Site icon Sprout Cymraeg

Deall ein Hunaniaeth LHDTC+

Fel rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, aethom i’r digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd a siarad gyda phobl ifanc am bethau’n ymwneud â materion LHTDC+. Mae’r blog yma yn rhannu eu barn pan ofynnwyd iddynt am y siwrne hunaniaeth.

Hunaniaeth Ffion

O rargian, dyna i ti siwrne. Roedd yn siwrne fawr iawn. Roeddwn yn fflipian ac yn fflopian o, dwi’n syth, o dwi’n bi – bi am y cyfnod hiraf. Yna efallai nad oeddwn i. Efallai dwi yn bi. O disgwyl! Na. Disgwyl! Ia. Disgwyl! Na. Disgwyl! Ia. Ac yna llwyddais i weithio pethau allan o’r diwedd. Dwi’n falch o ble ydw i. *Tapio fflag lesbiaid ar yr ysgwyddau*

Hunaniaeth Toby

Teimlad od oedd o wastad i mi. Cychwynnais bethau yn ifanc iawn, felly roedd o bob tro yn oedi pethau at wedyn. Mae pawb yn teimlo fel yma. Ac yna, dros amser, dysgais i dderbyn fy hun yn y diwedd.

Dwi wedi cael ychydig o drafferth gyda’r bobl o’m nghwmpas yn fy nerbyn, ond dwi wedi bod â’r ddau yma gyda fi ers tua 5 mlynedd. Maen nhw wedi bod drwy bopeth efo fi.

Deallais fod i’n traws, neu fe ddois allan yn llawn, 2 flynedd yn ôl. Mae wedi bod yn siwrne ers hynny.

Gwyddwn fod i’n pan gan nad oedd atyniad corfforol ddim yn rhywbeth i mi. Roedd hynny nes i mi deimlo cysylltiad emosiynol â rhywun. Dyna pam mod i hefyd yn demirywiol, sydd yn golygu dy fod di ond yn teimlo atyniad i bobl, yn rhywiol o leiaf, pan rwyt ti mewn perthynas pan rwyt ti wedi’u hadnabod am gyfnod.

Ac ie, gwyddwn hynny drwy brofiad ac arbrofi sydd yn un peth dwi’n credu dylai pawb fedru gwneud.

Hunaniaeth Chris

Mae peidio cysylltu â dim yn iawn hefyd. Fel rhywun sydd yn niwroamrywiol ac yn anrhywiol yn ôl pob sôn hefyd, mae’n arbennig o gymhleth i weithio allan pwy wyt ti a sut rwyt ti’n teimlo gan fod pobl hefyd yn anghofio nad oes rhaid i rywioldeb fod yn rhywbeth wedi’i ddiffinio. Mae’n gallu llifo.

Mae pob ochr o hynny yn ddilys. Ac rydym yn tyfu o hyd. Ac, i bobl fel fi, mae’n siwrne sydd byth yn gorffen ac mae hynny’n ok.

Nid oes gen i label ar hyn o bryd, ac mae’n bwysig i bobl ddeall nad oes rhaid i ti labelu dy hun i fod yn ddilys. Fedri di weithio popeth allan ar gyflymder dy hun ac os nad wyt ti eisiau label, yna mae hynny’n iawn hefyd!

Gwybodaeth berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.

Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.

Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.

Exit mobile version