Site icon Sprout Cymraeg

Galw Ar Yr Artist: Pedwar Cornel Caerdydd

Mae Farah Thomas, sy’n 14 oed, yn artist arall a gomisiynwyd i arddangos ei gwaith yn Gwên o Haf, y tu allan i Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Mae ei gwaith yn ymwneud â hyrwyddo amrywiaeth yng Nghaerdydd a delweddu ein gwahaniaethau wrth gydnabod bod pawb yr un peth, mewn un ffordd neu’i gilydd.

Mae Farah yn dweud bod celf wedi bod yn ddiddordeb iddi erioed, a bod comisiwn TheSprout wedi rhoi’r rhyddid iddi fynegi ei hun.

“Mae celf yn ffordd wych i fynegi dy hun a defnyddio’r dychymyg a chreadigrwydd. Pan fyddi di’n meddwl am bynciau eraill, nid yw mor hawdd i ddefnyddio dy ddychymyg. Fel maths, mae yna ddull penodol i gael pethau’n iawn bob tro. Ond mae celf yn gallu bod yn unrhyw beth rwyt ti eisiau.”

Ysbrydoliaeth dy gelf

Roedd Farah eisiau cynrychioli’r gwahanol ddiwylliannau yng Nghaerdydd yn benodol. Dywedodd bod ei chelf yn ymgorffori’r teimlad y dylem groesawu ein gwahaniaethau.

“Roeddwn i eisiau adlewyrchu’r amrywiaeth yng Nghaerdydd, dwi’n teimlo nad ydym yn trafod ein gwahanol ddefodau a thraddodiadau ddigon. Roeddwn eisiau adlewyrchu profiadau gwahanol bobl ifanc y ddinas i ddangos bod amrywiaeth o bobl yng Nghaerdydd, ac i gynnig cynrychiolaeth iddynt hefyd.”

Pa fath o berthynas sydd gen ti â Chaerdydd?

Mae’r brifddinas hon yn golygu cymaint o bethau i bawb, p’un a ydynt yn byw yma neu beidio. Mae pob un o’r artistiaid sydd wedi’u comisiynu ar gyfer Gwên o Haf wedi cynnig dehongliadau gwahanol i ni o ble maent yn byw.

Mae gan bawb rywbeth yn gyffredin, sef y ffaith mai Caerdydd fydd man cychwyn eu stori bob tro.  Fel mae Farah yn dweud, mae’n bwysig cofio a chydnabod ein gwreiddiau.

“Mae gen i lawer o atgofion o Gaerdydd. Rwyf wedi treulio fy mhlentyndod yn byw yng Nghaerdydd ac yn tyfu i fyny i fod y ferch ifanc yr wyf heddiw, felly bydd yn agos iawn i’m nghalon am byth.”

Mae popeth o’n cwmpas yng Nghaerdydd, o’r castell i Stadiwm y Principality, a hyd yn oed Chippy Lane, yn siapio’n hagwedd at fywyd heb i ni sylwi.

“Mae popeth yma yn fy ngwneud i’r person ydw i.”

Sut mae creu campwaith o’r fath?

Mae celf yn gysyniad aneglur i bawb, gan ei fod yn golygu rhywbeth gwahanol i bob unigolyn. Weithiau mae’n dod yn naturiol, tra bod artistiaid eraill yn tueddu i gymryd agwedd fwy gofalus at eu gwaith.

Cymerodd Farah agwedd gymysg at ddod â’i syniadau’n fyw, ond yn gyntaf roedd yn rhaid iddi feddwl sut y byddai’r darn yn dod at ei gilydd yn ei phen.

“Dyna oedd fy syniad cyntaf! Wnes i ddim meddwl am lwyth o syniadau am sut gall y gelf edrych, pa ffurf y byddai, neu am beth fydda ef hyd yn oed.”

“Pan benderfynais yn y diwedd y byddwn yn ceisio uno pedwar o bobl mewn un portread, cefais y syniad o greu ymdeimlad o undod, wedi’i amlygu gan ein gwahaniaethau.”

Mae meddwl am yr hyn roedd hi eisiau ei gynrychioli yn ei chelf yn cymryd mwy na greddf, ac mae darn Farah yn glyfar iawn yn adlewyrchu’r hyn y mae Caerdydd yn ei olygu iddi.

Ond mae Farah eisiau gwneud mwy nag hynny, a chynnig rhywbeth y gall pobl arferol Caerdydd uno ag ef yn yr ŵyl, wedi’i greu gyda phobl ifanc Caerdydd mewn golwg.

“I greu’r ddelwedd ei hun, roedd rhaid darganfod graffegau gwahanol i’w cyd-dynnu’n un. Mae tynnu lluniau o fy mhen yn anodd i mi. Penderfynais beidio defnyddio pobl enwog neu unrhyw berson adnabyddadwy o Gaerdydd. Roeddwn yn awyddus i adlewyrchu bywydau pobl normal y ddinas, o gefndiroedd gwahanol.”

Gwybodaeth berthnasol

Os hoffet weld mwy am ein hartistiaid a’u gwaith, clicia yma i weld gwaith RosieFaaris, Alicia, Eshaan, Nalani, a Saabiqah.

Exit mobile version