{"id":5502,"date":"2026-04-06T08:02:00","date_gmt":"2026-04-06T08:02:00","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=5502"},"modified":"2026-04-04T10:22:51","modified_gmt":"2026-04-04T10:22:51","slug":"4-cam-i-i-wirio-ffeithiau-dy-ffrwd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/4-cam-i-i-wirio-ffeithiau-dy-ffrwd\/","title":{"rendered":"4 Cam i i Wirio Ffeithiau Dy Ffrwd"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pan fyddi di&#8217;n sgrolio, nid oes gen ti amser i ymchwilio&#8217;n fanwl bob tro, ond mae posib&nbsp; hidlo dy ffrwd yn sydyn mewn pedwar cam.<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae arbenigwyr digidol wedi creu dull gelwir yn SIFT yn Saesneg, sydd yn helpu ti i feddwl os gall cynnwys fod yn gamarweiniol. Beth am i ni alw hwn yn ddull STAD yn y Gymraeg? Mae STAD yn sefyll am:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Stopio<\/li>\n\n\n\n<li>Tracio&#8217;r ffynhonnell wreiddiol<\/li>\n\n\n\n<li>Archwilio&#8217;r ffynhonnell<\/li>\n\n\n\n<li>Darganfod sylw dibynadwy<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae defnyddio&#8217;r pedwar cam yma yn dy helpu i adnabod camwybodaeth (cynnwys damweiniol, camarweiniol ac anghywir) a thwyllwybodaeth (cynnwys bwriadol gamarweiniol ac anghywir). Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod cyn etholiadau&#8217;r Senedd, pan fyddi di\u2019n debygol o weld mwy o wybodaeth a barnau gwleidyddol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/image-2.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/image-2.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5503\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/image-2.jpeg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/image-2-300x169.jpeg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/image-2-768x432.jpeg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Stopio<\/h3>\n\n\n\n<p>Pan fyddi di&#8217;n gweld post am y tro cyntaf sy&#8217;n gwneud i ti deimlo emosiwn cryf, fel dicter neu syndod, stopia. Paid rhannu, paid gwneud sylwad, a phaid hoffi eto. Gofynna i ti dy hun os wyt ti&#8217;n gwybod bod y ffynhonnell yn ddibynadwy mewn gwirionedd. Os nad wyt ti&#8217;n si\u0175r, paid rhannu.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Tracio&#8217;r ffynhonnell wreiddiol<\/h3>\n\n\n\n<p>Gellir tocio neu olygu fideos a lluniau a gall hyn newid y cyd-destun gwreiddiol. Gall darn fideo byr o wleidydd greu&#8217;r argraff anghywir &#8211; efallai bod y fersiwn llawn yn dweud stori wahanol. Ceisia ddod o hyd i&#8217;r fersiwn wreiddiol bob amser cyn i ti gredu&#8217;r clip a&#8217;i rannu. Bydd hyn yn helpu ti i weld y darlun lawn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Archwilio&#8217;r ffynhonnell<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid oes rhaid gwneud gwiriad cefndir llawn. Clicia ar y proffil. Ai allfa newyddion nad wyt ti wedi clywed amdano ydyw? Ai cyfrif ar hap gydag ychydig iawn o ddilynwyr, neu wedi ei greu o fewn y mis diwethaf? Os yw&#8217;r &#8216;newyddion&#8217; yn dod o dudalen meme, mae&#8217;n werth edrych i mewn ymhellach iddo.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darganfod sylw amrywiol<\/h3>\n\n\n\n<p>Os mai dim ond mewn un lle y mae&nbsp; honiad yn ymddangos, chwilia am dystiolaeth bellach. Chwilia am y pennawd ar wefannau newyddion gwahanol neu beiriant chwilio. Mae gweld sut y mae allfeydd gwahanol yn adrodd ar stori yn gallu helpu ti i weld y darlun llawn a gwneud penderfyniad gwybodus dy hun.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/image-3.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/image-3.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5504\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/image-3.jpeg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/image-3-300x169.jpeg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/image-3-768x432.jpeg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Troi STAD yn arferiad<\/h3>\n\n\n\n<p>Y ffordd orau i ddod yn dda yn y dull STAD yw ymarfer pentyrru arferion. Dyma dric syml ble gallet ti gysylltu arferiad bach, newydd \u00e2 rhywbeth rwyt ti eisoes yn ei wneud bob dydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddylia amdano fel hyn: Rwyt ti eisoes yn edrych ar dy hysbysiadau neu&#8217;n sgrolio ar gyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y byddi di&#8217;n deffro.