{"id":5423,"date":"2024-04-29T12:47:30","date_gmt":"2024-04-29T12:47:30","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=5423"},"modified":"2024-04-29T12:48:38","modified_gmt":"2024-04-29T12:48:38","slug":"tu-ol-i-lennir-senedd-teithiau-cyfarfodydd-a-mwy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/tu-ol-i-lennir-senedd-teithiau-cyfarfodydd-a-mwy\/","title":{"rendered":"Tu \u00d4l i Lenni&#8217;r Senedd: Teithiau, Cyfarfodydd, a Mwy!"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;r Senedd yn fwy nag adeilad deinamig i wleidyddion. Mae&#8217;n ganolbwynt hanes, addysg, a phrofiadau difyr sydd yn agored i bawb! Os wyt ti&#8217;n caru gwleidyddiaeth, neu \u00e2 ychydig o ddiddordeb yn deall mwy am y ffordd mae Cymru yn cael ei lywodraethu, mae yna rywbeth at ddant pawb yn y Senedd.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweld democratiaeth ar waith<\/h3>\n\n\n\n<p>Trocha dy hun yn wleidyddiaeth Cymru wrth wylio&#8217;r cyfarfodydd llawn yn fyw! Mae posib cael sedd rhes flaen i wylio Cyfarfodydd Llawn y Senedd a bod yn dyst i ddemocratiaeth ar waith.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/busnes-y-senedd\/cyfarfod-llawn\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Cyfarfod Llawn<\/a> yw pan fydd y Senedd gyfan yn cyfarfod yn y Siambr, ystafell trafod y senedd. Dyma ble fydd Aelodau&#8217;r Senedd (AS) yn dadlau ac yn pleidleisio ar faterion pwysig sy&#8217;n berthnasol i Gymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhelir cyfarfodydd llawn ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Mae&#8217;r cyhoedd yn cael gwylio o&#8217;r oriel gyhoeddus yn rhad ac am ddim (nifer cyfyngedig o seddi sydd yno, felly argymhellir i ti gyrraedd yn gynnar).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae posib gwylio cyfarfodydd llawn yn fyw neu ddewis gwylio hen gyfarfodydd ar <a href=\"https:\/\/www.senedd.tv\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Senedd.tv.<\/a> Gellir darganfod trawsgrifiad holl gyfarfodydd llawn wrth chwilio am Gofnod y Trafodion ar wefan y Senedd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/1-2-1024x576.jpg\" alt=\"Y tu allan i adeilad y Senedd\n\" class=\"wp-image-38869\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dadorchuddio Hanes Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti yng Nghaerdydd ac yn chwilio am rywbeth diddorol i wneud, sydd am ddim yna cer i edrych ar hanesion pobl a lleoliadau Cymru yn yr arddangosfeydd rhyngweithiol a&#8217;r arteffactau hanesyddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r arddangosfeydd yn y Senedd yn newid yn aml, ac fel arfer maent yn cael eu dangos union uwchben y siambr drafod. Dros ffordd i&#8217;r Senedd mae&#8217;r adeilad <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/ymweld-a-ni\/ein-hystad\/y-pierhead\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Pierhead<\/a> eiconig, sydd hefyd yn gartref i arddangosfeydd am ddim y Senedd. Mae&#8217;r adeilad ei hun yn llawn hanes, wedi ei adeiladu yn 1897 mae&#8217;n adeilad rhestredig Gradd I.