Site icon Sprout Cymraeg

Daniel: Help i Deithio ar Donnau Pryder

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch  Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd ar TheSprout. Mae’n rhannu hanes Daniel sydd yn 14 oed, a gafodd cefnogaeth y Tîm Helpu Teuluoedd, rhan o wasanaeth Cefnogaeth a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Pam wnes di gysylltu â Phorth i Deuluoedd Caerdydd?

Cyn derbyn cefnogaeth, “roeddwn yn poeni lot am mam. Roeddwn yn meddwl bod rhywbeth drwg yn mynd i ddigwydd bob tro roedd mam yn mynd allan. Nid oedd yn sefyllfa dda. Roeddwn yn poeni o hyd. Roedd y poeni yn ymwneud ag epilepsi mam,” eglurai Daniel.

Gofynnodd mam Daniel os oedd eisiau help. Dywedodd, “eglurodd mam popeth a phenderfynais roi tro arni. Roeddwn yn poeni na fyddai’n gweithio. Os nad oedd yn gweithio byddwn i’n poeni drwy’r adeg eto. Roeddwn yn meddwl, ydy hyn yn mynd i helpu?”

Pa gefnogaeth derbyniais di?

Dywedodd Daniel, “Cefais wybod am y don pryder a deall, er y byddai’n mynd yn fwy roedd yna ochr arall iddo ble roedd rhaid gadael iddo gwympo. Roedd hyn yn help i ddeall bod y teimladau yma am basio ac nid ydynt yno trwy’r adeg.”

Roedd yn meddwl bod y gefnogaeth gan CACID yn, “dda iawn ac wedi helpu lot yn amlwg. Roedd y gefnogaeth drwy alwadau fideo oherwydd cyfyngiadau’r pandemig. Weithiau roedd angen gwrando a deall beth oedd yn digwydd i mi. Roedd gwaith uniongyrchol gyda fy Nghynghorydd Helpu Teulu yn cynnwys cael cyngor a gwybodaeth a phethau ymarferol.”

Sut mae’r gefnogaeth darparir gan CACID wedi dy helpu di a’r teulu?

Mae cefnogaeth CACID wedi, “gwneud i mi beidio poeni am unrhyw beth. Yr unig beth roeddwn i’n arfer poeni amdano oedd mam. Rwyf bellach yn rhoi galwad iddi bob hyn a hyn i weld sut mae hi pan fydd hi allan, neu os ydw i angen rhywbeth o’r siop, ond dyna ni,” meddai Daniel.

Ychwanegodd, “pan oeddwn i’n arfer mynd allan gyda ffrindiau, byddwn yn stopio i adael iddynt fynd o’m mlaen er mwyn i mi gael cysylltu â mam a gyrru neges testun sydyn. Roedd hyn yn digwydd pob awr. Bellach, hi sydd yn gorfod gyrru neges i fi! Ran amlaf rwy’n chwarae pêl droed ac mae hynny’n helpu. Mae’n gymaint gwell i beidio poeni amdani. Mae’n anodd disgrifio sut oeddwn i’n teimlo ond nid oedd yn deimlad braf. Bellach dwi’n iawn a ddim yn poeni am y peth.”

Helpodd y Tîm Helpu Teulu, “sut i droi syniadau negyddol i rai positif. Roedd gen i lawer o feddyliau negyddol ar gychwyn y broses, ond nawr nid oes llawer ar ôl. Pan oeddwn i’n ceisio gadael i’r don pryder gwympo, byddwn yn disgwyl 5 munud ac yn ymlacio ac yn gwneud rhywbeth hoffwn ei wneud. Fel chwarae ar y cyfrifiadur sydd wedi helpu tynnu sylw i ffwrdd o bethau a gadael i’r pryder basio.”

“Helpodd i fedru siarad gyda rhywun am y peth. Braf oedd cael bod yn agored i rywun gallwn ymddiried na fyddant yn dweud wrth neb arall, heb farnu ac yn cynnig syniadau i helpu.”

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i berson ifanc sydd yn profi heriau tebyg?

Dywedodd Daniel, “byddwn yn dweud wrthynt am wneud beth wnaethais i. Cefais gefnogaeth gan CACID. Roedd yn help mawr i fi a gobeithio gall wneud yr un peth i rai sydd yn teimlo’r un ffordd ag oeddwn i. Mae’r sefyllfa rwyt ti ynddi yn un sydd yn gallu gwella.”

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn stori go iawn gan berson ifanc dderbyniodd cymorth gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. I barchu preifatrwydd y bobl ifanc fu’n rhannu eu stori gyda ni, rydym wedi newid yr enwau i’w cadw’n ddienw. I ddarllen mwy o hanesion am sut mae CACID wedi helpu pobl ifanc a’u teuluoedd, clicia yma.

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar TwitterInstagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

I gysylltu gyda CACID am ddim galwa 03000 133 133 neu e-bostia ContactFAS@cardiff.gov.uk.

Exit mobile version