Site icon Sprout Cymraeg

Dy Gwpwrdd Dillad Crosio Cynaliadwy Newydd

Yn ystod y cyfnod clo, roedd pobl yn chwilio am hobïau newydd a daeth crosio yn weithgaredd poblogaidd gan rai oedd yn awyddus i ddysgu sut i greu dillad newydd eu hunain.

Efallai dy fod di’n un o’r bobl yma, neu rwyt ti’n awyddus i roi tro ar y grefft!

Wel, dyma fi dy ffrind crosio di, a gad i mi ddweud wrthyt ti pam bod cychwyn ar y grefft yma yn beth da i ti yn feddyliol ac i’r amgylchedd.

Dyma ychydig o bethau da a chynaliadwy am grosio:

Mae crosio yn ffordd gynaliadwy o greu a thrwsio dillad sydd hefyd yn cynnig hobi newydd i ti. Mae ffidlo gydag edau a bachyn yn gallu bod yn ffordd gynhyrchiol a hwyl i gymryd lle tegan ‘fidget’ a (un o’r buddiannau mwyaf i mi) mae’n golygu nad oes rhaid i ti wneud cyswllt llygaid â rhywun wrth siarad â nhw. Dwi wedi cael cymaint o hwyl yn eistedd ar y soffa yn siarad am fywyd ers i mi ddechrau crosio!

Fy siwrne crosio

Rwy’n hollol newydd i hyn. Cyn mis Ionawr 2023, doeddwn i erioed wedi gwneud hyn o’r blaen. Ar ôl gorffen fy arholiadau ar ddiwedd y mis, roeddwn angen gwneud rhywbeth gyda fy amser eto, ac roeddwn yn awyddus i ddarganfod rhywbeth fydda’n twyllo fy ymennydd i feddwl ei fod yn gynhyrchiol. Cychwynnais wrth greu cadwyn hir a slip-bwytho  hirsgwar – ar y cychwyn roeddent yn hyll iawn! Er ei fod yn biws a llwyd, llwyddodd fy hirsgwar defnyddiol cyntaf (cas iPad) i ddal fy iPad gan arbed £10+ wrth beidio prynu o’r siop.

Y cam nesaf oedd dysgu sut i grosio dwbl. Roedd hyn yn golygu gallu crosio eitemau mwy yn fwy sydyn. Dysgais sut i greu hetiau beanie a llwyddo lleihau’r amser creu i 4 awr! Ar ôl tri beanie llwyddiannus ac ychydig o berswâd gan ffrind, penderfynais greu rhywbeth i wisgo.

Wedi’r cyfan, os gallwn i greu siwmper a finnau newydd ddechrau, yna gall unrhyw un!

Y siwmper

Penderfynais ddefnyddio fideo o YouTube gan fod posib gweld pob pwyth unigol yn y fideo a gwylio eto os wyt ti’n meddwl bod rhywbeth wedi mynd o’i le. Mae’r tiwtorial defnyddiais, a’i addasu, i’w weld yma:

I gychwyn, edrychais pa fath o wlân y gallwn ei gael am y pris rhataf. Roedd y gwlân rhataf i mi ei weld yn Home Bargains ond nid oedd y lliw yn gryf iawn nac yr hyn roeddwn i eisiau ar gyfer fy siwmper. Roedd yna wlân rhad ar gael o siopau cartref eraill hefyd – B&M ac archfarchnadoedd mwy fel Tesco.

Yn y diwedd llwyddais i gael y lliw roeddwn i eisiau yn y siop crefftau lleol a phrynais 4 pelen. Gan nad oeddwn i wedi dewis yr opsiwn rhataf – rhywbeth y gallwn i wedi’i wneud os oeddwn i angen arbed arian – talais tua £10 am y gwlân.

Hwn oedd y prif liw i mi ei ddewis, melyn saffrwn i deimlo’n hafaidd. Prynais un belen o wlân oren hefyd ar gyfer unrhyw addurniadau neu lewys y byddwn eisiau.

