Site icon Sprout Cymraeg

Galw ar yr Artist: Merched Mwslimaidd Arloesol mewn Celf

Mae Saabiqah Tariq-Khan yna artist ifanc gyda gwelediad mawr i greu newid positif yng Nghaerdydd trwy ffurf celf. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar Gaerdydd ffres a fodern, sydd yn gynhwysol i bawb, ble gall unrhyw un fod yn beth bynnag yr hoffant.

Ysbrydoli pobl ifanc gyda chelf

“Mae’n stori eithaf hir. I gychwyn, nid oeddwn yn siŵr iawn ble i ddechrau. Yn y diwedd, meddyliais am gymeriad tebyg i Spiderman gyda hijab.”

“Nid oeddwn yn gweld siwper arwyr mewn sgarff lliwiau Pacistan a Somalia pan oeddwn yn tyfu. Nid wyf wedi gweld siwper arwr Mwslim.”

Mae cymeriad Saabiqah’s yn eistedd ar adeilad eiconig Pierhead ym Mae Caerdydd, ei hoff le yn y ddinas. Mae ystyr arbennig iawn i’r adeilad yma iddi.

“Mae’r cymeriad yma yn adlewyrchu fi a’m mhersonoliaeth. Rwyf wedi penderfynu creu merch Pacistani Prydeinig. Mae’n byw yng Nghaerdydd, yn mynd i’r ysgol, ac yn byw ei bywyd fel unrhyw berson ifanc Mwslimaidd arall. Mae hi’n cynrychioli fi mewn ffordd, ond yn cynrychioli holl ferched Mwslim eraill Caerdydd hefyd.”

“Mae fy nghelf wedi ei greu i fod yn ysbrydoliaeth i bobl sydd eisiau herio’r norm a gwneud pethau na fyddant wedi meddwl amdano gynt.”

Sut mae Caerdydd wedi cael ei adlewyrchu yn dy waith?

“Rwy’n edmygu Bae Caerdydd. Mae golygfeydd hyfryd o holl ardaloedd gwahanol o gwmpas y dŵr. Rwy’n mwynhau edrych ar y dŵr, felly mae gosodiad y cymeriad yn adlewyrchu rhan o’m harferion pan fyddaf yn yr ardal.”

Gan ei bod yn dod o Gaerdydd, rydym yn cael mewnwelediad personol Saabiqah i ochrau da a drwg Caerdydd. Mae’n dweud bod y pethau da yn llawer mwy na’r pethau drwg.

“Rwyf wedi cael cyfnodau da a chyfnodau drwg, ond mae hynny’n wir am bob man yn y byd. Mae’r cyfleoedd rwyf wedi ei gael i chwarae rôl weithredol yn fy nghymuned wedi gwneud Caerdydd yn wahanol i mi.”

“Rwyf wedi cael cyfle i greu celf sydd yn rym er daioni yn fy ninas. Rwy’n cael arddangos fy nhalent wrth ysbrydoli pobl ifanc eraill yn y broses.”

“Rhaid diolch i mam am ddarganfod y cyfle yma, hebddi hi ni fydda fy ngwaith yn cael ei arddangos yma’r wythnos hon.”

Siapio

Fel yr ydym wedi clywed eisoes, roedd Saabiqah wedi meddwl am gymeriad fel Spiderman, ond gyda thwist sydd yn adlewyrchu Caerdydd yn gorfforol ac yn gymdeithasol. Ond nid oedd yn hawdd troi’r dychymyg yma yn realiti.

“Yn dilyn trafodaethau hir gyda’r bobl garedig yn ProMo-Cymru, penderfynom ar y syniad o siwper arwr oedd yn adlewyrchu Caerdydd. Unwaith i mi glywed hynny, roeddwn yn benderfynol o greu siwper arwr mewn hijabi. Byddai’n adlewyrchu Caerdydd, heb orfod newid ei ffordd o fyw.”

“Roedd yn gyffrous iawn cael creu arwr o’r newydd. Roeddwn yn teimlo’n arloesol iawn gan nad wyf wedi gweld siwper arwr Mwslim o’r blaen, er bod eraill yn ymdrechu i gynyddu amrywiaeth mewn ffilmiau a llyfrau comig ar hyn o bryd.”

Beth sydd mor dda am gelf?

Mae Saabiqah wrth ei bodd gyda’r rhyddid o fod yn artistig.

“Mae’n gwneud i mi deimlo’n hapus, yn gwybod fy mod i’n hysbrydoli pobl eraill trwy’r gwaith celf. Mae artistiaid eraill wedi fy ysbrydoli, ac felly rwy’n gobeithio gallaf i annog y plant a’r bobl ifanc i wneud ychydig o gelf yn ystod yr ŵyl.”

Gwybodaeth berthnasol

Os hoffet weld mwy am ein hartistiaid a’u gwaith, clicia yma i weld gwaith RosieFaaris, Farah, Alicia, Eshaan, a Nalani.

Exit mobile version