Site icon Sprout Cymraeg

Galw ar yr Artist:Adlewyrchu Amrywiaeth Caerdydd Mewn Celf

Mae Eshaan Rajesh yn artist sydd yn gallu defnyddio ei brofiad bywyd yn ei gelf, wedi iddo fyw yn India cyn symud i’r DU, ac wedi byw mewn gwahanol rannau o’r DU. Mae’n dweud bod ei deulu wedi setlo yng Nghaerdydd bellach, ac wedi chwarae rhan weithredol yn grymuso pobl ifanc yn y ddinas.

Beth yw ystyr dy waith?

Mae Eshaan yn gyfarwydd â chreu celf sydd yn adlewyrchu Caerdydd, ac mae ei waith wedi cael ei ddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn barod. Mae wedi cynnwys ychydig o’i waith blaenorol yn ei gomisiwn ar gyfer Gwên o Haf.

“Rwyf wedi rhoi’r faner Mis Hanes Pobl Dduon, gafodd ei greu flwyddyn yn ôl ac sydd yn cael ei arddangos yn ffenestr Canolfan Mileniwm Cymru. Teimlais ei bod yn bwysig cynnwys hwn gan y byddai’n helpu sbarduno ryw fath o gyswllt gyda’r gwaith i bawb.”

Mae Eshaan wedi ceisio adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Caerdydd gyda’i ddarn diweddaraf, sydd bellach yn cael ei arddangos y tu allan i Neuadd y Ddinas, ar brif safle gŵyl Gwên o Haf.

“Mae’r gwaith yn gynrychiolaeth weledol o amrywiaeth a chynhwysiant sydd i’w weld yng Nghaerdydd.”

“Mae’n cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, ac yn lle’r neges sydd ar flaen yr adeilad, rwyf wedi cynnwys y geiriau Young People Are the Change we Wish to See in Cardiff.”

“Mae’n neges ysbrydoledig gan ei fod yn atgyfnerthu’r rhan sydd gan bobl ifanc i’w chwarae yng Nghaerdydd ac yn siapio dyfodol ein prifddinas.”

“Roedd cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd yn hanfodol. Mae’r holl bobl yn y raffeg yn dod o gefndiroedd crefyddol, hil a diwylliannol wahanol.”

Sut wyt ti’n adlewyrchu Caerdydd yn dy waith?

Mae’r gwaith ei hun yn canolbwyntio ar Ganolfan Mileniwm Cymru, ond yn cynnwys sawl agwedd arall o Gaerdydd. Roedd Eshaan wedi dewis y Ganolfan Mileniwm am ei symbolaeth gyda Chaerdydd.

“Pam ddim cael Canolfan Mileniwm Cymru? Mae’n ffordd unigryw o gynnwys y neges, ac mae’r dirwedd o’i gwmpas yn syfrdanol. Gallaf gymryd adeilad eiconig, sydd yn lleol i mi ac wedi bod yn rhan fawr o’m mywyd, a rhoi stamp fy hun arno.”

Mae’r darn ei hun yn amlochrog, gydag ysbrydoliaeth o wahanol themâu celf, sydd yn dod at ei gilydd i greu cynrychiolaeth weledol o Gaerdydd.

“Mae’r awyr yn rhoi teimlad o anime i mi, o’r lliw ei hun. Mae’r cymylau yn yr awyr wedi’u siapio fel map y byd, ac rwy’n gobeithio bod pobl yn deall bod hyn yn cyfeirio at ragolwg byd eang Caerdydd.”

Beth oedd ei angen i greu dy ddarn?

Er mai dim ond 17 yw Eshaan, mae’n artist profiadol yn barod. Wedi creu logo ymgyrch diweddar Y Dyfodol Ffeministaidd y Sprout, ac wedi creu cynnwys ar gyfer ei gyngor ysgol yn ei amser rhydd, roedd y dasg yma’n dod yn naturiol iddo.

“Penderfynais weithio’n ddigidol y tro hyn. Rwyf wedi arbrofi gydag acrylig a phaent am flynyddoedd. Mae’n amser i mi symud fy ngwaith cam ymhellach a digideiddio pethau yw’r ffordd orau o wneud hynny.”

“Mae gwneud pethau yn y ffordd draddodiadol yn gallu cymryd amser hir. Rwyf wedi cwblhau gwaith celf ble mae’r llun, cyn ychwanegu lliw, yn gallu cymryd tuag awr. Mae digideiddio’r gwaith yn golygu ei fod yn cymryd llawer llai o amser.”

“Nid oeddwn yn hollol newydd i gelf ddigidol. Mae gen i brofiad o ddylunio graffeg gyda Chyngor Ieuenctid Caerdydd ac roedd y faner Mis Hanes Pobl Dduon yn lot o help ac rwy’n falch iawn o’r pethau yma.”

Beth wyt ti’n hoffi am y gelf?

Mae’n wir fod gwahanol ffurf o gelf yr un mor deimladwy â’i gilydd. Ond mae Eshaan yn tynnu ystyr dyfnach o fod yn greadigol, yn dweud bod celf yn ymwneud â deall meddyliau ein hunain, wrth geisio cipio dychymyg pobl eraill.

“Mae celf yn ffordd o gyfathrebu gyda phobl. Mae gen ti gelf ymladd, celf perfformio, celf gain, neu ffilm. Mae popeth yn ymwneud â mynegi dy hun mewn ffordd fwy haniaethol nag darllen ac ysgrifennu.”

“Wrth edrych ar waith y bobl ifanc sydd wedi ei arddangos yma, mae’n pwysleisio bod celf yn rhywbeth sydd yn rhoi llais a llwyfan i bobl ifanc er mwyn iddynt wneud gwahaniaeth.”

Sut glywais di am y cyfle?

“Rwy’n rhan o Gyngor Ieuenctid Caerdydd a Chreawdwyr Ifanc, gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, ac maent yn eithaf da yn gyrru cyfleoedd i ni.”

Mae Eshaan hefyd yn rhan o Cebab. Gair yw hwn sydd yn cael ei gysylltu â ‘doner’ a ‘y saws i gyd plîs bos.’ Ond nid dyma ydyw. Mae’n grynhoad o Children’s and Young People’s Advisory Report, medda nhw.

“Rwy’n rhan o sawl sefydliad a rannodd y cyfle yma, felly roeddwn i’n arbenigwr erbyn i mi glywed amdano am y trydydd gwaith. Edrychais ar y cyfle, a sylwi gallwn i ddefnyddio’r sgiliau o’m hobi i ysbrydoli pobl ifanc eraill.”

“Roedd gwybod y gallwn i wneud Caerdydd yn le gwell a defnyddio fy sgiliau i wneud newid wedi ysgogi fi i wneud cais am y comisiwn yma.”

Gwybodaeth berthnasol

Os hoffet weld mwy am ein hartistiaid a’u gwaith, clicia yma i weld gwaith RosieFaaris, Farah, Alicia, Nalani, a Saabiqah.

Exit mobile version