Site icon Sprout Cymraeg

Y Frech Goch – Wyt Ti Wedi Dy Amddiffyn?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan achosion o’r frech goch yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Maent yn annog pobl ifanc i weld os ydynt wedi derbyn y brechiadau i gyd.

I ddarganfod beth ydy’r frech goch, pam bod brechiadau’n bwysig, a sut i wybod os wyt ti wedi cael dy imiwneiddio, darllena ymlaen.

Beth ydy’r frech goch?

Mae’r frech goch yn salwch firaol sydd yn heintus iawn. Mae’n achosi twymyn a’r frech ymysg symptomau eraill. Gellir dal yr afiechyd wrth fod mewn cyswllt uniongyrchol gyda pherson heintus, neu wrth i rywun dagu neu disian.

Mae posib atal y frech goch gyda’r brechlyn MMR (frech goch, clwy pennau a rwbela). Cynigir hwn i bob plentyn o gwmpas un oed ac yna ail ddos yn cael ei gynnig pan fyddant tua 4 oed.

Pam y ffwdan?

Er bod y mwyafrif o bobl yn gwella o’r frech goch o fewn tuag wythnos, gall achosi cymhlethdodau difrifol mewn rhai achosion. Am fod posib atal y frech goch gyda brechiadau, mae’r GIG yn annog pawb i gael eu himiwneiddio.

Os wyt ti’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, cymera dau funud i lenwi’r arolwg yma. Bydd hyn yn helpu’r GIG i benderfynu pa ardaloedd sydd â’r perygl mwyaf.

Pam nad yw pawb yn cymryd y brechlyn?

Yn 1998 cyhoeddwyd adroddiad yn honni bod cysylltiad rhwng y brechiad MMR ag awtistiaeth. Profwyd bod yr adroddiad yma yn un ffug. Tynnwyd trwydded feddygol Andrew Wakefield, yr un oedd yn gyfrifol am yr adroddiad, oddi arno. Nid yw’n cael ymarfer meddygaeth yn y DU ers hynny. Ond yn anffodus, roedd y niwed wedi’i wneud yn barod. Dychrynwyd llawer o rieni a phenderfynwyd peidio imiwneiddio’u plant. Golygai hyn mai pobl ifanc sydd dan 25 oed heddiw, yw’r rhai â’r perygl mwyaf o ddal afiechydon ataliadwy fel y frech goch.

Ydw i wedi cael y brechlyn?

Gofynna i dy rieni. Mae’n debyg byddant yn gallu cadarnhau os cefais di’r brechlyn MMR yn blentyn. Os nad allant gofio, gofynna i gael gweld dy lyfr cofnod iechyd plentyn personol (llyfr coch fel arfer, ond gall fod yn binc neu’n las i rai hŷn). Dylai holl fanylion y brechiadau fod yn y llyfr yma, ynghyd â dyddiadau, rhif y swp ac ym mha goes rhoddwyd y pigiad hyd yn oed.

Os nad yw’r llyfr coch ar gael, siarada â’r doctor teulu. Bydd y wybodaeth yma ganddynt. Nid yw’n rhy hwyr, os nad wyt ti wedi derbyn yr holl bigiadau cysyllta â’r feddygfa. Os wyt ti o dan 16 oed efallai bydd angen caniatâd rhiant neu warcheidwad.

Beth os na allaf gael y brechlyn?

Os nad yw dy rieni yn hapus â hyn, yna siarada gyda’r doctor am unrhyw bryderon. Gallant helpu wrth roi gwybodaeth bellach am y brechlyn. Awgryma i dy rieni edrych ar y wybodaeth ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os wyt ti’n poeni am benderfyniad dy rieni yna gallet ti gysylltu â Meic, gallant roi cyngor a chefnogaeth am ddim.

Mae yna rai pobl na chaiff y brechlyn oherwydd alergeddau neu gyflyrau iechyd. Os wyt ti’n un o’r bobl yma, yna gall imiwnedd poblogaeth dy amddiffyn. Pan fydd digon o bobl mewn cymuned yn cael eu himiwneiddio, nid yw’r afiechyd yn gallu lledaenu ac felly’n marw allan cyn iddo gyrraedd person sydd heb ei imiwneiddio. Mae’n rhaid i 90-95% o’r boblogaeth dderbyn y brechlyn er mwyn i imiwnedd poblogaeth fedru gweithio. Anogwch eich ffrindiau a’ch teulu i sicrhau eu bod yn gyfoes â’u brechiadau, gan y bydd hyn yn cadw ti (a nhw) yn ddiogel.

Gwybodaeth bellach:

Exit mobile version