{"id":4844,"date":"2022-04-14T09:08:00","date_gmt":"2022-04-14T09:08:00","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4844"},"modified":"2022-07-14T09:30:29","modified_gmt":"2022-07-14T09:30:29","slug":"fy-stori-dioddef-o-dysmorphiar-corff","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/fy-stori-dioddef-o-dysmorphiar-corff\/","title":{"rendered":"Fy Stori: Dioddef o Dysmorphia&#8217;r Corff"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae Ellie, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, yn rhannu ei stori o ddioddef o dysmorphia&#8217;r corff.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw dysmorphia&#8217;r corff?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae dysmorphia&#8217;r corff yn cael ei ddiffinio fel cyflwr iechyd meddwl, pan fydd person yn treulio llawer o amser yn poeni am unrhyw nam yn eu hedrychiad, sydd ddim yn rhywbeth mae pobl eraill yn ei weld fel arfer. Mae ystadegau yn awgrymu bod 1 ymhob 50 o bobl yn yr UDA yn dioddef o dysmorphia&#8217;r corff.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy&#8217;n dioddef o dysmorphia&#8217;r corff am fod fy symptomau yn cyd-fynd \u00e2&#8217;r rhai sydd ynghlwm \u00e2&#8217;r cyflwr, gan gynnwys cymharu rhannau o fy nghorff gydag eraill, osgoi edrych mewn drych neu wyneb adlewyrchol, canolbwyntio a phoeni am ran benodol o fy nghorff, a mynd i ymdrech mawr i guddio&#8217;r namau yma.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/1-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-32428\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><br>Ydy cyfryngau cymdeithasol ar fai?<\/h3>\n\n\n\n<p>Wrth dyfu yn yr oes ddigidol yma, gall cyfryngau cymdeithasol fod yn elyn i ti o ran cymharu dy gorff gyda phobl eraill. Er mod i&#8217;n ddiolchgar iawn am y llwyfannau yma, mae rhai pethau mae dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol a phobl dwi&#8217;n adnabod wedi&#8217;i bostio wedi cael effaith ar fy iechyd meddwl wrth i mi gymharu fy nghorff gyda\u2019u corff nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu na fyddwn i&#8217;n dioddef dysmorphia&#8217;r corff heb rwydweithio cymdeithasol. Yn anffodus, rwy&#8217;n credu bod ein cymdeithas yn dueddol o farnu a chymharu, ond byddwn yn dadlau bod llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi cyfrannu i fy hunanhyder isel wrth greu disgwyliadau afrealistig o&#8217;r ffordd mae corff &#8216;i fod&#8217; i edrych.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/2-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-32429\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><br>Effaith ar fy mywyd<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae astudiaeth cyhoeddir gan <em>Scientific Reports<\/em> yn awgrymu bod hunanhyder yn ffactor pwysig sydd yn achosi pobl ifanc rhwng 15 a 24 i ladd eu hunain. Er nad ydw i erioed wedi teimlo&#8217;r lefel yma o iselder o ganlyn y dysmorphia corff, rwy&#8217;n deall bod fy ngweithgareddau o ddydd i ddydd wedi cael eu heffeithio&#8217;n sylweddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwyf wedi cael cyfnodau ble rwy&#8217;n gwrthod digwyddiadau cymdeithasol am nad ydw i eisiau gwisgo gwisg nofio mewn parc d\u0175r o flaen cymaint o bobl, neu ddweud na i fynd i barti pen-blwydd ffrind am nad ydw i eisiau bod o gwmpas merched tenau prydferth mewn ffrogiau tynn. Fedra i ddim gwisgo dillad tebyg gan fod fy mol wedi chwyddo neu mae fy mreichiau yn edrych yn dew fel &#8216;bingo wings&#8217;.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dysmorphia&#8217;r corff yn frwydr gyson. Ond, rwy&#8217;n awyddus dweud, er mod i&#8217;n dal i ddioddef, rwyf wedi dysgu nad yw dy edrychiad yn cyfateb i&#8217;r hyn sydd y tu mewn i ti yn emosiynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Collais lawer o bwysau yn ystod y pandemig oherwydd y cyfnod clo a dim llawer o weithgareddau. Dychwelais i&#8217;r ail flwyddyn o&#8217;r Brifysgol yn y cyflwr corfforol gorau ers cyfnod hir iawn. Ond, gallaf ddweud yn onest nad ydw i erioed wedi bod yn fwy anhapus nag yr oeddwn i yn nhymor cyntaf yr ail flwyddyn, er colli&#8217;r holl bwysau. Mae dysmorphia&#8217;r corff yn cael effaith ar yr emosiynau tu mewn hefyd, yn ogystal \u00e2&#8217;r ffordd rwyt ti&#8217;n gweld dy edrychiad. Yn feddyliol, roedd llynedd yn anodd er mod i&#8217;n deneuach nag yr oeddwn cynt.