Site icon Sprout Cymraeg

Ymdopi â Straen Arholiadau

Nid yw straen yn beth pleserus, yn ddefnyddiol nac yn iachus. Yn anffodus, mae’n beth cyffredin iawn yn ystod tymor yr arholiadau, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r lefelau straen ac i ddod o hyd i gefnogaeth os ydynt yn mynd yn rhy uchel.

Yn ffodus, mae yna lawer o gefnogaeth allan yna i fyfyrwyr dan straen. Os mai chi neu’n aelod o’r teulu sydd yn mynd drwy’r cyfnod yma, mae’n ddefnyddiol bod yn ymwybodol o dechnegau sy’n helpu gyda straen ac i’w hannog yn gyson.

Dyma ychydig o ffyrdd defnyddiol i geisio ymdopi gyda phryder arholiadau:

Anweswch Rywbeth Ciwt

Mae anwesu rhywbeth bach ac addoladwy yn rhyddhau endorffinau yn eich corff fydd yn eich ymlacio. Dyna pam bod sawl prifysgol wedi agor ystafelloedd cŵn bach ac ystafelloedd micro-foch i gynorthwyo gyda straen yn ystod tymor yr arholiadau.

Mae ymchwil yn awgrymu bod edrych ar luniau o bethau ciwt yn gallu gwella lefelau canolbwyntio, felly hyd yn oed os nad allwch chi ddod o hyd i ystafell cŵn bach go iawn yna cliciwch ar y dolenni uchod neu ewch draw i’r Daily Squee a threulio ychydig funudau yn hyfrydu ar y sgrin.

Gorweddwch

Mae napio yn gwneud mwy nag lleihau straen: mae hefyd yn helpu gyda datrys problemau a’r cof sydd yn gallu bod yn fuddiol iawn wrth adolygu.

Tra bod dod o hyd i wely yn gallu bod yn sialens yn ystod y dydd, mae nifer cynyddol o sefydliadau addysgiadol yn mabwysiadu ‘beditation‘: myfyrio wrth orwedd (sydd yn aml yn arwain at ficro-nap nes i rywun eich procio). Mae’r ymarfer yn ymwneud â thalu sylw i’ch meddyliau a’ch teimladau tra mewn cyflwr o ymlacio. Mae gwneud hyn yn rhoi pellter rhyngoch chi a’ch pryderon, yn rhyddhau eu gafael arnoch chi.

Gwrandewch Ar Eich Corff

Yn symud ymlaen o’r pwynt uchod: gwrandewch ar eich corff. Os ydych chi’n teimlo fel bod clwm yn eich stumog neu bwysau ar eich brest yna mae angen cydnabod hynny. Yn hytrach nag ceisio’i anwybyddu, pwyswch i mewn i’r teimlad hwnnw. Dywedwch wrthych chi’ch hun “Dwi’n teimlo’n nerfus/dan bwysau/yn poeni ond mae hynny’n iawn.” Derbyniwch y teimlad yn lle’i ymladd a bydd yn dechrau pylu. Os ydych chi’n teimlo straen arbennig o ddwys, canolbwyntiwch ar eich anadlu am ychydig funudau.

Mae adolygu ac eistedd arholiadau yn llosgi llawer iawn o galorïau felly mae’n bwysig bwyta. Bydd eich stumog yn gadael i chi wybod pan rydych eisiau bwyd, yr unig beth sydd angen ei wneud ydy gwrando arno. Os ydych chi’n teimlo’n stiff: ymestynnwch. Os ydych chi’n teimlo’n flinedig: cysgwch, peidiwch agor tun arall o Red Bull.

Cymerwch Saib

Dydy clymu eich hun i’ch desg ddim y ffordd gorau i adolygu bob tro. Os ydych chi’n gweld eich hun yn ail ddarllen yr un frawddeg drosodd a throsodd: cymerwch saib. Newidiwch yr olygfa. Ewch am dro. Mae cymryd seibiant o rywbeth yn caniatáu i chi ddychwelyd ato gyda phersbectif ffres.

Ffynhonnell: Buzznet

Os ydych chi yn yr arholiad pan mae’r teimlad yma yn dod: nodwch unrhyw nodiadau ar ymyl y papur ac yna trowch y dudalen. Ewch yn ôl at y cwestiwn yna wedyn.

Rhowch Bethau i Mewn i Bersbectif

Ar y cyfan, dydy arholiadau ddim mor bwysig â hynny ac mae posib eu hail eistedd os oes angen. Mae gan rhai pobl ymennydd sydd yn gweithio’n dda o fewn fformat arholiadau; dydy eraill ddim. Nid oes dim o’i le efo bod yn rhywun sydd yn meddwl bod strwythur arholiadau yn anodd, ac nid yw’n dweud dim am eich deallusrwydd.

Ffynhonnell: Live.Better

Cofiwch am y nifer o bobl lwyddiannus sydd ddim wedi gorffen yr ysgol uwchradd hyd yn oed. Gwrandwch ar Sunscreen gan Baz Luhrmann.

Siaradwch Amdano

Mae rhannu problem yn haneru problem, a dwi’n gwarantu nad chi yw’r unig un sydd dan straen arholiadau. Mynegwch eich hun yn y ffordd sydd yn gweithio orau i chi: siarad, ysgrifennu, cerddoriaeth, celf, ymarfer corff… ond peidiwch cadw’r poenau i mewn. Mae yna nifer o gymunedau ar-lein ble gall myfyrwyr fynegi eu hunain yn ddiogel a chefnogi’i gilydd.

Os nad ydych chi’n sicr ble i droi, gallwch chi siarad efo Meic am ddim. (Byddant hefyd yn bobl dda i siarad â nhw os ydych chi eisiau cychwyn ystafell cŵn bach neu ddosbarthiadau ‘beditation’ yn eich ysgol neu goleg, gan mai eu gwaith nhw ydy helpu chi i gael eich clywed.)

Exit mobile version