Site icon Sprout Cymraeg

Galw Ar Yr Artist: Y Da, Y Drwg ar Hyll – Caerdydd Drwy Fy Llygaid i

Cyfunodd Alicia Niebla Gil-Cervantes, 18 oed, ei hadnoddau i greu campwaith sy’n adlewyrchu’r da, y drwg a’r hyll yng Nghaerdydd. Fel ym mhobman, nid yw’r ddinas yn berffaith, ac nid oedd Alicia eisiau inni golli golwg ar y materion a all wneud Caerdydd yn ddinas lai dymunol.

Mae’n dweud wrth TheSprout ei bod wedi gweld gwahanol ochrau i Gaerdydd, ac mae hyn yn dylanwadu ar ei gwaith.

“Rwyf wedi gweld gwahanol ochrau i Gaerdydd ac rwy’n adnabod yr hyll a’r hardd. Yr Hyll yw rhyfeloedd cod post, cam-drin cyffuriau, trais gangiau, tlodi, baw a bryntni. Y prydferth yw undod yn y cymunedau, yr holl barciau hardd a natur yn y ddinas.”

Caerdydd trwy Gelf

Mae gwaith Alicia wedi’i ysbrydoli gan ei phrofiadau hi o Gaerdydd, y da a’r drwg. Mae’r darn ei hun yn darlunio’r olygfa o’i hystafell wely, gyda holl adeiladau eiconig Caerdydd ochr yn ochr, gan adlewyrchu tyndra’r gwahanol gymunedau yng Nghaerdydd. Mae’n dweud bod llawer o’r golygfeydd hyn yng Nghaerdydd wedi dod yn bethau cyfarwydd.

“Am ei fod yn ddinas fach ti’n gweld straeon pobl yn datblygu o bell yn haws. Oherwydd ei faint, rwyt ti’n aml yn gweld pobl dro ar ôl tro. Rwyt ti’n dod i adnabod y rhai sy’n aros yng nghanol y ddinas, er da neu er drwg. Mae yna hefyd ardaloedd rhamantus yng Nghaerdydd fel y Castell a’r arcedau. Rwy’n gweld llawer o fusnesau teuluol yng Nghaerdydd ers amser maith fel The Lazarou Brothers a Barker’s Coffee.”

Roedd Alicia eisiau pwysleisio nad yw Caerdydd yn ddrwg i gyd, ac mae ei theulu wedi bod yma ers 1967, sy’n golygu mai dim ond pedair oed oedd ei thad pan gyrhaeddodd Gaerdydd. Mae’n falch i gael galw’r ddinas amrywiol hon yn gartref iddi, fel y mae’n pwysleisio.

“Mae fy nheulu yn fewnfudwyr i Gaerdydd, a dwi wastad wedi cymysgu gyda phobol o sawl cefndir. Mae Caerdydd yn cynnwys ardaloedd gwahanol iawn. Mae rhai yn amlddiwylliannol iawn fel Butetown a Grangetown.”

Er, mae’n awyddus i ychwanegu bod Caerdydd yn ymestyn y tu hwnt i’r ardaloedd hyn, ac mae’r darlun ehangach o ran cysylltiadau o fewn y ddinas yn aml yn cael ei anwybyddu.

“Mae rhai ardaloedd yn wyn yn bennaf. Mae’n amlwg bod Caerdydd wedi’i gwahanu.”

“Ond dwi hefyd yn teimlo bod Caerdydd wedi rhoi’r gallu i mi gydnabod fy mod yn gallu protestio a bod gen i lais fy hun gallaf ddefnyddio.”

Y Magnum Opus

Mae’r darn, ei hun, ychydig yn wahanol i’r holl ddarnau eraill sy’n cael eu harddangos yn Gwên o Haf. Mewn ystyr llythrennol, dyma’r mwyaf, dyma’r tywyllaf ac mae wedi cymryd lle amlwg yng nghanol pabell TheSprout. 

