Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd ar TheSprout. Mae’n rhannu hanes Anya sydd yn 17 oed, a gafodd cefnogaeth y Tîm Helpu Teuluoedd, rhan o wasanaeth Cefnogaeth a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.
Pam wnes di gysylltu â Phorth i Deuluoedd Caerdydd?
Cafodd Anya ei chyfeirio at Borth i Deuluoedd Caerdydd trwy’r ysgol gan ei bod yn dioddef â “thymer isel a phroblemau gyda hunanddelwedd”. Mae’n dweud bod y broses o gysylltu gyda CACID a chael cymorth wedi bod yn “syml ac yn hawdd i’w ddilyn.”
Pa gefnogaeth derbyniais di?
Roedd y gefnogaeth derbyniodd Anya wedi “helpu gyda phryder”. Roedd yn cael sesiynau unwaith yr wythnos.
Sut mae’r gefnogaeth darparir gan CACID wedi dy helpu di a’r teulu?
Dywedodd Anya bod y “gefnogaeth wedi fy helpu i ddysgu ac wedi tawelu’r meddwl bod gen i ffordd o feddwl gwahanol. Y peth gorau am y gwasanaeth oedd bod dull neu strategaeth newydd i helpu bob tro.
Gwybodaeth berthnasol
Mae hwn yn stori go iawn gan berson ifanc dderbyniodd cymorth gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. I barchu preifatrwydd y bobl ifanc fu’n rhannu eu stori gyda ni, rydym wedi newid yr enwau i’w cadw’n ddienw. I ddarllen mwy o hanesion am sut mae CACID wedi helpu pobl ifanc a’u teuluoedd, clicia yma.
Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar Twitter, Instagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.
I gysylltu gyda CACID am ddim galwa 03000 133 133 neu e-bostia ContactFAS@cardiff.gov.uk.