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhai o&#8217;r arddangosfeydd gallet ti ei weld yno yw arddangosfa hanes <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/ymweld-a-ni\/arddangosfeydd\/tiger-bay-a-r-dociau-1880au-1950au\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">Tiger Bay a&#8217;r Dociau<\/a> o 1880-1950 a <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/ymweld-a-ni\/arddangosfeydd\/dylunio-yn-ganolog-i-r-senedd\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">chynlluniau adeiladu&#8217;r Senedd.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Argymhellir i ti lawrlwytho app y Senedd yn rhad ac am ddim i gael nodweddion rhyngweithiol a gwybodaeth am yr adeilad a&#8217;r arddangosfeydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/2-2-1024x576.jpg\" alt=\"Y tu allan i adeilad y Pierhead. Mae'n dal gyda brics coch bywiog a chloc ar yr hyn sy'n edrych fel t\u0175r.\n\" class=\"wp-image-38870\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithgareddau a Digwyddiadau<\/h3>\n\n\n\n<p>Dysga fwy am stori&#8217;r Senedd gyda thaith dywys am ddim. Byddi di&#8217;n clywed am bensaern\u00efaeth unigryw&#8217;r adeilad, ei arwyddoc\u00e2d hanesyddol, a&#8217;i ymrwymiad i gynaliadwyedd. Mae posib cael tocynnau o flaen llaw <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/ymweld-a-ni\/pethau-i-w-gwneud\/teithiau-grwp\/\" title=\"\">yma<\/a> am y teithiau neu ddigwyddiadau, syniad da mewn cyfnodau prysur.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Senedd hefyd yn cynnal sgyrsiau a gweithdai ar bynciau amrywiol yn ymwneud \u00e2 gwleidyddiaeth a llywodraethu Cymru. Cer i&#8217;r wefan i weld pa ddigwyddiadau sydd i ddod.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Senedd hefyd yn gyfeillgar iawn i deuluoedd. Mae man chwarae bach ar gyfer babanod, plant bach a phlant ifanc. Ar benwythnosau, mae bwrdd crefftau ar gael yn y lobi. Yn ystod hanner tymor, cynhelir amrywiaeth o weithgareddau rhad ac am ddim i bawb eu mwynhau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn nhymor y Nadolig mae&#8217;r Senedd yn rhan o Lwybr Eira Bae Caerdydd, sy\u2019n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid sydd ar lan y d\u0175r fel The Coal Exchange a Giovanni\u2019s. Rhaid darganfod 8 o gymeriadau o gwmpas y Bae, pob un gyda llythyren. Os wyt ti&#8217;n dyfalu\u2019r gair, yn y Saesneg neu&#8217;r Gymraeg, yna mae cyfle i ti ennill gwobr raffl. Mae gwobrau&#8217;r gorffennol wedi cynnwys noson mewn gwesty a bowlio!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/3-2-1024x576.jpg\" alt=\"\nTwmffat pren a tho y tu mewn i adeilad y Senedd\n\" class=\"wp-image-38871\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynllunio dy ymweliad<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Cost: <\/strong>Mae\u2019r Senedd yn agored i\u2019r cyhoedd am ddim!<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Oriau Agor: <\/strong>Dydd Llun i ddydd Gwener 9yb &#8211; 4:30yp. Ar ddydd Sadwrn a gwyliau&#8217;r banc 10:30yb &#8211; 4:30yp. Mynediad olaf am 4yp. Cer i <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/ymweld-a-ni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"\">wefan y Senedd<\/a> i sicrhau bod posib mynd yno cyn ymweld.