{"id":4603,"date":"2022-03-17T17:21:53","date_gmt":"2022-03-17T17:21:53","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4603"},"modified":"2022-03-18T13:40:46","modified_gmt":"2022-03-18T13:40:46","slug":"paid-byth-ag-ildio-jordan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/paid-byth-ag-ildio-jordan\/","title":{"rendered":"Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Jordan Alexandra Smith"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"mae-jordan-sydd-yn-24-oed-yn-rhannu-sut-mae-chwarae-gemau-fideo-wedi-gwneud-iddi-deimlo-n-rhan-o-rywbeth-mwy\">Mae Jordan, sydd yn 24 oed, yn rhannu sut mae chwarae gemau fideo wedi gwneud iddi deimlo\u2019n rhan o rywbeth mwy.<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio<\/a>, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Jordan, artist 24 oed oedd yn rhan o\u2019r prosiect.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-effaith-mae-gemau-fideo-wedi-ei-gael-ar-dy-iechyd-meddwl\">Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gemau fideo wedi bod yn ddihangfa greadigol a meddyliol i mi.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn iau, roedd yn dod \u00e2 fi a fy ffrindiau yn agosach at ein gilydd, dyma oedd eu hobi nhw hefyd ac roedd hynny&#8217;n gwneud i mi deimlo fel rhan o rywbeth sydd yn fwy na\u2019r pedwar wal yn fy ystafell.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i mi fynd yn h\u0177n, mae pwysau bywyd oedolyn yn tynnu fi i lawr o hyd ac yn straen ar fy iechyd meddwl. Rwy\u2019n poeni am broblemau personol, economaidd, teuluol&#8230; bob math o bethau. Mae chwarae gemau fideo yn tynnu\u2019r problemau i gyd i mewn ac yn eu taflu i ffwrdd. Rwy\u2019n anghofio pam oeddwn i\u2019n bryderus neu\u2019n flin, a\u2019r unig beth dwi\u2019n teimlo ydy hwyl a phleser wrth chwarae gemau. Mae\u2019n fy nhynnu\u2019n agosach i ddeall pwy hoffwn i fod ac mae\u2019n fy nghadw\u2019n agos at fy ffrindiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n berson hwyliog ac uchel, a gyda\u2019r byd ar d\u00e2n yn ystod y pandemig, dwi ddim wedi gallu cyfarfod \u00e2 ffrindiau wyneb i wyneb cymaint. Gyda gemau fideo, rwy\u2019n neidio i mewn i alwad discord gyda nhw ac yn chwarae trwy\u2019r dydd \u2013 yn anghofio am amser ac yn mwynhau bywyd. Mae fy mhartner yn frwdfrydig iawn am gemau fideo hefyd ac mae\u2019n fy ngwneud yn hapus iawn bod y ddau ohonom yn gallu rhannu\u2019r profiad yma \u00e2\u2019n gilydd, ar unrhyw amser o\u2019r dydd. Mae\u2019n gwneud y ddau ohonom yn gryfach ac yn unol yn erbyn ein demoniaid personol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"706\" height=\"686\" data-id=\"4607\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4607\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan-1.jpg 706w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan-1-300x292.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 706px) 100vw, 706px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"688\" height=\"632\" data-id=\"4608\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4608\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan2.jpg 688w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan2-300x276.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 688px) 100vw, 688px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan3.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"698\" height=\"728\" data-id=\"4609\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan3.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4609\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan3.jpg 698w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/jordan3-288x300.jpg 288w\" sizes=\"auto, (max-width: 698px) 100vw, 698px\" \/><\/a><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-oedd-yr-ysbrydoliaeth-y-tu-ol-i-r-gwaith-yma\">Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu \u00f4l i\u2019r gwaith yma?<\/h3>\n\n\n\n<p>Wrth greu\u2019r gelf, newidiodd y lliwiau, cymeriadau\u2019r a\u2019r syniad yn gyfan gwbl sawl gwaith nes cyrraedd y syniad terfynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe gododd materion personol yn ystod y broses dylunio ac felly roedd rhaid aberth rhai pethau yn y darn gorffenedig. Rhoddais bob ymdrech y gallwn yn gorfforol i mewn i\u2019r darn gorffenedig fel y gallwn greu rhywbeth roeddwn yn hapus ag ef. Byddai\u2019r darn gwreiddiol wedi bod yn fwy gwobrwyol ond mae\u2019r un yma yn dal i fod yn gr\u00eat.<\/p>\n\n\n\n<p>Roeddwn eisiau creu darn oedd yn dangos sut gall rhywun fod angen help gan eu hoff gymeriad g\u00eam, fydda\u2019n rhoi cefnogaeth emosiynol ac yn rhoi hwb i hunanhyder ac iechyd meddwl. Es ati i greu gwaith oedd yn cyfleu dy fod di\u2019n gallu bod mor gryf \u00e2 dy hoff gymeriad. Link o gyfres The Legend of Zelda ydy fy hoff gymeriad i.