<\/p>\n\n\n\n<p>I &#8216;bentyrru&#8217; dy arferion, ychwanega un cam cyflym:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pan fyddi di&#8217;n gweld post newyddion ar dy ffrwd\u2026<\/li>\n\n\n\n<li>\u2026agora ap neu wefan newyddion dibynadwy ar unwaith i weld os ydyn nhw&#8217;n adrodd yr un peth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Trwy ychwanegu&#8217;r gwiriad cyflym yma at dy drefn arferol, rwyt ti&#8217;n hyfforddi dy ymennydd i adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n helpu ti i adnabod cynnwys a gynhyrchir gan AI neu glicbait cyn i ti rannu rhywbeth sydd ddim yn wir.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth bellach<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae AI bellach yn cael ei ddefnyddio i greu cynnwys hynod realistig. O flogiau a ysgrifennwyd gan AI sy&#8217;n edrych fel newyddiaduraeth go iawn i leisiau sy&#8217;n swnio&#8217;n union fel pobl rwyt ti&#8217;n adnabod, mae&#8217;n anoddach nag erioed ymddiried yn dy lygaid (a dy glustiau!). <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r blog yma\u2019n rhan o\u2019r <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd%20\/\">ymgyrch Gwirio Dy Ffrwd<\/a>, wedi\u2019i chynllunio i helpu ti i hidlo\u2019r s\u0175n a ddaw wrth i ni nes\u00e1u at etholiadau\u2019r Senedd, nid i ddweud wrthyt ti sut i feddwl. Wrth wylio fideo, darllen post, neu ddilyn ymgeisydd, dy benderfyniad di ydyw ar ddiwedd y dydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mynediad at flogiau, cyngor a gemau rhyngweithiol defnyddiol i helpu ti i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i adnabod a herio\u2019r camwybodaeth a thwyllwybodaeth rwyt ti\u2019n ei weld ar-lein. Ein nod yw sicrhau dy fod di yn gallu gwneud y dewis sy\u2019n teimlo\u2019n iawn i ti yn yr orsaf bleidleisio ar Fai 7fed.<\/p>\n\n\n\n<p>Cer draw i\u2019n sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld fideos ein hymgyrch camwybodaeth a thwyllwybodaeth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.tiktok.com\/@feedthesprout?lang=en-GB\">TikTok<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/feedthesprout\/\">Instagram<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/@TheSproutTV\">YouTube<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os wyt ti wedi gweld rhywbeth ar-lein sydd wedi achosi gofid i ti, neu rwyt ti eisiau siarad gyda rhywun, gallet ti gysylltu \u00e2\u2019r llinell gymorth <a href=\"http:\/\/www.meic.cymru\/\">Meic<\/a>. Maent yn cynnig cymorth cyfrinachol, am ddim i blant a phobl ifanc 25 a iau yng Nghymru. Cysyllta ar y ff\u00f4n neu neges WhatsApp ar 080880 23456 neu sgwrsia \u00e2 chynghorwr ar-lein ar www.meic.cymru.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Mae\u2019r ymgyrch hon yn rhan o\u2019r rhaglen Lleisiau Gwybodus ar draws y DU yn cael ei arwain gan Parent Zone a\u2019i gomisiynu gan Ofcom i wella llythrennedd cyfryngau a gwydnwch ar-lein pobl ifanc, yn enwedig pleidleiswyr ifanc. <\/em><a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"><em>ProMo Cymru<\/em><\/a><em>, sy\u2019n rhedeg <\/em><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/\"><em>TheSprout<\/em><\/a><em>, sy\u2019n cyflwyno\u2019r ymgyrch yma yng Nghymru.<\/em><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"256\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1-1024x256.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5491\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1-1024x256.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1-300x75.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1-768x192.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pan fyddi di&#8217;n sgrolio, nid oes gen ti amser i ymchwilio&#8217;n fanwl bob tro, ond mae posib&nbsp; hidlo dy ffrwd yn sydyn mewn pedwar cam. Mae arbenigwyr digidol wedi creu&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":5506,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1664],"tags":[1665,1674,1666,1680,1679,1667,1193,1672,1673,1677],"class_list":["post-5502","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwirio-dy-ffrwd","tag-camwybodaeth","tag-camwybodaeth-a-thwyllwybodaeth","tag-camwybodaeth-etholiadau-senedd","tag-dull-sift","tag-dull-stad","tag-gwirio-dy-ffrwd","tag-gwirio-ffeithiau","tag-llythrennedd-digidol","tag-llythrennedd-digidol-etholiadau-senedd","tag-twyllwybodaeth"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5502","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5502"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5502\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5514,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5502\/revisions\/5514"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5506"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5502"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5502"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5502"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}