{"id":5487,"date":"2026-04-06T08:00:00","date_gmt":"2026-04-06T08:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=5487"},"modified":"2026-04-10T09:01:58","modified_gmt":"2026-04-10T09:01:58","slug":"gwirio-dy-ffrwd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/","title":{"rendered":"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Wyt ti&#8217;n ddigon hen i bleidleisio yn Etholiadau&#8217;r Senedd? Gall y rhyngrwyd fod yn lle eithaf anhrefnus yn y cyfnod cyn etholiadau. Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir ac yn dysgu ti sut i wirio ffeithiau dy ffrwd er mwyn gallu gwneud dewis gwybodus.<\/h2>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Grym dy bleidlais<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan bobl ifanc 16 a 17 oed hawl gyfreithiol i bleidleisio yn etholiadau&#8217;r <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/\">Senedd<\/a> yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi llais uniongyrchol i ti yn y ffordd y mae Cymru&#8217;n cael ei rhedeg. Mae&#8217;n cael effaith ar bopeth o iechyd ac addysg i&#8217;r amgylchedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Weithiau, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng ffeithiau, barn a newyddion ffug yn y byd digidol. Mae yna lawer o wybodaeth yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol. Gall rhywfaint ohono fod yn ddefnyddiol iawn wrth geisio dewis dy bleidlais, ond mae rhywfaint ohono\u2019n gallu bod yn ddryslyd neu&#8217;n gamarweiniol hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r ymgyrch Gwirio Dy Ffrwd wedi\u2019i chynllunio i helpu ti i hidlo\u2019r s\u0175n, nid i ddweud wrthyt sut i feddwl. Wrth wylio, darllen post, neu ddilyn ymgeisydd, dy benderfyniad di ydyw ar ddiwedd y dydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn darparu\u2019r adnoddau i helpu ti i fagu\u2019r sgiliau sydd eu hangen i adnabod a herio\u2019r camwybodaeth a&#8217;r twyllwybodaeth rwyt ti\u2019n ei weld ar-lein. Ein nod yw sicrhau dy fod di\u2019n gallu gwneud y dewis sydd orau i ti yn yr orsaf bleidleisio ar Fai 7fed.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Blog-1-Landing-Page-2-1024x576.jpg\" alt=\"Group of teens sat on steps outside using their mobile phones\" class=\"wp-image-46754\"\/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Camwybodaeth a thwyllwybodaeth<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae camwybodaeth yn gynnwys sy&#8217;n gamarweiniol ac yn anghywir, ond nid yn fwriadol. Mae pobl yn rhannu camwybodaeth yn ddidwyll, gan gredu ei fod yn gywir. Gallai hyn fod yn ffrind yn ail-bostio si am bolisi maen nhw&#8217;n credu sy&#8217;n wir. Efallai nad ydyn nhw&#8217;n sylweddoli bod rhywbeth yn ffug, ond mae&#8217;n dal i ledaenu dryswch.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae twyllwybodaeth yn gynnwys sy&#8217;n fwriadol gamarweiniol ac yn anghywir. Mae pobl yn ei rannu gyda&#8217;r bwriad o dwyllo ac achosi niwed o bosibl. Mewn etholiadau, gall hyn gynnwys fideos &#8216;deepfake&#8217; neu ffug ddogfennau a ddatgelwyd. Gall y math yma o bethau sbarduno ymateb emosiynol, fel dicter neu siom, a gall atal rhywun rhag pleidleisio&#8217;n gyfan gwbl.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Troi gwirio ffeithiau yn arfer<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n cymryd amser i fagu dawn newydd, ond gellir symleiddio hyn wrth ddefnyddio\u2019r tric pentyrru arferion. Dyma pan fydd rhywun yn defnyddio arfer sydd ganddynt eisoes (fel edrych ar hysbysiadau) ac yn &#8216;pentyrru&#8217; arfer newydd, positif ar ei ben.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn hytrach na cheisio cofio gwirio ffeithiau popeth, ceisia ei baru gyda dy sgrolio arferol. Byddwn yn rhannu rhai awgrymiadau i helpu ti i ymdopi \u00e2 chamwybodaeth a thwyllwybodaeth gyda&#8217;n pentwr arferion, yn troi&#8217;r gwiriadau yma&#8217;n rhan naturiol o dy drefn ddigidol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyngor i wirio cywirdeb cynnwys ar-lein<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymchwilia\u2019r ffynhonnell<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n syniad da edrych ar bwy rannodd y wybodaeth yn wreiddiol. Chwilia am gynnwys o ffynonellau newyddion dibynadwy. Bydda&#8217;n ofalus o gyfrifon dienw neu broffiliau a gr\u00ebwyd yn ddiweddar iawn. Hefyd, gwiria gyfeiriad y wefan. Mae safleoedd ffug yn aml yn twyllo pobl wrth ddefnyddio brandio ac URLs sy&#8217;n debyg iawn i rai&#8217;r brandiau newyddion eraill.