{"id":4686,"date":"2022-03-17T14:52:00","date_gmt":"2022-03-17T14:52:00","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4686"},"modified":"2022-03-18T16:02:45","modified_gmt":"2022-03-18T16:02:45","slug":"paid-byth-ag-ildio-leon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/paid-byth-ag-ildio-leon\/","title":{"rendered":"Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Leon Hollis"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"mae-leon-22-oed-o-gaerdydd-yn-creu-darnau-celf-i-gynrychioli-sut-mae-gemau-yn-gallu-tynnu-r-gorau-allan-o-bobl\">Mae Leon, 22 oed o Gaerdydd, yn creu darnau celf i gynrychioli sut mae gemau yn gallu tynnu\u2019r gorau allan o bobl.<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio<\/a>, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Leon, artist 22 oed oedd yn rhan o\u2019r prosiect.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-effaith-mae-gemau-fideo-wedi-ei-gael-ar-dy-iechyd-meddwl\">Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn gyffredinol, mae wedi fy nghysylltu i\u2019r byd ehangach ac wedi rhoi cyfleodd mewn sawl agwedd o\u2019m mywyd, gan gynnwys gwneud ffrindiau a datblygu fi fel unigolyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n bendant ei fod wedi bod yn help i ddiffinio fy nghymeriad ac wedi rhoi hwb i\u2019m hyder hefyd. Mae\u2019n ddarn unigryw ohonof ac rwy\u2019n hynod ddiolchgar a balch o\u2019i gael.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth s\u00f4n am ddihangfa, mae\u2019n rhoi cyfle i ymgolli\u2019n llwyr ym myd fy hun ac i flaguro fel unigolyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gen i natur eithaf cystadleuol ac mae gemau fideo yn caniat\u00e1u i mi gyflawni uchelgeisiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n cysylltu fi gydag unigolion o\u2019r un meddylfryd ac yn caniat\u00e1u i mi roi bywyd i\u2019m dawn unigryw a chael fy ngweld fel ased i eraill.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/PXL_20220308_180238213-Leon-Hollis.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"576\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/PXL_20220308_180238213-Leon-Hollis-576x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4688\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/PXL_20220308_180238213-Leon-Hollis-576x1024.jpg 576w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/PXL_20220308_180238213-Leon-Hollis-169x300.jpg 169w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/PXL_20220308_180238213-Leon-Hollis-768x1365.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/PXL_20220308_180238213-Leon-Hollis.jpg 810w\" sizes=\"auto, (max-width: 576px) 100vw, 576px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-oedd-yr-ysbrydoliaeth-y-tu-ol-i-r-gwaith-yma\">Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu \u00f4l i\u2019r gwaith yma?<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn aml mae iechyd meddwl yn cael ei gynrychioli mewn sawl ffurf. Mae\u2019r pwnc yn eithaf eang yn ei natur gan fod yna sawl ystyr ac emosiwn yn bodoli. Gan ystyried hyn, penderfynais gynrychioli fy hun fel cyferbyniad o\u2019r hyn bydda dy gritig mewnol yn weld fel fersiwn gwell ohonot ti, ble rwyt ti\u2019n teimlo fel dy fod di\u2019n byw yng nghysgod y fath endid.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwaith yn cynnwys delwedd g\u00eam-yn-cyfarfod-realiti gydag elfennau ffantasi sydd yn cynrychioli\u2019r ffordd mae gemau yn gallu tynnu\u2019r gorau allan o berson, yn fy mhrofiad i o leiaf. Rwy\u2019n teimlo fel bod y darn yma yn cyfleu neges o wynebu pethau a dysgu sut i dderbyn bod yn gyffyrddus ynot ti dy hun!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwaith celf yn cael ei wneud yn ddigidol, a dyma yw fy hoff ffordd o weithio, ond roedd yn teimlo\u2019n berthnasol hefyd i\u2019r pwnc gemau fideo ac iechyd meddwl. Mae\u2019n her i mi felly gobeithio gallaf ddatblygu fy ngallu gyda\u2019r cyfrwng.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n gweithio o fewn y gymuned chwarae gemau a byddwn yn ystyried gemau fideo fel rhan fawr o\u2019m mywyd. Yn ddiweddar cefais y cyfle i siarad \u00e2 rhywun proffesiynol rwyf wedi gweld yn cystadlu o fewn y byd gemau fideo ar y lefelau uchaf. Dywedodd bod cystadlu yn y gemau, bod yn rhan o\u2019r gymuned, a phopeth yn y canol wedi helpu iddo ddod yn berson gwell, yn enwedig gan ei fod yn fodel r\u00f4l i eraill. Roedd hyn yn rhywbeth roedd gen i barch mawr tuag ato ac roeddwn yn awyddus i adlewyrchu hyn yn y darn.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Mental-Health-Gaming.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"724\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Mental-Health-Gaming-724x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4689\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Mental-Health-Gaming-724x1024.jpg 724w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Mental-Health-Gaming-212x300.jpg 212w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Mental-Health-Gaming-768x1086.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Mental-Health-Gaming.jpg 1018w\" sizes=\"auto, (max-width: 724px) 100vw, 724px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-neges-fyddet-ti-n-ei-roi-i-rywun-sydd-yn-cael-trafferthion-iechyd-meddwl\">Pa neges fyddet ti\u2019n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae iechyd meddwl yn bwnc anodd ac eang. Nid yw\u2019n beth negyddol o reidrwydd, er bod y sgwrs sydd o\u2019i gwmpas yn dueddol o fod yn negyddol. Mae\u2019n fater o falans, ac mae yna bethau gallet ti ei wneud i gadw\u2019r balans fydd yn syndod i ti o bosib, fel sicrhau dy fod di\u2019n bwyta\u2019n iach neu\u2019n cael digon o gwsg!<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n eiriolwr mawr dros siarad gydag eraill, ta waeth pwy yw\u2019r person, i dynnu peth o\u2019r pwysau i ffwrdd a chael persbectif arall am y pethau sydd yn achosi trafferth i ti. Wrth wneud hyn, byddi di\u2019n dysgu nad wyt ti byth ar ben dy hun gyda dy frwydron!<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-berthnasol\">Gwybodaeth Berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>I ddarganfod mwy am yr ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio <\/a>ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">YMA<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Wyt ti\u2019n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i <a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/iechyd-meddwl\/\">Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout<\/a> ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio\u2019r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti\u2019n rhannu!<\/p>\n\n\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"256\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4463\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-300x75.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-768x192.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Leon, 22 oed o Gaerdydd, yn creu darnau celf i gynrychioli sut mae gemau yn gallu tynnu\u2019r gorau allan o bobl. Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch Paid&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4687,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1473],"tags":[1476,427,1475,1482,1360,718,1381,535,1547,1546,1006,1474,1544,1545,1477],"class_list":["post-4686","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-paid-byth-ag-ildio","tag-chwaraedameddwlpositif","tag-celf","tag-chwarae-da-meddwl-positif","tag-chwarae-gemau-fideo","tag-comisiwn","tag-gemau-fideo","tag-gwaith-celf","tag-iechyd-meddwl","tag-leon","tag-leon-hollis","tag-lles","tag-paid-byth-ag-ildio","tag-paid-byth-ag-ildio-leon","tag-paid-byth-ag-ildio-leon-hollis-ag-ildio-leon","tag-ymgyrch-paid-byth-ag-ildio"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4686","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4686"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4686\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4692,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4686\/revisions\/4692"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4687"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4686"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4686"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4686"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}