Mae hefyd yr un mor fawr a thywyll mewn ystyr drosiadol, gan gynnwys gwaed yn diferu o’r craeniau gyda phobl yn ciwio fel lemingod yng ngwaelod maes parcio NCP.

Dywed Alicia ei bod wedi sgowtio’r ardaloedd yng nghanol y ddinas ac o’i chwmpas fel ffynonellau ysbrydoliaeth.

“Treuliais amser yn meddwl am fy mhrofiadau o Gaerdydd a chreu rhai brasluniau arsylwadol. Dyma oedd sail i’m celf wrth iddo ddatblygu dros amser. Roedd rhaid bod yn hyblyg gyda fy nghreadigrwydd i gael y canlyniad gorau i’w ddatblygu.”

“Yna, treuliais beth amser yng Nghanol y Ddinas i arsylwi ychydig. Roedd gen i syniad cychwynnol i baentio pobl ddigartref ond, unwaith eto, roedd yn rhaid i hynny gael ei lywio gan arsylwadau. Rwy’n gobeithio bod hyn wedi bod yn fetaffor da o dlodi mewn dinas hardd.”

Felly, mae celf Alicia yn cynnig adlewyrchiad cywir o’r hyn y mae’r ddinas yn ei olygu iddi, a sut mae hi’n gweld pob agwedd ar fywyd yma. Wedi’r cyfan, dyma gafodd ei chomisiynu i wneud.

Ysbrydoliaeth

Mae’n bosibl bod artistiaid eraill wedi ysbrydoli ei hagwedd cynlluniedig. Mae mabwysiadu ymagwedd o’r fath lle mae’r broses o greu gwaith celf wedi bod yn ddawn arbennig iawn.

“Bues i weld gwaith Grayson Perry ym Mryste, a fu’n gweithio gyda phobl ifanc, cymunedau a’r heddlu i greu gwaith celf ar anawsterau a bywydau pobl ifanc sy’n ymwneud â thrais gangiau a rhyfel cod post – teitl y gwaith oedd Kings of Nowhere.”

“Roedd yn ddiddorol gweld sut y treuliodd ei amser yn ymchwilio a dod i wybod beth oedd yn digwydd cyn ymrwymo i wneud y gwaith.”

Y wers i’w dysgu o gelf Alicia, ac o’r profiadau a’i harweiniodd i drosglwyddo’r darn hwn am Gaerdydd, yw nad oes dim yn berffaith.

Mae dwy ochr i bob darn arian, ac nid yw’r ddinas hon yn wahanol. Efallai bod dyblygrwydd ein strydoedd yn gyflwr naturiol o fod, ond nid yw hynny o reidrwydd yn beth drwg. Mae pawb rwyt ti’n pasio ar y stryd wedi byw profiadau gwahanol, a byddai bywyd yn ddiflas pe baem i gyd yn profi’r un pethau. Ni fyddai dim i siarad amdano pan fyddwn yn cyfarfod â phobl newydd.

Efallai mai dyblygrwydd yw’r gair anghywir i’w ddefnyddio, oherwydd gall fod mwy na dwy ochr i’r ddinas hon.

Beth bynnag, mae darn Alicia yn bendant wedi bod yn destun siarad yn yr ŵyl. Mae wedi ysgogi trafodaeth na fydd byth yn cael ei datrys. Mae ei berthnasedd cyfoes yn sicr wedi taro tant neu ddau’r wythnos arddangos hon.

“Roeddwn i eisiau cyflwyno gwirionedd creulon Caerdydd a’i fod yn rhywbeth y gall pobl ifanc Caerdydd uniaethu ag ef. Mae angen llais ar y bobl rydw i wedi ceisio eu cynrychioli yma, a gobeithio bod fy nghelf wedi gwneud hynny.”

Gwybodaeth berthnasol

Os hoffet weld mwy am ein hartistiaid a’u gwaith, clicia yma i weld gwaith RosieFaaris, Farah, Eshaan, Nalani, a Saabiqah.

Exit mobile version