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/3-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-32430\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><br>Ydy datganiadau positif yn gallu helpu?<\/h3>\n\n\n\n<p>Rwy&#8217;n ceisio adrodd datganiadau positif i fy hun wrth edrych yn y drych i geisio brwydro&#8217;r dysmorphia corff, yn hytrach nag meddwl pethau negyddol am fy hun. Rwy&#8217;n dweud pethau fel &#8220;ti&#8217;n edrych yn gr\u00eat yn y j\u00eens yna!&#8221; neu &#8220;mae&#8217;r crop top yna yn siwtio ti&#8221; hyd yn oed os yw fy mol yn dangos ychydig. Rwy&#8217;n ceisio atgoffa fy hun wrth sgrolio drwy Instagram neu Facebook, nad yw lluniau pobl yn wir i&#8217;r ffordd maent yn edrych drwy&#8217;r adeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bwysig cofio bod pobl yn postio&#8217;r darnau gorau ar Instagram a Facebook. Rwy&#8217;n ceisio atgoffa fy hun bod ongl, golau ac offer golygu yn gyfranwyr cryf i sut mae llun yn edrych. Mae cenfigen yn rhywbeth rwy&#8217;n dioddef ohono weithiau, cenfigen am y ffordd mae eraill yn edrych o gymharu \u00e2 fi, ond rwy&#8217;n gweithio ar ganolbwyntio ar fy hun a&#8217;r hyn sydd yn gwneud i mi deimlo&#8217;n dda am fy hun.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/5-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-32432\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><br>Cael cefnogaeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti&#8217;n credu dy fod di&#8217;n dioddef o dysmorphia&#8217;r corff neu faterion hunanhyder fel arall, dyma gyfle i dy atgoffa nad ti yw&#8217;r unig un! Mae&#8217;n gyffredin iawn, yn enwedig ymysg pobl ifanc, ac er efallai na fydd yn diflannu&#8217;n gyfan gwbl, ceisia atal hyn wrth fod yn garedig i dy hun. Fyddet ti&#8217;n gwneud y fath sylwadau am rywun arall? Na? Yna stopia meddwl fel yna am dy hun.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti angen rhywun i siarad \u00e2 nhw, gallet ti siarad \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Meic<\/a>. Meic yw&#8217;r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor, ac eiriolaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Mae posib cysylltu \u00e2 chynghorydd Meic am ddim, bob dydd, o 8yb tan hanner nos, ar y ff\u00f4n (080880 23456), neges testun (84001) neu <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">sgwrs ar-lein.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Am wybodaeth bellach ar dderbyn cefnogaeth iechyd meddwl, ymwela \u00e2 <a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/iechyd-meddwl\/\">thudalen gwybodaeth iechyd meddwl TheSprout.<\/a><\/p>\n\n\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Ellie, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, yn rhannu ei stori o ddioddef o dysmorphia&#8217;r corff. Beth yw dysmorphia&#8217;r corff? Mae dysmorphia&#8217;r corff yn cael ei ddiffinio fel cyflwr iechyd meddwl,&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1967,"featured_media":4845,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[691],"tags":[1592,1591],"class_list":["post-4844","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd-meddwl","tag-dysmorphiar-corff","tag-hunanhyder"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4844","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1967"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4844"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4844\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4849,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4844\/revisions\/4849"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4845"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4844"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4844"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4844"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}