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Hygyrchedd a Chynhwysiant: <\/strong>Mae&#8217;r Senedd yn adeilad gwbl hygyrch, gyda mynediad ramp, lifftiau a dolenni clyw yno. Maent hefyd yn cynnig cyfleusterau newid \u00e2 chymorth ac ystafelloedd ymolchi niwtral o ran rhywedd, gyda chynhyrchion mislif am ddim ym mhob toiled. Mae dwy ystafell dawel yno hefyd, i&#8217;w defnyddio gofynna yn y dderbynfa.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Bwyd a Diod: <\/strong>Llenwa dy fol ar \u00f4l archwilio&#8217;r Senedd yn y caffi. Gyda dewis o ddiodydd oer a phoeth, bwyd ysgafn, cacennau a phwdin. Bwyta gyda golygfeydd godidog y Bae o dy flaen.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Diogelwch: <\/strong>Mae yna drefniadau diogelwch ar waith yn y Senedd. Mae&#8217;n rhaid i ti fynd trwy wiriad diogelwch cyn cael mynediad i&#8217;r adeilad a dilyn cyfarwyddiadau&#8217;r staff diogelwch. Cofia ganiat\u00e1u digon o amser i fynd drwy&#8217;r gwiriadau diogelwch.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Senedd eisiau bod yn niwroamrywiol-gyfeillgar. Os yw ciwio neu wiriadau diogelwch yn anodd i ti, gofyn i gael siarad gyda staff. Mae posib y gallant drefnu i ti fynd trwy&#8217;r gwiriad diogelwch yn sydyn. <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/media\/ujhbimad\/welsh.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" title=\"Mae'r Senedd wedi creu canllaw \">Mae&#8217;r Senedd wedi creu canllaw <\/a>sy\u2019n egluro&#8217;r broses diogelwch ac agweddau eraill yr adeilad a allai achosi mwy o broblemau synhwyraidd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/4-2-1024x576.jpg\" alt=\"Llun o'r Pierhead a'r Senedd\" class=\"wp-image-38872\" style=\"width:795px;height:auto\"\/><\/figure>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-social-links aligncenter has-large-icon-size is-layout-flex wp-block-social-links-is-layout-flex\"><li class=\"wp-social-link wp-social-link-twitter  wp-block-social-link\"><a href=\"https:\/\/twitter.com\/FeedTheSprout\" class=\"wp-block-social-link-anchor\"><svg width=\"24\" height=\"24\" viewBox=\"0 0 24 24\" version=\"1.1\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" aria-hidden=\"true\" focusable=\"false\"><path d=\"M22.23,5.924c-0.736,0.326-1.527,0.547-2.357,0.646c0.847-0.508,1.498-1.312,1.804-2.27 c-0.793,0.47-1.671,0.812-2.606,0.996C18.324,4.498,17.257,4,16.077,4c-2.266,0-4.103,1.837-4.103,4.103 c0,0.322,0.036,0.635,0.106,0.935C8.67,8.867,5.647,7.234,3.623,4.751C3.27,5.357,3.067,6.062,3.067,6.814 c0,1.424,0.724,2.679,1.825,3.415c-0.673-0.021-1.305-0.206-1.859-0.513c0,0.017,0,0.034,0,0.052c0,1.988,1.414,3.647,3.292,4.023 c-0.344,0.094-0.707,0.144-1.081,0.144c-0.264,0-0.521-0.026-0.772-0.074c0.522,1.63,2.038,2.816,3.833,2.85 c-1.404,1.1-3.174,1.756-5.096,1.756c-0.331,0-0.658-0.019-0.979-0.057c1.816,1.164,3.973,1.843,6.29,1.843 c7.547,0,11.675-6.252,11.675-11.675c0-0.178-0.004-0.355-0.012-0.531C20.985,7.47,21.68,6.747,22.23,5.924z\"><\/path><\/svg><span class=\"wp-block-social-link-label screen-reader-text\">Twitter<\/span><\/a><\/li>\n\n<li class=\"wp-social-link wp-social-link-instagram  