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pentwr arferion:<\/strong> Pan rwyt ti&#8217;n gweld post ar gyfryngau cymdeithasol, cyn i ti ddechrau darllen, tapia enw&#8217;r proffil yn gyflym i wirio dyddiad creu&#8217;r cyfrif a sawl dilynwr sydd ganddynt.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwirio&#8217;r dystiolaeth<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae postiadau dibynadwy yn cyfeirio at dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys dolenni i drawsgrifiadau swyddogol y Senedd neu ddata gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Os yw post yn gwneud honiad mawr heb ddangos ei ffynhonnell, gallai fod yn gamwybodaeth neu&#8217;n dwyllwybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae delweddau a fideos AI yn gyffredin, felly sicrha dy fod yn gwirio&#8217;r rhain ddwywaith. Defnyddia <a href=\"https:\/\/lens.google\/\">chwiliad delwedd wrthdro<\/a> (reverse image search) i weld os yw llun yn cael ei ddefnyddio allan o gyd-destun. Ar gyfer fideos, edrycha&#8217;n ofalus ar geg neu ddwylo&#8217;r person. Yn aml mae gan &#8216;deepfakes&#8217; f\u00e2n ddiffygion cynnil neu batrymau lleferydd robotig sydd ddim yn cyfateb i&#8217;r person go iawn. Os nad wyt ti\u2019n gwybod, gwiria ef gyda ffynonellau newyddion dibynadwy.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pentwr arferion:<\/strong> Cyn i ti rannu post, treulia 30 eiliad yn defnyddio peiriant chwilio fel Google i chwilio&#8217;r &#8220;dystiolaeth&#8221; i weld os yw&#8217;n bodoli mewn gwirionedd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/Blog-1-Landing-Page-3-1024x576.jpg\" alt=\"Teen girl looks confused at her phone screen\" class=\"wp-image-46755\"\/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Noda dy emosiynau<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall twyllwybodaeth sbarduno emosiynau cryf. Os yw post yn gwneud i ti deimlo&#8217;n ddig neu&#8217;n achosi sioc, yna rwyt ti&#8217;n fwy tebygol o ymgysylltu \u00e2&#8217;r post hwnnw, sy&#8217;n golygu efallai dy fod di&#8217;n helpu i rannu&#8217;r twyllwybodaeth yna ymhellach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os yw pennawd yn defnyddio llythrennau mawr i gyd neu eiriau fel &#8220;ffiaidd&#8221; neu &#8220;drwg&#8221;, gallai fod yn dacteg i ddylanwadu ti. Hyd yn oed os yw sefyllfa yn un drwg go iawn, mae&#8217;r math yma o iaith yn gallu bod yn arwydd bod rhywun yn gwthio barn arnat ti yn hytrach nag rhoi&#8217;r ffeithiau&#8217;n unig i ti.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pentwr arferion:<\/strong> Bob tro rwyt ti&#8217;n teimlo emosiwn negyddol wrth sgrolio, cymera un anadl ddofn a gofyn, &#8220;Ydy&#8217;r post yma&#8217;n ceisio rhoi gwybodaeth i mi, neu&#8217;n ceisio cael ymateb gen i yn unig?&#8221;<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Chwilia am gonsensws<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os yw stori fawr yn wir, bydd llawer o ffynonellau newyddion yn ei hadrodd. Gwiria wahanol wefannau i weld a ydyn nhw&#8217;n cytuno ar y ffeithiau. Os mai dim ond ar un cyfrif cyfryngau cymdeithasol y mae sgandal yn bodoli, bydda&#8217;n ofalus. Defnyddia adnoddau fel <a href=\"https:\/\/fullfact.org\/\">Full Fact<\/a> neu <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/bbcverify\">BBC Verify<\/a> i wirio&#8217;r honiadau. Gallet ti hefyd wirio ffeithiau polis\u00efau Llywodraeth Cymru ar eu <a href=\"https:\/\/cofnodcywir.blog.llyw.cymru\/\">blog Cofnod Cywir<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pentwr arferion:<\/strong> Pan fydd stori newyddion yn torri ar dy ffrwd cyfryngau cymdeithasol, edrycha ar wefan newyddion dibynadwy i weld a ydyn nhw&#8217;n adrodd yr un peth.