<\/p>\n\n\n\n<p>Penderfynais ddogfennu\u2019r holl broses meddwl, y syniadau a\u2019r dewisiadau mewn ffeil PDF, sydd yn egluro mwy am bopeth.<\/p>\n\n\n\n<div data-wp-interactive=\"core\/file\" class=\"wp-block-file aligncenter\"><object data-wp-bind--hidden=\"!state.hasPdfPreview\" hidden class=\"wp-block-file__embed\" data=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Gaming_Mental-Health-Commission-Jordan-Smith-1-compressed.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Embed of Embed of Dogfennu Gwaith Celf Jordan - PDF..\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-50bb8eb7-12d6-4dd8-be1d-0bca1eda3399\" href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Gaming_Mental-Health-Commission-Jordan-Smith-1-compressed.pdf\">Dogfennu Gwaith Celf Jordan &#8211; PDF<\/a><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Gaming_Mental-Health-Commission-Jordan-Smith-1-compressed.pdf\" class=\"wp-block-file__button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-50bb8eb7-12d6-4dd8-be1d-0bca1eda3399\">Download<\/a><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-neges-fyddet-ti-n-ei-roi-i-rywun-sydd-yn-cael-trafferthion-iechyd-meddwl\">Pa neges fyddet ti\u2019n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Hyd yn oed pan fydd pethau\u2019n anodd, mae\u2019n RHAID i ti fod yn gryf. Rwyt ti\u2019n haeddu gweld hyn drwodd a chyrraedd y golau ar ben y twnnel. Rwyt ti\u2019n meddwl mwy i bobl nag yr wyt ti\u2019n sylwi ac efallai bod dy iechyd meddwl yn dy atal di rhag gadael iddynt helpu.<\/p>\n\n\n\n<p><em>&#8220;Yesterday is history, tomorrow is a mystery and today is a gift. That\u2019s why they call it the present\u201d <\/em>&#8211;<em>Master Oogway (Kung Fu Panda)<\/em><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Screenshot-2022-03-14-at-17.42.45.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"734\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Screenshot-2022-03-14-at-17.42.45-734x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4605\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Screenshot-2022-03-14-at-17.42.45-734x1024.jpg 734w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Screenshot-2022-03-14-at-17.42.45-215x300.jpg 215w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Screenshot-2022-03-14-at-17.42.45-768x1072.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Screenshot-2022-03-14-at-17.42.45.jpg 874w\" sizes=\"auto, (max-width: 734px) 100vw, 734px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-berthnasol\">Gwybodaeth Berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>I ddarganfod mwy am yr ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio <\/a>ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">YMA<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Wyt ti\u2019n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i <a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/iechyd-meddwl\/\">Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout<\/a> ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio\u2019r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti\u2019n rhannu!<\/p>\n\n\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"256\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4463\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-300x75.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-768x192.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Jordan, sydd yn 24 oed, yn rhannu sut mae chwarae gemau fideo wedi gwneud iddi deimlo\u2019n rhan o rywbeth mwy. Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch Paid Byth&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4610,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1473],"tags":[1476,427,1475,1482,1360,718,1381,535,1534,1535,1538,1006,1474,1536,1537,1477],"class_list":["post-4603","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-paid-byth-ag-ildio","tag-chwaraedameddwlpositif","tag-celf","tag-chwarae-da-meddwl-positif","tag-chwarae-gemau-fideo","tag-comisiwn","tag-gemau-fideo","tag-gwaith-celf","tag-iechyd-meddwl","tag-jordan","tag-jordan-alexandra-smith","tag-jordan-paid-byth-ag-ildio","tag-lles","tag-paid-byth-ag-ildio","tag-paid-byth-ag-ildio-jordan","tag-paid-byth-ag-ildio-jordan-smith","tag-ymgyrch-paid-byth-ag-ildio"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4603","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4603"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4603\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4661,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4603\/revisions\/4661"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4610"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4603"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4603"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4603"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}