{"id":5454,"date":"2021-08-06T12:58:00","date_gmt":"2021-08-06T12:58:00","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=5454"},"modified":"2024-10-16T15:12:46","modified_gmt":"2024-10-16T15:12:46","slug":"nalanihallam","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/nalanihallam\/","title":{"rendered":"Galw ar yr Artist: Fy Safbwynt i"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\">Mae Nalani Hallam wedi penderfynu rhannu ei safbwynt personol o Gaerdydd wrth greu hunanbortread wedi\u2019i gydblethu \u00e2\u2019r Gymraeg.<\/h2>\n\n\n\n<p>Ei hysbrydoliaeth oedd dangos i ni fod pobl o bob cefndir yn gallu mynegi eu hunain drwy\u2019r rhyddid a ddaw yn sgil bod yn artistig. Rhannai Nalani sut mae comisiwn TheSprout wedi rhoi rhyddhad iddi.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Rwy\u2019n berson o liw ac mae gen i anableddau hefyd, felly dwi eisiau helpu eraill i sylwi ein bod ni&#8217;n gallu gwneud yr un&nbsp; pethau \u00e2 phobl abl eu corff.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left\">&#8220;Rydyn ni&#8217;r un mor dalentog \u00e2 phobl eraill, felly dwi eisiau ysbrydoli pobl fel fi, ond hefyd eisiau rhannu neges gryfach \u00e2 phawb, na fydd neb na dim yn fy rhwystro i.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/image.jpeg\" alt=\"This image has an empty alt attribute; its file name is Nalani1-1024x768.jpg\" class=\"wp-image-5457\" style=\"width:840px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/image.jpeg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/image-300x225.jpeg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/image-768x576.jpeg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut wyt ti\u2019n adlewyrchu Caerdydd yn dy waith?<\/h3>\n\n\n\n<p>&#8220;Roeddwn i eisiau cyfleu bod Caerdydd yn gymuned, ac er bod sawl un sydd yn byw yng Nghaerdydd yn gwadu&#8217;r peth, rydym yn deulu. Rydym yn ceisio helpu ein gilydd cymaint \u00e2 phosib.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Nalani wedi ceisio pwysleisio\u2019r cyfeillgarwch di-ben-draw yma rhwng pobl prifddinas Cymru. Mae ei gwaith wedi\u2019i gynllunio i uno pobl Caerdydd y tu \u00f4l i\u2019r achos cyffredin o herio\u2019r anfanteision a natur unigryw\u2019r ddinas, sy\u2019n gwneud i bawb deimlo\u2019n gysylltiedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Nalani neges bersonol y tu \u00f4l i\u2019w chelf hefyd, sy\u2019n gorfodi ei barn ei hun ar fywyd a sut mae\u2019n gweld Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Rwy\u2019n cefnogi unigoliaeth a chydraddoldeb, a dyna pam fy mod yn cyflwyno fy hun fel unigolyn. Mae fy mherthynas i \u00e2 Chaerdydd yn wych, a ni fyddwn yn newid hynny o gwbl.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Nalani2-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30602\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Proses y gelf<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Nalani&#8217;n dweud bod llawer o amser, gwaith caled ac amynedd wedi&#8217;i roi i&#8217;r gelf. Roedd yn anhygoel iddi weld ei gwaith yn cael ei arddangos yn yr \u0175yl yng nghanol ei dinas enedigol.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yn broses gymhleth hefyd, gyda llawer o gamau gwahanol yn rhan o&#8217;r broses, gan gynnwys gwahanol ddulliau celf.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Defnyddiais lawer o wahanol gyfryngau, fel marcwyr alcohol a marcwyr olew, yn ogystal \u00e2 phastiliau olew a phensiliau oherwydd roeddwn i eisiau dangos fy hyblygrwydd, fel artist. Dwi&#8217;n teimlo fy mod wedi profi fy hun fel artist i bawb a oedd yn disgwyl i weld yr hyn y byddwn yn ei greu.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn cyd-fynd \u00e2 chariad Nalani at gelf a\u2019i hawydd i fynegi ei hun mewn ffordd anghonfensiynol. Gan fod ei chelf o safbwynt personol, mae pob unigolyn yn teimlo math gwahanol o berthynas \u00e2\u2019r darn, yn hytrach na chydberthynas y mae pawb yn ei deimlo ar unwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Dwi&#8217;n hoffi celf oherwydd mae\u2019n gwneud i mi deimlo\u2019n rhydd. Gallaf bortreadu gwahanol emosiynau a gallaf ymarfer fy sgiliau artistig fy hun. Mae celf yn helpu gyda straen. Os ydw i wedi cael diwrnod drwg neu eisiau gwneud rhywbeth gwahanol, yna celf yw fy nihangfa a dwi&#8217;n gobeithio bod hyn yn dangos yn fy ngwaith celf.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn olaf, cafodd y syniad o ychwanegu geiriau Cymraeg yn ei chelf.<\/p>\n\n\n\n<p>Adlewyrchir yr holl bethau sydd yn bwysig iddi yn y gwaith, gan gynnwys Cartref, Hapusrwydd a Theulu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Caerdydd yn cynnwys yr holl bethau hyn a mwy i Nalani, ac i lawer ohonom mae&#8217;r rhain yn bethau sy&#8217;n bwysig i ni. Dyma mae ei dinas enedigol yn ei olygu i Nalani. Dyma beth mae Caerdydd yn ei olygu i bobl ifanc.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"30605\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/IMG_0057-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30605\"\/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"30604\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/IMG_0055-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30604\"\/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"30603\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/IMG_0054-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30603\"\/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>Os hoffet weld mwy am ein hartistiaid a\u2019u gwaith, clicia yma i weld gwaith&nbsp;<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-caerdydd-mewn-golau-newydd\/\">Rosie<\/a>,&nbsp;<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-ein-dinas-ar-ffilm\/\">Faaris<\/a>, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/farahthomas\/\">Farah<\/a>, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/aliciagilcervantes\/\">Alicia<\/a>, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artistadlewyrchu-amrywiaeth-caerdydd-mewn-celf\/\">Eshaan<\/a>, a <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-merched-mwslimaidd-arloesol-mewn-celf\/\">Saabiqah<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Nalani Hallam wedi penderfynu rhannu ei safbwynt personol o Gaerdydd wrth greu hunanbortread wedi\u2019i gydblethu \u00e2\u2019r Gymraeg. Ei hysbrydoliaeth oedd dangos i ni fod pobl o bob cefndir yn&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1979,"featured_media":5456,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1368],"tags":[1366,1398,1660],"class_list":["post-5454","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwen-o-haf","tag-gwen-o-haf","tag-nalani-hallam","tag-nallani-hallam-gwen-o-haf"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5454","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1979"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5454"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5454\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5484,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5454\/revisions\/5484"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5456"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5454"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5454"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5454"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}