wp-block-social-link\"><a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/feedthesprout\/\" class=\"wp-block-social-link-anchor\"><svg width=\"24\" height=\"24\" viewBox=\"0 0 24 24\" version=\"1.1\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" aria-hidden=\"true\" focusable=\"false\"><path d=\"M12,4.622c2.403,0,2.688,0.009,3.637,0.052c0.877,0.04,1.354,0.187,1.671,0.31c0.42,0.163,0.72,0.358,1.035,0.673 c0.315,0.315,0.51,0.615,0.673,1.035c0.123,0.317,0.27,0.794,0.31,1.671c0.043,0.949,0.052,1.234,0.052,3.637 s-0.009,2.688-0.052,3.637c-0.04,0.877-0.187,1.354-0.31,1.671c-0.163,0.42-0.358,0.72-0.673,1.035 c-0.315,0.315-0.615,0.51-1.035,0.673c-0.317,0.123-0.794,0.27-1.671,0.31c-0.949,0.043-1.233,0.052-3.637,0.052 s-2.688-0.009-3.637-0.052c-0.877-0.04-1.354-0.187-1.671-0.31c-0.42-0.163-0.72-0.358-1.035-0.673 c-0.315-0.315-0.51-0.615-0.673-1.035c-0.123-0.317-0.27-0.794-0.31-1.671C4.631,14.688,4.622,14.403,4.622,12 s0.009-2.688,0.052-3.637c0.04-0.877,0.187-1.354,0.31-1.671c0.163-0.42,0.358-0.72,0.673-1.035 c0.315-0.315,0.615-0.51,1.035-0.673c0.317-0.123,0.794-0.27,1.671-0.31C9.312,4.631,9.597,4.622,12,4.622 M12,3 C9.556,3,9.249,3.01,8.289,3.054C7.331,3.098,6.677,3.25,6.105,3.472C5.513,3.702,5.011,4.01,4.511,4.511 c-0.5,0.5-0.808,1.002-1.038,1.594C3.25,6.677,3.098,7.331,3.054,8.289C3.01,9.249,3,9.556,3,12c0,2.444,0.01,2.751,0.054,3.711 c0.044,0.958,0.196,1.612,0.418,2.185c0.23,0.592,0.538,1.094,1.038,1.594c0.5,0.5,1.002,0.808,1.594,1.038 c0.572,0.222,1.227,0.375,2.185,0.418C9.249,20.99,9.556,21,12,21s2.751-0.01,3.711-0.054c0.958-0.044,1.612-0.196,2.185-0.418 c0.592-0.23,1.094-0.538,1.594-1.038c0.5-0.5,0.808-1.002,1.038-1.594c0.222-0.572,0.375-1.227,0.418-2.185 C20.99,14.751,21,14.444,21,12s-0.01-2.751-0.054-3.711c-0.044-0.958-0.196-1.612-0.418-2.185c-0.23-0.592-0.538-1.094-1.038-1.594 c-0.5-0.5-1.002-0.808-1.594-1.038c-0.572-0.222-1.227-0.375-2.185-0.418C14.751,3.01,14.444,3,12,3L12,3z M12,7.378 c-2.552,0-4.622,2.069-4.622,4.622S9.448,16.622,12,16.622s4.622-2.069,4.622-4.622S14.552,7.378,12,7.378z M12,15 c-1.657,0-3-1.343-3-3s1.343-3,3-3s3,1.343,3,3S13.657,15,12,15z M16.804,6.116c-0.596,0-1.08,0.484-1.08,1.08 s0.484,1.08,1.08,1.08c0.596,0,1.08-0.484,1.08-1.08S17.401,6.116,16.804,6.116z\"><\/path><\/svg><span class=\"wp-block-social-link-label screen-reader-text\">Instagram<\/span><\/a><\/li>\n\n<li class=\"wp-social-link wp-social-link-facebook  wp-block-social-link\"><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/FeedTheSprout\" class=\"wp-block-social-link-anchor\"><svg width=\"24\" height=\"24\" viewBox=\"0 0 24 24\" version=\"1.1\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" aria-hidden=\"true\" focusable=\"false\"><path d=\"M12 2C6.5 2 2 6.5 2 12c0 5 3.7 9.1 8.4 9.9v-7H7.9V12h2.5V9.8c0-2.5 1.5-3.9 3.8-3.9 1.1 0 2.2.2 2.2.2v2.5h-1.3c-1.2 0-1.6.8-1.6 1.6V12h2.8l-.4 2.9h-2.3v7C18.3 21.1 22 17 22 12c0-5.5-4.5-10-10-10z\"><\/path><\/svg><span class=\"wp-block-social-link-label screen-reader-text\">Facebook<\/span><\/a><\/li>\n\n<li class=\"wp-social-link wp-social-link-tiktok  wp-block-social-link\"><a href=\"https:\/\/vm.tiktok.com\/ZMNhfmfE9\/\" class=\"wp-block-social-link-anchor\"><svg width=\"24\" height=\"24\" viewBox=\"0 0 32 