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adnabod y gwahaniaeth rhwng ffaith a barn<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir profi ffeithiau gyda data. Dim ond dehongliad un person yw barn. Cofia fod cyfrifon parodi hefyd yn bodoli i wneud j\u00f4cs am wleidyddiaeth. Gwiria bio cyfrif bob amser i weld os mai j\u00f4c ydyw cyn cymryd y wybodaeth o ddifrif.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pentwr arferion:<\/strong> Pan fyddi di&#8217;n darllen post sy&#8217;n swnio&#8217;n rhy dda (neu&#8217;n rhy ddrwg) i fod yn wir, gwna&#8217;n arfer i bwyso ar y llun proffil a darllen llinell gyntaf y bio. Efallai bydd yn helpu ti i ddeall y bwriad y tu \u00f4l iddo, er enghraifft, os mai j\u00f4c neu&#8217;n ddarn barn ydyw yn hytrach nag newyddion.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Archwilio ymhellach<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cer i weld adnoddau ein hymgyrch i archwilio mwy:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/studio--studio-4716795029-a0158.us-central1.hosted.app\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Hidlo&#8217;r Ffug.<\/a> Fedri di ddweud y gwahaniaeth rhwng ffaith a chamwybodaeth? Chwarae ein g\u00eam i wella dy sgiliau<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/studio--studio-7739825966-f1620.us-central1.hosted.app\/\" title=\"\">Beth yw dy Steil Sgrolio?<\/a> Rho dro ar ein cwis gwirio&#8217;r feib<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/4-cam-i-i-wirio-ffeithiau-dy-ffrwd\/\" title=\"\">4 Cam i i Wirio Ffeithiau Dy Ffrwd<\/a> &#8211; Blog Cyngor<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/torrir-siambr-adlais\/\" title=\"\">Torri&#8217;r Siambr Adlais <\/a>&#8211; Blog Cyngor<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cer draw i&#8217;n sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld fideos ein hymgyrch camwybodaeth a thwyllwybodaeth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.tiktok.com\/@feedthesprout?lang=en-GB\">TikTok<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/feedthesprout\/\">Instagram<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/@TheSproutTV\">YouTube<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti wedi gweld rhywbeth ar-lein sydd wedi achosi gofid i ti, neu rwyt ti eisiau siarad gyda rhywun, gallet ti gysylltu \u00e2\u2019r llinell gymorth <a href=\"http:\/\/www.meic.cymru\">Meic<\/a>. Maent yn cynnig cymorth cyfrinachol, am ddim i blant a phobl ifanc 25 a iau yng Nghymru. Cysyllta ar y ff\u00f4n neu neges WhatsApp ar 080880 23456 neu sgwrsia \u00e2 chynghorwr ar-lein ar www.meic.cymru<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Mae&#8217;r ymgyrch hon yn rhan o&#8217;r rhaglen Lleisiau Gwybodus ar draws y DU yn cael ei arwain gan Parent Zone a&#8217;i gomisiynu gan Ofcom i wella llythrennedd cyfryngau a gwydnwch ar-lein pobl ifanc, yn enwedig pleidleiswyr ifanc. <\/em><a href=\"https:\/\/promo.cymru\/cy\/\"><em>ProMo Cymru<\/em><\/a><em>, sy&#8217;n rhedeg <\/em><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/\"><em>TheSprout<\/em><\/a><em>, sy&#8217;n cyflwyno&#8217;r ymgyrch yma yng Nghymru.<\/em><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"256\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1-1024x256.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5491\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1-1024x256.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1-300x75.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1-768x192.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Banner-WELSH-1.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wyt ti&#8217;n ddigon hen i bleidleisio yn Etholiadau&#8217;r Senedd? Gall y rhyngrwyd fod yn lle eithaf anhrefnus yn y cyfnod cyn etholiadau. Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":5489,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1664],"tags":[1665,1674,1666,1671,1285,1676,1237,1667,1668,1193,1669,1670,1672,1673],"class_list":["post-5487","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwirio-dy-ffrwd","tag-camwybodaeth","tag-camwybodaeth-a-thwyllwybodaeth","tag-camwybodaeth-etholiadau-senedd","tag-datgelur-gwir","tag-etholiad","tag-etholiadau-senedd","tag-etholiadaur-senedd","tag-gwirio-dy-ffrwd","tag-gwirio-dy-ffrwd-hifdlor-ffug","tag-gwirio-ffeithiau","tag-hidlor-ffug","tag-hidlor-ffug-a-datgelur-gwir","tag-llythrennedd-digidol","tag-llythrennedd-digidol-etholiadau-senedd"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"aioseo_head":"\n\t\t<!