Site icon Sprout Cymraeg

Cai, 14: Mae Pobl yn Barnu Pan Ti’n Ddeurywiol

Fel rhan o’r ymgyrch Chwareus nid Amheus, mae Cai, 14 oed, wedi rhannu ei farn am iechyd rhyw a pherthnasau ac wedi siarad am ei brofiad yn cael mynediad i gefnogaeth SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach.

Derbyn cymorth

Dysgais lot o bethau am ryw a pherthnasau o’r we, ond dwi’n lwcus i allu siarad efo fy mam hefyd.

Ers cael fy nghyfeirio at SHOT gan fy ngweithiwr cymdeithasol, rydym wedi siarad am berthnasau, rhyw a’r gyfraith, caniatâd, a bod yn saff ar-lein.

Rydym wedi trafod fy rhywioldeb a sut mae fy ffrindiau a fy nheulu yn fy nghefnogi. Dwi’n hoffi gweld fy ngweithiwr SHOT – rydym yn siarad lot a dwi’n dysgu pethau doeddwn i ddim yn gwybod.

Dim barnu am fy rhywioldeb

Dwi’n hoffi mod i’n gallu dweud unrhyw beth heb gael fy meirniadu.

Weithiau mae bod yn ddeurywiol yn gwneud i bobl dy feirniadu, gan eu bod nhw ddim yn deall.

Bydd siarad yn helpu

Mae’n gallu bod yn ddryslyd i fod yn dy arddegau weithiau. Mae cael rhywun i drafod perthnasau ac iechyd rhyw yn rili pwysig.

Fy nghyngor i yw siarad efo pobl a pheidio poeni amdano. Bydd dy ffrindiau go iawn yn dy helpu.

Hefyd, roedd SHOT yn help mawr imi. Dwi’n teimlo’n hapus ar ôl fy sesiynau oherwydd mae fy ngweithiwr SHOT yn annwyl ac mae’n hawdd siarad efo nhw.

Gwybodaeth berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch.

Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.

Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.

Exit mobile version