Cychwynnais wrth greu’r ribiau. Roedd hwn ychydig yn anodd gyda’r cylchoedd bach, ond yn hawdd iawn i’w gwneud. Dim ond tri cham roedd rhaid cofio i greu un pwyth ac yna ailadrodd y camau yna nes i mi gael llinell rib lawn.

Yn dilyn y ribiau, newidiais i bwythau gwahanol a dechrau dwbl bwytho mewn rhesi. Roedd hwn yn creu prif ddarn y top. Roedd rhaid crosio 21 rhes i bob ochr. Yn y llun, mae’r panel top yn ymddangos yn fwy na’r un gwaelod, ond paid poeni! Mae’r ddau yn ffitio at ei gilydd, er i mi wneud camgymeriad cychwynnwr gydag ychydig o bwythau ychwanegol ac ymestyn amheus!

Ar ôl cael un panel blaen ac un panel cefn, gwehyddais y gwlân trwy’r ochrau a rhoi’r ddau yn sownd at ei gilydd, gan adael tyllau i’r gwddf a’r breichiau i ychwanegu atynt wedyn. Erbyn hyn roedd posib ei wisgo!

Ar ôl ymuno’r ddau ochr, newidiais i wlân oren llachar. I gychwyn y llawes rhoddais y bachyn trwy waelod twll y fraich a dechrau crosio sengl o gwmpas yr ymylon. Yna, dechreuais grosio dwbl ar ei ben. Roedd hyn yn gwneud i gychwyn y llawes edrych fel ymyl mawr.

Llawes hir oedd y bwriad gwreiddiol ond roeddwn yn hoffi siâp prif ddarn y top ac felly dim ond crosio dwy res o gwmpas pob twll braich y gwnes i. Gan fod yr haf yn dod, a byddaf yn gwisgo llai a llai o ddillad, doeddwn i ddim eisiau gorboethi.

Ar ôl crosio holl ddarnau’r siwmper newydd, ceisiais steilio gydag ychydig o ddarnau ychwanegol.

Dyma fi’n gwisgo’r darn gorffenedig!

Roedd y prosiect yn llawer o hwyl ac yn golygu y gallwn i wneud rhywbeth cynhyrchiol a boddhaol wrth ymlacio. Yn hanner cyntaf y drydedd flwyddyn, doeddwn i ddim yn gallu ymlacio o gwbl. Ar ôl dechrau crosio, dwi’n teimlo fel y gallaf eistedd yn ôl a mwynhau gwylio pethau.

Ar gyfer fy mhrosiect nesaf, hoffwn grosio streipiau mewn lliwiau mwy niwtral. Doeddwn i ddim eisiau ceisio newid y gwlân ar gyfer pob rhes i’r prosiect yma, ond wrth i mi ennill mwy o sgiliau dwi’n teimlo fel y bydd hyn yn hanfodol i’w ddysgu.

Mae gwisgo beanies a thop fy hun yn teimlo’n anhygoel. Dwi’n gwybod eu bod yn ffitio fi’n berffaith gan mai fi sydd wedi eu creu. Dwi hefyd yn gwybod bod fy nillad crosio wedi eu gwneud o ddefnydd cynaliadwy a pan fydda i ddim eisiau eu gwisgo bellach, gallaf agor pob rhes ac ailgylchu’r gwlân i greu rhywbeth arall. Dwi’n meddwl ar ôl i mi ddiflasu ar fy nhop melyn newydd, byddaf yn troi’r melyn yn sêr.

Gwybodaeth Berthnasol

Darganfod mwy am ffasiwn sydyn a sut mae hyn yn ddrwg i’r amgylchedd a’r bobl o dy gwmpas.

Dyma dudalen o adnoddau defnyddiol gall fod yn ddefnyddiol i rywun sydd yn dechrau crosio.

Exit mobile version