-- All in One SEO 4.9.9 - aioseo.com -->\n\t<meta name=\"description\" content=\"Digon hen i bleidleisio yn Etholiadau&#039;r Senedd? Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu sut i wirio dy ffwrd er mwyn pleidleisio ar ffeithiau.\" \/>\n\t<meta name=\"robots\" content=\"max-image-preview:large\" \/>\n\t<meta name=\"author\" content=\"sproutadminer\"\/>\n\t<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/\" \/>\n\t<meta name=\"generator\" content=\"All in One SEO (AIOSEO) 4.9.9\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:site_name\" content=\"Sprout Cymraeg | Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:title\" content=\"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth |\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:description\" content=\"Digon hen i bleidleisio yn Etholiadau&#039;r Senedd? Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu sut i wirio dy ffwrd er mwyn pleidleisio ar ffeithiau.\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/\" \/>\n\t\t<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-04-06T08:00:00+00:00\" \/>\n\t\t<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-04-10T09:01:58+00:00\" \/>\n\t\t<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary\" \/>\n\t\t<meta name=\"twitter:title\" content=\"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth |\" \/>\n\t\t<meta name=\"twitter:description\" content=\"Digon hen i bleidleisio yn Etholiadau&#039;r Senedd? Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu sut i wirio dy ffwrd er mwyn pleidleisio ar ffeithiau.\" \/>\n\t\t<script type=\"application\/ld+json\" class=\"aioseo-schema\">\n\t\t\t{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#article\",\"name\":\"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth |\",\"headline\":\"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth\\u00a0\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/author\\\/sproutadminer\\\/#author\"},\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"url\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/2\\\/2026\\\/04\\\/Blog-1-Landing-Page.jpg\",\"width\":1440,\"height\":810,\"caption\":\"Bachgen ifanc yn edrych yn ddryslyd ar ei ff\\u00f4n\"},\"datePublished\":\"2026-04-06T08:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-10T09:01:58+00:00\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#webpage\"},\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#webpage\"},\"articleSection\":\"Gwirio Dy Ffrwd, camwybodaeth, camwybodaeth a thwyllwybodaeth, camwybodaeth etholiadau senedd, datgelu'r gwir, etholiad, etholiadau senedd, Etholiadau&#039;r Senedd, gwirio dy ffrwd, gwirio dy ffrwd: Hifdlo'r ffug, gwirio ffeithiau, Hidlo'r ffug, Hidlo'r ffug a datgelu'r gwir, llythrennedd digidol, llythrennedd digidol etholiadau senedd\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#breadcrumblist\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy#listItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\",\"nextItem\":{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/category\\\/ymgyrchoedd\\\/#listItem\",\"name\":\"Ymgyrchoedd\"}},{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/category\\\/ymgyrchoedd\\\/#listItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ymgyrchoedd\",\"item\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/category\\\/ymgyrchoedd\\\/\",\"nextItem\":{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/category\\\/ymgyrchoedd\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#listItem\",\"name\":\"Gwirio Dy Ffrwd\"},\"previousItem\":{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy#listItem\",\"name\":\"Home\"}},{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/category\\\/ymgyrchoedd\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#listItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gwirio Dy