Site icon Sprout Cymraeg

Elin, 20: Mae Angen Normaleiddio Siarad am Ryw a Pherthnasau

Fel rhan o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus, mae Elin, 20 oed, wedi rhannu ei barn am iechyd rhyw a pherthnasau ac wedi siarad am ei phrofiad yn cael mynediad i gefnogaeth SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach.

Y tabŵ o siarad am ryw a pherthnasau

Mae llawer o bethau yn cael effaith ar y ffordd mae pobl ifanc yn meddwl am berthnasau a rhyw. Er esiampl, gall iechyd meddwl rhywun eu hatal rhag gwneud yr hyn sydd orau iddynt. Mae fy mhrofiad yn golygu ei bod yn anodd i mi siarad am rai pethau.

Mae rhyw a pherthnasau’n rhan o fywyd, ac mae pobl angen gwybod amdano. Mae angen normaleiddio’r pynciau yma wrth siarad amdano fel bod pobl ifanc yn teimlo’n fwy cyfforddus. Roeddwn i ofn pan gychwynnodd fy mislif. Nid oedd neb wedi egluro’r peth i mi. Os byddwn i’n ymwybodol, yna fyddwn i ddim wedi bod ofn. Byddwn i’n gwybod beth i’w wneud.

Dysgu a herio stigma

Cyn SHOT, y doctor oedd yn rhoi’r mwyafrif o wybodaeth i mi, neu roeddwn i’n chwilio am bethau ar-lein ar TikTok. Bellach dwi’n cael cyngor a gwybodaeth am addysg rhyw nad oeddwn i erioed wedi ei gael o’r blaen, neu wedi cael ychydig iawn ohono yn yr ysgol.

Ar y cychwyn [wrth siarad gyda’r tîm SHOT], roedd siarad am bethau fel hyn yn anodd i mi. Mae rhai rhwystrau wedi bod, fel teimlo cywilydd, felly dwi wedi osgoi trafod rhai pethau. Nid yw pawb yn gallu siarad â’u rhieni gan nad yw’n bwnc derbyniol, oherwydd crefydd neu resymau eraill. Fel fy mam i, nid yw’n gwybod am y pethau yma.

Dod yn wybodus a chryf

Mae gallu siarad â rhywun am berthnasau ac iechyd rhywiol wedi bod yn dda. Mae fy ngweithiwr yn neis iawn, a ddim yn barnu o gwbl. Nid yw’n gwneud mor a mynydd o ddim ac mae’n hawdd siarad â hi. Mae’n gwneud i mi chwerthin ac yn hawdd dod ymlaen â hi. Nid yw mor ofnus â doctor, ac mae’n helpu gyda fy mhroblemau.

Rydym eisoes wedi siarad am berthnasau, atal cenhedlu, gwybodaeth STI, a dod i adnabod dy gorff. Nesaf, byddem yn siarad am aros yn ddiogel, rhyw a’r gyfraith, caniatâd, diogelwch ar-lein, ecsploetiaeth rywiol ac ymddygiad peryglus.

Mae deall y gallaf siarad â rhywun am y pethau yma yn dda, gan nad oes gen i neb arall i siarad â nhw.

Gwybodaeth berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch.

Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.

Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.

Exit mobile version