Pan fyddi di’n sgrolio, nid oes gen ti amser i ymchwilio’n fanwl bob tro, ond mae posib hidlo dy ffrwd yn sydyn mewn pedwar cam.
Mae arbenigwyr digidol wedi creu dull gelwir yn SIFT yn Saesneg, sydd yn helpu ti i feddwl os gall cynnwys fod yn gamarweiniol. Beth am i ni alw hwn yn ddull STAD yn y Gymraeg? Mae STAD yn sefyll am:
- Stopio
- Tracio’r ffynhonnell wreiddiol
- Archwilio’r ffynhonnell
- Darganfod sylw dibynadwy
Mae defnyddio’r pedwar cam yma yn dy helpu i adnabod camwybodaeth (cynnwys damweiniol, camarweiniol ac anghywir) a thwyllwybodaeth (cynnwys bwriadol gamarweiniol ac anghywir). Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd, pan fyddi di’n debygol o weld mwy o wybodaeth a barnau gwleidyddol.
Stopio
Pan fyddi di’n gweld post am y tro cyntaf sy’n gwneud i ti deimlo emosiwn cryf, fel dicter neu syndod, stopia. Paid rhannu, paid gwneud sylwad, a phaid hoffi eto. Gofynna i ti dy hun os wyt ti’n gwybod bod y ffynhonnell yn ddibynadwy mewn gwirionedd. Os nad wyt ti’n siŵr, paid rhannu.
Tracio’r ffynhonnell wreiddiol
Gellir tocio neu olygu fideos a lluniau a gall hyn newid y cyd-destun gwreiddiol. Gall darn fideo byr o wleidydd greu’r argraff anghywir – efallai bod y fersiwn llawn yn dweud stori wahanol. Ceisia ddod o hyd i’r fersiwn wreiddiol bob amser cyn i ti gredu’r clip a’i rannu. Bydd hyn yn helpu ti i weld y darlun lawn.
Archwilio’r ffynhonnell
Nid oes rhaid gwneud gwiriad cefndir llawn. Clicia ar y proffil. Ai allfa newyddion nad wyt ti wedi clywed amdano ydyw? Ai cyfrif ar hap gydag ychydig iawn o ddilynwyr, neu wedi ei greu o fewn y mis diwethaf? Os yw’r ‘newyddion’ yn dod o dudalen meme, mae’n werth edrych i mewn ymhellach iddo.
Darganfod sylw amrywiol
Os mai dim ond mewn un lle y mae honiad yn ymddangos, chwilia am dystiolaeth bellach. Chwilia am y pennawd ar wefannau newyddion gwahanol neu beiriant chwilio. Mae gweld sut y mae allfeydd gwahanol yn adrodd ar stori yn gallu helpu ti i weld y darlun llawn a gwneud penderfyniad gwybodus dy hun.
Troi STAD yn arferiad
Y ffordd orau i ddod yn dda yn y dull STAD yw ymarfer pentyrru arferion. Dyma dric syml ble gallet ti gysylltu arferiad bach, newydd â rhywbeth rwyt ti eisoes yn ei wneud bob dydd.
Meddylia amdano fel hyn: Rwyt ti eisoes yn edrych ar dy hysbysiadau neu’n sgrolio ar gyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y byddi di’n deffro.
I ‘bentyrru’ dy arferion, ychwanega un cam cyflym:
- Pan fyddi di’n gweld post newyddion ar dy ffrwd…
- …agora ap neu wefan newyddion dibynadwy ar unwaith i weld os ydyn nhw’n adrodd yr un peth.
Trwy ychwanegu’r gwiriad cyflym yma at dy drefn arferol, rwyt ti’n hyfforddi dy ymennydd i adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Mae’n helpu ti i adnabod cynnwys a gynhyrchir gan AI neu glicbait cyn i ti rannu rhywbeth sydd ddim yn wir.
Gwybodaeth bellach
Mae AI bellach yn cael ei ddefnyddio i greu cynnwys hynod realistig. O flogiau a ysgrifennwyd gan AI sy’n edrych fel newyddiaduraeth go iawn i leisiau sy’n swnio’n union fel pobl rwyt ti’n adnabod, mae’n anoddach nag erioed ymddiried yn dy lygaid (a dy glustiau!). Wyt ti’n meddwl dy fod di’n gallu dweud y gwahaniaeth? Chwarae ein gêm ‘Hidlo’r Ffug?’ i ymarfer dy sgiliau.
Mae’r blog yma’n rhan o’r ymgyrch Gwirio Dy Ffrwd, wedi’i chynllunio i helpu ti i hidlo’r sŵn a ddaw wrth i ni nesáu at etholiadau’r Senedd, nid i ddweud wrthyt ti sut i feddwl. Wrth wylio fideo, darllen post, neu ddilyn ymgeisydd, dy benderfyniad di ydyw ar ddiwedd y dydd.
Mynediad at flogiau, cyngor a gemau rhyngweithiol defnyddiol i helpu ti i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i adnabod a herio’r camwybodaeth a thwyllwybodaeth rwyt ti’n ei weld ar-lein. Ein nod yw sicrhau dy fod di yn gallu gwneud y dewis sy’n teimlo’n iawn i ti yn yr orsaf bleidleisio ar Fai 7fed.
Cer draw i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld fideos ein hymgyrch camwybodaeth a thwyllwybodaeth:
Os wyt ti wedi gweld rhywbeth ar-lein sydd wedi achosi gofid i ti, neu rwyt ti eisiau siarad gyda rhywun, gallet ti gysylltu â’r llinell gymorth Meic. Maent yn cynnig cymorth cyfrinachol, am ddim i blant a phobl ifanc 25 a iau yng Nghymru. Cysyllta ar y ffôn neu neges WhatsApp ar 080880 23456 neu sgwrsia â chynghorwr ar-lein ar www.meic.cymru.
Mae’r ymgyrch hon yn rhan o’r rhaglen Lleisiau Gwybodus ar draws y DU yn cael ei arwain gan Parent Zone a’i gomisiynu gan Ofcom i wella llythrennedd cyfryngau a gwydnwch ar-lein pobl ifanc, yn enwedig pleidleiswyr ifanc. ProMo Cymru, sy’n rhedeg TheSprout, sy’n cyflwyno’r ymgyrch yma yng Nghymru.
