Mae angen i bawb gymryd seibiant. Beth bynnag sy’n digwydd yn dy fywyd, mae cymryd ychydig o funudau i ymlacio yn un o’r pethau gorau y gallu di wneud ar gyfer ti dy hun.
Isod ceir rhai dolennau i dy helpu i wneud hynny. Rydym yn gobeithio y byddi di’n eu ffeindio’n ddefnyddiol.
…anadla
Sŵn Cefndir
Synau i helpu i ymlacio. Gallant hefyd dy helpu i ganolbwyntio (gwych os wyt ti am wrando ar rywbeth wrth weithio ond yn ffeindio bod geiriau mewn caneuon yn tynnu sylw gormod):
Synau Natur – Chwaraea a chymysga dy synau natur dy hun
Hwyl Glawog – Gwranda ar sŵn y glaw. Sgrolia i waelod eu tudalen i wrando ar gerddoriaeth wedi cymysgu â’r glaw.
Y Man Tawel
Mae’r prosiect Y Man Tawel yn gartref i offer gwych i leddfu dy feddyliau. Dilyna’r ddolen at eu prif dudalen yn gyntaf, yna edrycha ar eu hoffer ar waelod eu tudalen (uwchben y bar iaith).
Un o’n ffefrynnau ydy’r Ystafell Meddyliau: mae hyn ar gyfer pan fydd dy ymennydd yn llawn meddyliau na fydd yn cau fyny. Teipia dy feddyliau yn y blwch, gwylia tra eu bod yn diflanu, a chael dy atgoffa taw dim ond meddyliau ydynt: dydy meddyliau ddim go iawn ac ni allant dy frifo. Mae sylweddoli yn rhyddhau eu gafael arnat ti.
Mynd ar goll mewn rhywbeth hudol
Paentio nifwl gyda Fflamau Neon
(Neu paentia cynfas: www.jacksonpollock.org)
Calm.com – Dewisa golygfa hamddenol, tro dy seinydd i fyny ac anadla (Mae gan y safle nifer o adnoddau hefyd, ond gallai fod yn eitha neis i aros ar yr hafan)
Rhoi cariad. Derbyn cariad
Mae’r Lle Neisaf ar y Rhyngrwyd yn union hynny. Tudalen ydyw lle gallu di gael cwtsh. Gallu di hefyd anfon dy gwtsh dy hun a negeseuon cefnogol i eraill.
Ystafell Y Wawr – Anfona a derbynia negeseuon o gysur a tawelu meddwl gan bobl ar draws y byd.
Mae’r Manatee Tawelu yn Gofalu amdanat ti
A, pham lai..