ôl i wasanaethau plant ddechrau cefnogi Nathan. Eglurodd Nathan bod ei dad eisiau cael cefnogaeth iddo yn dilyn ei fam yn ei gam-drin yn emosiynol. Dywedodd bod y Gweithiwr Cymdeithasol wedi ei gyfeirio at CACID.

Cafodd Nathan weithiwr gwrywaidd yn wreiddiol, ond gofynnwyd cael newid i weithiwr benywaidd.

Pa gefnogaeth derbyniais di?

Roedd Lily, ei Gynghorydd Helpu Teuluoedd, yn cyfarfod gyda Nathan bob prynhawn Iau dros alwad fideo WhatsApp. Gyda chaniatâd Nathan a’i dad, roedd y sesiynau yma yn digwydd tra roedd Nathan yn ei ystafell wely. Golygai hyn y gallai siarad yn agored mewn gofod preifat ble roedd yn teimlo’n gyfforddus.

I gychwyn, roedd Lily a Nathan yn archwilio atgofion gwahanol Nathan (‘Geiriau a Lluniau’, ‘Tŷ Pryderon’) i archwilio ei deimladau a’r hyn oedd yn achosi pryder iddo. Wrth archwilio’r pethau hyn, roedd yn teimlo’n fwy cyfforddus i rannu ei deimladau gyda’i dad.

Derbyniodd gymorth am 12 wythnos. Roedd rhai o’r sesiynau yn cynnwys archwilio ei bryderon gyda’i dad. Yn nes at ddiwedd y cymorth, roedd Nathan a’i Gynghorydd Helpu Teuluoedd wedi cytuno y byddai angen mwy o gefnogaeth emosiynol, felly cyfeiriodd Lily ef at Wasanaeth Lles Barnardos.

Sut mae’r gefnogaeth darparir gan CACID wedi dy helpu di a’r teulu?

Eglurodd Nathan ei fod yn beth da i gael rhywun gwahanol i siarad â nhw, rhywun oedd ddim yn aelod o’r teulu. Dywedodd nad oedd yn poeni am y Cynghorydd Helpu Teuluoedd yn rhannu’r hyn roeddent wedi’i drafod. Mae’n cyfaddef ei fod yn llawer haws i siarad gyda phobl nawr.

Ychwanegodd nad oedd Lily yn “rhoi pwysau” arno i siarad. Hoffai nad oedd rhaid iddo siarad os nad oedd eisiau gwneud hynny, gallant chwarae gêm neu siarad am Harry Potter yn lle hynny.

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i berson ifanc sydd yn profi heriau tebyg?

Dywedodd Nathan y byddai’n eu hannog i “siarad gyda phobl – mae’n anodd ond mae’n rhaid i ti”. Byddai’n annog pobl i fynd at CACID i gael “pa bynnag help y medri di”. Darn arall o gyngor ydy “siarada gydag unrhyw un rwyt ti’n teimlo’n ddiogel â nhw.”

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn stori go iawn gan berson ifanc dderbyniodd cymorth gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. I barchu preifatrwydd y bobl ifanc fu’n rhannu eu stori gyda ni, rydym wedi newid yr enwau i’w cadw’n ddienw. I ddarllen mwy o hanesion am sut mae CACID wedi helpu pobl ifanc a’u teuluoedd, clicia yma.

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar TwitterInstagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

I gysylltu gyda CACID am ddim galwa 03000 133 133 neu e-bostia ContactFAS@cardiff.gov.uk.

Exit mobile version