Site icon Sprout Cymraeg

Cyngor i Bobl Ifanc LHDTC+ a Chyfeillion

Fel rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, aethom i’r digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd a siarad gyda phobl ifanc am bethau’n ymwneud â materion LHTDC+. Mae’r blog yma yn rhannu eu cyngor i bobl ifanc LHDTC+ eraill a chyfeillion yn y gymuned.

Bydda’n gyfaill (ally)

Tesni, 23 – Dwi’n meddwl dylai pawb fod yn gyfaill, ta waeth sut wyt ti’n uniaethu. Yn yr hinsawdd bresennol, ac yn enwedig ôl-Covid, dwi’n meddwl ei bod yn bwysig bod pawb yn cefnogi ei gilydd beth bynnag y sefyllfa a pwy bynnag yw’r person. Mae angen dod at ein gilydd, yn enwedig yma yng Nghymru. Dod at ein gilydd fel cymuned Cymraeg yn ogystal â chymuned gyffredinol. Dwi’n teimlo fel y dylai pawb gefnogi ei gilydd, sydd yn braf iawn i weld tra yma yn Pride.

Ymlacia

Matthew, 23 – Ymlacia myn uffar i! Nid yw’n argyfwng, mae’n iawn. Bydda’n chill. Bydd popeth yn iawn yn y pendraw.

Paid rhuthro

Lizzie, 22 – Cymera dy amser, wir dduw.  Ti ddim yn gwybod beth wyt ti ac mae’n gyfnod dryslyd iawn. Cymera’r amser i feddwl pwy wyt ti ac arbrofi gyda’r bobl o’th gwmpas, a dysga o brofiadau’r rhai o’th gwmpas.

Tess, 22 – Paid teimlo pwysau i orfod diffinio dy hun i bawb ar yr un pryd, dwi’n teimlo bod darganfod dy hunaniaeth yn cymryd amser ac felly mae’n bwysig i ti feddwl… gall pethau newid. Mae rhywioldeb yn gyfnewidiol. Cymera dy amser. Nid oes rhaid i ti ddiffinio dy hun yn bendant.

Toby, 15 – Paid bod ofn cymryd dy amser efo’r ffordd rwyt ti’n teimlo. Paid bod ofn arbrofi a newid dy feddwl achos weithiau mae angen i ti gymryd y llwybr anghywir i sylwi mai dyma’r llwybr anghywir. Mae’n iawn i ti feddwl ‘dwi eisiau rhoi tro ar hyn’ ac yna’n sydyn nid yw’r hyn roeddet ti wedi’i feddwl. Mae’n iawn arbrofi a meddwl am bethau ddwywaith. Dwi eisiau i bobl sylwi ei fod yn iawn, beth bynnag wyt ti’n gwneud, yn enwedig os wyt ti’n ifanc a heb ddeall pwy wyt ti eto. Mae angen hyder yn dy hun a sicrhau bod gen ti gylch cefnogaeth dda, mae yna bobl fydd yn deall ac yn derbyn yr hyn rwyt ti’n dweud amdanat ti dy hun. Mae’n bwysig gwneud hynna. A chael ffydd yn y broses hefyd.

Paid a ff***n poeni

Carenza, 20 – Ff**ia unrhyw un sydd yn gwneud i ti deimlo’n drist, nid ydynt yn bwysig.

Bydda’n ti

Maddie, 16 – Bydda’n ti, ac os wyt ti’n cael dy fwlio bydd pethau’n iawn yn y pendraw

Darcey, 23 – Bydda’n ti. Ta waeth beth yw barn pobl eraill, os wyt ti’n hapus yna dyna sy’n bwysig.

Chloe, 21 – Bydda’n ti bob tro. Ni fydd pawb yn hoffi ti. Ni fydd pawb yn cytuno. Ond wyt ti wir angen y bobl yna sydd ddim yn hollol gefnogol ac yn annog pwy wyt ti fel person? Wyt ti wir eu hangen yn dy fywyd? Dy ddewis di yw hynny, ond bydda’n hollol ti, yr hyfryd a’r od, gan fod pobl angen derbyn hynny.

Rhanna garedigrwydd

Matthew, 23 – Byddwch yn garedig â’ch gilydd.

Jess, 18 – I fod yn ddiogel, gwna ymchwil ar-lein. Ac yn enwedig i ddynion traws, paid teimlo bod pethau’n anobeithiol oherwydd prisiau drud pethau, bydd popeth yn digwydd yn y diwedd.

Caru dy hun ac anghofio am berffeithrwydd

Chris, 18 – Bydda’n onest â dy hun a chaniatáu dy hun i fod yn wahanol achos does neb yn anghywir am fod yn nhw’u hunain. Mae’n iawn i fynd drwy’r pethau rwyt ti’n mynd drwyddynt. Ta waeth beth yw barn y bobl o dy gwmpas, fedri di byth newid pwy wyt ti. Darganfod y cariad yna y tu mewn i ti cyn ei rannu gyda neb arall. Darganfod derbyniaeth am y ffordd wyt ti a gwybod bod hynny’n iawn.

Matthew, 23 – Mae pawb yn waith ar y gweill.

Ffion, 15 – O rargian reit, yn enwedig lesbiaidd, plîs paid teimlo atgas at dy hun. Mae’n hollol iawn. Hyd yn oed os wyt ti’n rhywbeth fydd byth yn troi o gwmpas dynion, mae’n iawn! Hyd yn oed os oes gennym y batriarchaeth, hyd yn oed os wyt ti’n gwneud dim â dynion, mae’n hollol iawn a bydd pethau’n iawn. Gobeithio bod y neges yma yn rhoi cysur i rywun i wybod ei fod yn iawn. Nid oes rhaid i ti ymwneud â neb.

Ti ddim ar ben dy hun

Mal, 18 – Mae yna wastad adnoddau i bobl sydd heb lawer o incwm ac i bobl sydd yn gorfod cuddio’r person ydynt oherwydd eu rhieni ac ati. Mae help ar gael bob tro, yn enwedig yn yr ysgolion ddwedwn i. Siarada gyda phobl gallet ti ymddiried ynddynt.

Gwybodaeth Berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.

Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.

Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.

Exit mobile version