32\" version=\"1.1\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" aria-hidden=\"true\" focusable=\"false\"><path d=\"M16.708 0.027c1.745-0.027 3.48-0.011 5.213-0.027 0.105 2.041 0.839 4.12 2.333 5.563 1.491 1.479 3.6 2.156 5.652 2.385v5.369c-1.923-0.063-3.855-0.463-5.6-1.291-0.76-0.344-1.468-0.787-2.161-1.24-0.009 3.896 0.016 7.787-0.025 11.667-0.104 1.864-0.719 3.719-1.803 5.255-1.744 2.557-4.771 4.224-7.88 4.276-1.907 0.109-3.812-0.411-5.437-1.369-2.693-1.588-4.588-4.495-4.864-7.615-0.032-0.667-0.043-1.333-0.016-1.984 0.24-2.537 1.495-4.964 3.443-6.615 2.208-1.923 5.301-2.839 8.197-2.297 0.027 1.975-0.052 3.948-0.052 5.923-1.323-0.428-2.869-0.308-4.025 0.495-0.844 0.547-1.485 1.385-1.819 2.333-0.276 0.676-0.197 1.427-0.181 2.145 0.317 2.188 2.421 4.027 4.667 3.828 1.489-0.016 2.916-0.88 3.692-2.145 0.251-0.443 0.532-0.896 0.547-1.417 0.131-2.385 0.079-4.76 0.095-7.145 0.011-5.375-0.016-10.735 0.025-16.093z\" \/><\/svg><span class=\"wp-block-social-link-label screen-reader-text\">TikTok<\/span><\/a><\/li>\n\n<li class=\"wp-social-link wp-social-link-youtube  wp-block-social-link\"><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UCEguskGztuTS8NxXesAM4Mw\" class=\"wp-block-social-link-anchor\"><svg width=\"24\" height=\"24\" viewBox=\"0 0 24 24\" version=\"1.1\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" aria-hidden=\"true\" focusable=\"false\"><path d=\"M21.8,8.001c0,0-0.195-1.378-0.795-1.985c-0.76-0.797-1.613-0.801-2.004-0.847c-2.799-0.202-6.997-0.202-6.997-0.202 h-0.009c0,0-4.198,0-6.997,0.202C4.608,5.216,3.756,5.22,2.995,6.016C2.395,6.623,2.2,8.001,2.2,8.001S2,9.62,2,11.238v1.517 c0,1.618,0.2,3.237,0.2,3.237s0.195,1.378,0.795,1.985c0.761,0.797,1.76,0.771,2.205,0.855c1.6,0.153,6.8,0.201,6.8,0.201 s4.203-0.006,7.001-0.209c0.391-0.047,1.243-0.051,2.004-0.847c0.6-0.607,0.795-1.985,0.795-1.985s0.2-1.618,0.2-3.237v-1.517 C22,9.62,21.8,8.001,21.8,8.001z M9.935,14.594l-0.001-5.62l5.404,2.82L9.935,14.594z\"><\/path><\/svg><span class=\"wp-block-social-link-label screen-reader-text\">YouTube<\/span><\/a><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r Senedd yn fwy nag adeilad deinamig i wleidyddion. Mae&#8217;n ganolbwynt hanes, addysg, a phrofiadau difyr sydd yn agored i bawb! Os wyt ti&#8217;n caru gwleidyddiaeth, neu \u00e2 ychydig o&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":5424,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[23],"tags":[1653,1299,702,465],"class_list":["post-5423","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwleidyddiaeth","tag-cyfarfod-llawn","tag-gwleidyddiaeth","tag-llywodraeth-cymru","tag-senedd"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5423","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5423"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5423\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5437,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5423\/revisions\/5437"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5424"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5423"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5423"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5423"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}