Ffrwd\",\"item\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/category\\\/ymgyrchoedd\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/\",\"nextItem\":{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#listItem\",\"name\":\"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth\\u00a0\"},\"previousItem\":{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/category\\\/ymgyrchoedd\\\/#listItem\",\"name\":\"Ymgyrchoedd\"}},{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#listItem\",\"position\":4,\"name\":\"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth\\u00a0\",\"previousItem\":{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/category\\\/ymgyrchoedd\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#listItem\",\"name\":\"Gwirio Dy Ffrwd\"}}]},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Sprout Cymraeg\",\"description\":\"Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd\",\"url\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/author\\\/sproutadminer\\\/#author\",\"url\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/author\\\/sproutadminer\\\/\",\"name\":\"sproutadminer\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#authorImage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ef6bdb9a304ac38154d9c574c798b6501de0ecacccd78ec28f85d2bbc7c66d12?s=96&d=mm&r=g\",\"width\":96,\"height\":96,\"caption\":\"sproutadminer\"}},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#webpage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/\",\"name\":\"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth |\",\"description\":\"Digon hen i bleidleisio yn Etholiadau'r Senedd? Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu sut i wirio dy ffwrd er mwyn pleidleisio ar ffeithiau.\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#breadcrumblist\"},\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/author\\\/sproutadminer\\\/#author\"},\"creator\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/author\\\/sproutadminer\\\/#author\"},\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"url\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/wp-content\\\/uploads\\\/sites\\\/2\\\/2026\\\/04\\\/Blog-1-Landing-Page.jpg\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#mainImage\",\"width\":1440,\"height\":810,\"caption\":\"Bachgen ifanc yn edrych yn ddryslyd ar ei ff\\u00f4n\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/gwirio-dy-ffrwd\\\/#mainImage\"},\"datePublished\":\"2026-04-06T08:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-10T09:01:58+00:00\"},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Sprout Cymraeg\",\"description\":\"Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/thesprout.co.uk\\\/cy\\\/#organization\"}}]}\n\t\t<\/script>\n\t\t<!-- All in One SEO -->\n\n","aioseo_head_json":{"title":"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth |","description":"Digon hen i bleidleisio yn Etholiadau'r Senedd? Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu sut i wirio dy ffwrd er mwyn pleidleisio ar ffeithiau.","canonical_url":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/","robots":"max-image-preview:large","keywords":"","webmasterTools":{"miscellaneous":""},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#article","name":"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth |","headline":"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth\u00a0","author":{"@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/author\/sproutadminer\/#author"},"publisher":{"@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/#organization"},"image":{"@type":"ImageObject","url":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Blog-1-Landing-Page.jpg","width":1440,"height":810,"caption":"Bachgen ifanc yn edrych yn ddryslyd ar ei ff\u00f4n"},"datePublished":"2026-04-06T08:00:00+00:00","dateModified":"2026-04-10T09:01:58+00:00","inLanguage":"en-US","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#webpage"},"isPartOf":{"@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#webpage"},"articleSection":"Gwirio Dy Ffrwd, camwybodaeth, camwybodaeth a thwyllwybodaeth, camwybodaeth etholiadau