{"id":4638,"date":"2022-03-17T17:21:37","date_gmt":"2022-03-17T17:21:37","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4638"},"modified":"2022-03-18T22:14:54","modified_gmt":"2022-03-18T22:14:54","slug":"paid-byth-ag-ildio-paolo","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/paid-byth-ag-ildio-paolo\/","title":{"rendered":"Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Paolo Bini"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"mae-paolo-artist-13-oed-yn-defnyddio-minecraft-i-greu-celf-am-wahanol-emosiynau\">Mae Paolo, artist 13 oed, yn defnyddio Minecraft i greu celf am wahanol emosiynau<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio<\/a>, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Paolo, artist 13 oed oedd yn rhan o\u2019r prosiect.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-effaith-mae-gemau-fideo-wedi-ei-gael-ar-dy-iechyd-meddwl\">Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Minecraft rwy\u2019n chwarae rhan amlaf. Rwy\u2019n teimlo distawrwydd a rheolaeth wrth agor Minecraft. Dyma un peth dwi\u2019n dda yn gwneud. Weithiau mae pethau bywyd go iawn yn anodd i mi, ond pan dwi\u2019n chwarae Minecraft mae\u2019n hawdd ac yn hwyl.<\/p>\n\n\n\n<p>Dwi\u2019n hoffi Minecraft gan nad ydw i\u2019n meddwl am broblemau bywyd go iawn wrth i mi chwarae, dwi\u2019n canolbwyntio 100% ar y g\u00eam. Dwi wrth fy modd yn adeiladu bydoedd, chwarae, neu\u2019n sgwrsio gyda ffrindiau. Mae\u2019n llawer haws gwneud ffrindiau ar Minecraft gan fod i\u2019n teimlo\u2019n rhydd i fod yn fi\u2019n hun. Mae adeiladu ar Minecraft yn teimlo fel bod i\u2019n rhydd i fynegi fy hun, ac mae hyn yn dda i\u2019m hiechyd meddwl.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Paolo-Progress-1-1024x576.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-32123\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-oedd-yr-ysbrydoliaeth-y-tu-ol-i-r-gwaith-yma\">Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu \u00f4l i\u2019r gwaith yma?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gan bawb feddyliau nad wyt ti\u2019n gweld. Mae\u2019r darn o gelf yma yn ymwneud \u00e2 dangos meddyliau pobl a\u2019r gwahanol emosiynau mae pobl yn ei deimlo. Fel y gweli di, mae\u2019r ferch yn eistedd ar blaned ac rwyt ti\u2019n gallu gweld ei meddyliau i gyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adeiladu yma wedi ei osod yn y gofod i\u2019w wneud yn fwy diddorol. Mae pob planed wahanol yn cynrychioli emosiwn gwahanol. Rwy\u2019n hoffi sut mae\u2019r lliwiau gwahanol yn symboleiddio emosiynau gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan dwi\u2019n meddwl am iechyd meddwl, dwi\u2019n meddwl sut mae pobl yn teimlo a\u2019u meddyliau, ac roedd hyn yn ysbrydoliaeth i mi.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/GirlProject.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"724\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/GirlProject-1024x724.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4639\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/GirlProject-1024x724.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/GirlProject-300x212.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/GirlProject-768x543.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/GirlProject.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-neges-fyddet-ti-n-ei-roi-i-rywun-sydd-yn-cael-trafferthion-iechyd-meddwl\">Pa neges fyddet ti\u2019n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Efallai dy fod di\u2019n teimlo fel hyn nawr ond ni fydd yn parhau am byth. Un dydd bydd dy fywyd di\u2019n anhygoel. Cofia rwyt ti yn ti a phaid gadael i neb newid hynny!<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-berthnasol\">Gwybodaeth Berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>I ddarganfod mwy am yr ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio <\/a>ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">YMA<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Wyt ti\u2019n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i <a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/iechyd-meddwl\/\">Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout<\/a> ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio\u2019r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti\u2019n rhannu!<\/p>\n\n\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"256\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4463\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-300x75.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-768x192.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Paolo, artist 13 oed, yn defnyddio Minecraft i greu celf am wahanol emosiynau Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4761,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1473],"tags":[1476,427,1475,1482,1360,718,1381,535,1006,1474,1540,1539,1541,1477],"class_list":["post-4638","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-paid-byth-ag-ildio","tag-chwaraedameddwlpositif","tag-celf","tag-chwarae-da-meddwl-positif","tag-chwarae-gemau-fideo","tag-comisiwn","tag-gemau-fideo","tag-gwaith-celf","tag-iechyd-meddwl","tag-lles","tag-paid-byth-ag-ildio","tag-paid-byth-ag-ildio-paolo","tag-paolo","tag-paolo-bini","tag-ymgyrch-paid-byth-ag-ildio"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4638","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4638"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4638\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4662,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4638\/revisions\/4662"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4761"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4638"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4638"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4638"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}