Site icon Sprout Cymraeg

Alex a Gavin: Cefnogi Dau Frawd i Wella Eu Perthynas

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd ar TheSprout. Mae’n rhannu hanes Alex a Gavin, dau frawd a gafodd cefnogaeth y Tîm Helpu Teuluoedd, rhan o wasanaeth Cefnogaeth a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Pam wnaethoch chi gysylltu â Phorth i Deuluoedd Caerdydd?

Cyn derbyn cefnogaeth, cysylltodd y ddau fachgen â Phorth i Deuluoedd Caerdydd i weld pa gymorth oedd ar gael.

Mae Gavin, sydd yn 14, yn dweud ei fod wedi cysylltu â CACID gan ei fod, “angen help gyda fy ASD. Roeddwn i eisiau ffitio i mewn a ddim teimlo fy mod i’n sefyll allan. Roeddwn yn cael fy mwlio yn yr ysgol, ond mae hynny wedi stopio nawr.”

Dywedodd Alex (brawd bach Gavin) sydd yn 11, “roeddwn i angen help yn gyffredinol gan nad oeddwn i’n teimlo fel person da iawn. Cyn chi, roedd Gavin a fi yn dwyn bwyd ac yn mynd ar ein Chromebook er i ni gael ein gwahardd. Roedden ni’n gwneud pethau nad oedd mam eisiau. Roeddwn i hefyd ychydig yn bryderus am fynd i’r ysgol fawr, ond rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.”

Unwaith i’r ddau egluro’r sefyllfa, cawsant eu cyfeirio at dîm Helpu Teuluoedd Caerdydd i gael cefnogaeth.

Pa gefnogaeth derbynioch chi?

Dywedodd Alex bod tîm Helpu Teuluoedd Caerdydd wedi bod yn, “anhygoel yn ein helpu. Roeddem yn arfer ffraeo, ond mae hyn wedi lleihau lot.”

A sut ddigwyddodd hynny?

“Roeddem yn defnyddio LEGO i’m tawelu. Roedd yn fath o therapi i’n helpu ni i gyfathrebu yn well fel teulu,” eglurodd Gavin. Ychwanegodd Alex eu bod yn, “defnyddio cardiau i gychwyn trafodaeth oedd yn bwysig i ni fel teulu, ac yn ein helpu i ddeall ein gilydd yn well.”

Sut mae’r gefnogaeth darparir gan CACID wedi’ch helpu chi a’ch teulu?

Mae Alex yn cyfaddef bod y, “gefnogaeth wedi fy helpu i ddod yn berson gwell ac i wella fy ymddygiad. Rwy’n teimlo’n llawer gwell amdanaf i fy hun ac yn fwy hyderus yn yr hyn gallaf ei wneud nawr. Mae’n gwneud i mi garu mam mwy.”

Roedd Gavin yn cytuno, ac ychwanegodd bod cael mynediad i gefnogaeth CACID “wedi bod yn anhygoel. Mae wedi helpu ni i weithio yn well fel teulu. Mae’r arweiniad, y cyngor a’r mentora cynigwyd wedi helpu’n fawr iawn.”

Pa gyngor fyddech chi yn ei roi i berson ifanc sydd yn profi heriau tebyg?

Dywedodd Alex, “byddwn yn annog pobl ifanc eraill i fynd at CACID fel bod rhywun yn gwrando sydd ddim o’r ysgol neu’r teulu. Nid oedd rhai o’r athrawon yn gwrando arna i, ond teimlais fod CACID yn.”

Ychwanegodd, “mae’n wasanaeth dibynadwy. Nid oeddwn yn sylweddoli cymaint yr oeddwn i eisiau newid fel person, a helpodd nhw i mi sylweddoli hyn a beth oedd angen ei wneud i gyflawni newidiadau.”

Dywedodd Gavin y byddai’n, “cynghori nhw i ddod at CACID. Roeddwn ychydig yn nerfus i gyfarfod â nhw i gychwyn, ond yn ddigon sydyn roeddwn yn teimlo’n hapus. Os nad wyt ti’n sicr pa help rwyt ti ei angen, fe ddylet ti roi tro arno.”

Dywedodd hefyd bod, “siarad gyda fy nheulu wedi helpu hefyd.”

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn stori go iawn gan berson ifanc dderbyniodd cymorth gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. I barchu preifatrwydd y bobl ifanc fu’n rhannu eu stori gyda ni, rydym wedi newid yr enwau i’w cadw’n ddienw. I ddarllen mwy o hanesion am sut mae CACID wedi helpu pobl ifanc a’u teuluoedd, clicia yma.

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar TwitterInstagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

I gysylltu gyda CACID am ddim galwa 03000 133 133 neu e-bostia ContactFAS@cardiff.gov.uk.

Exit mobile version