senedd, datgelu'r gwir, etholiad, etholiadau senedd, Etholiadau&#039;r Senedd, gwirio dy ffrwd, gwirio dy ffrwd: Hifdlo'r ffug, gwirio ffeithiau, Hidlo'r ffug, Hidlo'r ffug a datgelu'r gwir, llythrennedd digidol, llythrennedd digidol etholiadau senedd"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#breadcrumblist","itemListElement":[{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy#listItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy","nextItem":{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/#listItem","name":"Ymgyrchoedd"}},{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/#listItem","position":2,"name":"Ymgyrchoedd","item":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/","nextItem":{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/gwirio-dy-ffrwd\/#listItem","name":"Gwirio Dy Ffrwd"},"previousItem":{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy#listItem","name":"Home"}},{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/gwirio-dy-ffrwd\/#listItem","position":3,"name":"Gwirio Dy Ffrwd","item":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/gwirio-dy-ffrwd\/","nextItem":{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#listItem","name":"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth\u00a0"},"previousItem":{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/#listItem","name":"Ymgyrchoedd"}},{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#listItem","position":4,"name":"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth\u00a0","previousItem":{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/gwirio-dy-ffrwd\/#listItem","name":"Gwirio Dy Ffrwd"}}]},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/#organization","name":"Sprout Cymraeg","description":"Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd","url":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/author\/sproutadminer\/#author","url":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/author\/sproutadminer\/","name":"sproutadminer","image":{"@type":"ImageObject","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#authorImage","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ef6bdb9a304ac38154d9c574c798b6501de0ecacccd78ec28f85d2bbc7c66d12?s=96&d=mm&r=g","width":96,"height":96,"caption":"sproutadminer"}},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#webpage","url":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/","name":"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth |","description":"Digon hen i bleidleisio yn Etholiadau'r Senedd? Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu sut i wirio dy ffwrd er mwyn pleidleisio ar ffeithiau.","inLanguage":"en-US","isPartOf":{"@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/#website"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#breadcrumblist"},"author":{"@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/author\/sproutadminer\/#author"},"creator":{"@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/author\/sproutadminer\/#author"},"image":{"@type":"ImageObject","url":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2026\/04\/Blog-1-Landing-Page.jpg","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#mainImage","width":1440,"height":810,"caption":"Bachgen ifanc yn edrych yn ddryslyd ar ei ff\u00f4n"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/#mainImage"},"datePublished":"2026-04-06T08:00:00+00:00","dateModified":"2026-04-10T09:01:58+00:00"},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/","name":"Sprout Cymraeg","description":"Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd","inLanguage":"en-US","publisher":{"@id":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/#organization"}}]},"og:locale":"en_US","og:site_name":"Sprout Cymraeg | Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd","og:type":"article","og:title":"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth |","og:description":"Digon hen i bleidleisio yn Etholiadau'r Senedd? Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu sut i wirio dy ffwrd er mwyn pleidleisio ar ffeithiau.","og:url":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/","article:published_time":"2026-04-06T08:00:00+00:00","article:modified_time":"2026-04-10T09:01:58+00:00","twitter:card":"summary","twitter:title":"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth |","twitter:description":"Digon hen i bleidleisio yn Etholiadau'r Senedd? Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu sut i wirio dy ffwrd er mwyn pleidleisio ar ffeithiau."},"aioseo_meta_data":{"post_id":"5487","title":"#post_title |","description":"Digon hen i bleidleisio yn Etholiadau'r Senedd? Bydd ein hymgyrch yn helpu ti i adnabod y gwir a dysgu sut i wirio dy ffwrd er mwyn pleidleisio ar ffeithiau.","keywords":null,"keyphrases":{"focus":{"keyphrase":"","score":0,"analysis":{"keyphraseInTitle":{"score":0,"maxScore":9,"error":1}}},"additional":[]},"primary_term":null,"canonical_url":null,"og_title":null,"og_description":null,"og_object_type":"default","og_image_type":"default","og_image_url":null,"og_image_width":null,"og_image_height":null,"og_image_custom_url":null,"og_image_custom_fields":null,"og_video":"","og_custom_url":null,"og_article_section":null,"og_article_tags":null,"twitter_use_og":false,"twitter_card":"default","twitter_image_type":"default","twitter_image_url":null,"twitter_image_custom_url":null,"twitter_image_custom_fields":null,"twitter_title":null,"twitter_description":null,"schema":{"blockGraphs":[],"customGraphs":[],"default":{"data":{"Article":[],"Course":[],"Dataset":[],"FAQPage":[],"Movie":[],"Person":[],"Product":[],"ProductReview":[],"Car":[],"Recipe":[],"Service":[],"SoftwareApplication":[],"WebPage":[]},"graphName":"Article","isEnabled":true},"graphs":[]},"schema_type":"default","schema_type_options":null,"pillar_content":false,"robots_default":true,"robots_noindex":false,"robots_noarchive":false,"robots_nosnippet":false,"robots_nofollow":false,"robots_noimageindex":false,"robots_noodp":false,"robots_notranslate":false,"robots_max_snippet":"-1","robots_max_videopreview":"-1","robots_max_imagepreview":"large","priority":null,"frequency":"default","location":null,"local_seo":null,"breadcrumb_settings":null,"limit_modified_date":false,"ai":{"faqs":[],"keyPoints":[],"titles":[],"descriptions":[],"socialPosts":{"email":[],"linkedin":[],"twitter":[],"facebook":[],"instagram":[]}},"created":"2026-04-01 09:39:08","updated":"2026-04-10 09:10:28","seo_analyzer_scan_date":null},"aioseo_breadcrumb":"<div class=\"aioseo-breadcrumbs\"><span class=\"aioseo-breadcrumb\">\n\t\t\t<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\" title=\"Home\">Home<\/a>\n\t\t<\/span><span class=\"aioseo-breadcrumb-separator\">&raquo;<\/span><span class=\"aioseo-breadcrumb\">\n\t\t\t<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/\" title=\"Ymgyrchoedd\">Ymgyrchoedd<\/a>\n\t\t<\/span><span class=\"aioseo-breadcrumb-separator\">&raquo;<\/span><span class=\"aioseo-breadcrumb\">\n\t\t\t<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/gwirio-dy-ffrwd\/\" title=\"Gwirio Dy Ffrwd\">Gwirio Dy Ffrwd<\/a>\n\t\t<\/span><span class=\"aioseo-breadcrumb-separator\">&raquo;<\/span><span class=\"aioseo-breadcrumb\">\n\t\t\tGwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth \n\t\t<\/span><\/div>","aioseo_breadcrumb_json":[{"label":"Home","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy"},{"label":"Ymgyrchoedd","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/"},{"label":"Gwirio Dy Ffrwd","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/category\/ymgyrchoedd\/gwirio-dy-ffrwd\/"},{"label":"Gwirio dy Ffrwd: Nabod Camwybodaeth\u00a0","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwirio-dy-ffrwd\/"}],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5487","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5487"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5487\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5517,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5487\/revisions\/5517"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5489"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5487"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5487"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5487"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}