{"id":459,"date":"2018-06-29T10:31:40","date_gmt":"2018-06-29T10:31:40","guid":{"rendered":"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=459"},"modified":"2018-06-29T10:41:39","modified_gmt":"2018-06-29T10:41:39","slug":"sut-gallet-ti-helpu-gydar-broblem-blastig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/sut-gallet-ti-helpu-gydar-broblem-blastig\/","title":{"rendered":"Sut Gallet TI Helpu Gyda&#8217;r Broblem Blastig"},"content":{"rendered":"<h2><strong>Mae yna lawer iawn o sylw wedi bod yn ddiweddar am lygredd plastig, ac rydym am gael golwg sydyn ar y broblem a rhannu ychydig o awgrymiadau am sut gallet ti helpu.<\/strong><\/h2>\n<h3><strong>Felly beth yw&#8217;r broblem gyda phlastig?<\/strong><\/h3>\n<p>Gyda&#8217;r tyfiant ym mhoblogaeth y byd, mae plastigau hawdd, tafladwy wedi dod yn ffordd o fyw. Ond mae&#8217;r bywyd prysur diddiwedd yma yn cael effaith ar yr amgylchedd o&#8217;n cwmpas. Mae ein dibyniaeth ar y poteli a&#8217;r cynwysyddion gwastraffus yma yn achosi problemau i fywyd gwyllt, planhigion a phobl hefyd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r effaith mwyaf i&#8217;w weld yn y m\u00f4r a&#8217;r afonydd. Mae miliynau o bysgod yn marw pob dydd. Amcangyfrif y bydd pwysau&#8217;r plastig yn y m\u00f4r yn fwy nag holl bwysau&#8217;r pysgod erbyn 2050. Dyma pam fod pobl yn poeni ac yn annog pobl i helpu gwneud gwahaniaeth.\u00a0<a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/44415038\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Mae&#8217;r erthygl BBC yma yn egluro sut mae afonydd Caerdydd &#8216;yn marw&#8217; oherwydd yr holl lygredd.<\/a><\/p>\n<h3><a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/garbage-2369821_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-12862\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/garbage-2369821_1920-1024x683.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"683\" \/><\/a><\/h3>\n<h3><strong>Beth gallaf i&#8217;w wneud?<\/strong><\/h3>\n<p>Mae yna 5 peth gall <strong>pawb<\/strong> ei wneud i helpu gyda&#8217;r broblem blastig.<\/p>\n<h4><strong><a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/bags-684857_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-12863 alignright\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/bags-684857_1920-1024x683.jpg\" alt=\"\" width=\"262\" height=\"174\" \/><\/a><\/strong><\/h4>\n<h4><strong>1. Siopa&#8217;n gyfeillgar<\/strong><\/h4>\n<p>Bydda&#8217;n barod gyda bag y gellir ei ailddefnyddio wrth fynd i siopa, ac osgoi talu 5c (neu 10c weithiau) am fag hefyd. Syniad da arall fydda edrych os yw&#8217;r defnydd pacio yn gallu cael eu hailgylchu, ac os ddim, gweld os oes dewis arall.<\/p>\n<h4><strong><a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/bottles-774466_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-12864 alignleft\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/bottles-774466_1920-1024x687.jpg\" alt=\"\" width=\"256\" height=\"172\" \/><\/a><\/strong><\/h4>\n<h4><strong>2. Boteli d\u0175r gellir eu hailddefnyddio<\/strong><\/h4>\n<p>Buddsodda mewn potel d\u0175r neu gwpan gellir ei ailddefnyddio yn hytrach nag prynu diod mewn plastig sydd yn cael ei daflu i&#8217;r bin. Bydd hyn yn arbed arian i ti wrth i ti gario d\u0175r tap gyda thi, neu mae rhai llefydd yn cynnig disgownt 10% ar ddiodydd os wyt ti&#8217;n darparu cynhwysydd dy hun. Er ei fod yn c\u0175l i gael dy enw ar frappe, mae&#8217;n llawer fwy c\u0175l i geisio helpu&#8217;r amgylchedd.<\/p>\n<h4><strong>3. Osgoi plastigau dibwynt<\/strong><\/h4>\n<h4><strong><a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/straws-8001_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-12867 alignright\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/straws-8001_1920-1024x768.jpg\" alt=\"\" width=\"246\" height=\"184\" \/><\/a><\/strong><\/h4>\n<p>Mae gwthiad mawr wedi bod yn ddiweddar i beidio defnyddio gwelltyn (straw) ac nid yw&#8217;n hawdd cael gafael arnynt mewn tafarndai a bwytai bellach, mae&#8217;n rhaid gofyn yn benodol amdanynt. Nid yw&#8217;r mwyafrif ohonom angen gwelltyn i yfed, mae&#8217;n eithaf hawdd yfed heb un, a gall stopio hyn achub llawer o anifeiliaid neu blanhigion. Ac os wyt ti angen defnyddio gwelltyn, beth am ddefnyddio rhai papur?<\/p>\n<p>Ceisia brynu ffrwythau a llysiau yn rhydd, nid y rhai sydd wedi&#8217;u pecynnu mewn plastig yn barod. Nid oes rhaid defnyddio&#8217;r bagiau plastig clir sydd ar gael mewn siopau chwaith. Rho&#8217;r eitemau yn rhydd yn dy fag neu defnyddia gynhwysydd dy hun o gartref.<\/p>\n<h4><strong>4. Ailgylchu popeth<\/strong><\/h4>\n<p><a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/recycling-159694_1280.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-12866 alignleft\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/recycling-159694_1280-1024x1024.png\" alt=\"\" width=\"121\" height=\"121\" \/><\/a>Paid ychwanegu at y broblem wrth ddewis peidio ailgylchu pethau sy&#8217;n gallu cael ei ailgylchu. Stopia roi popeth yn yr ysbwriel cyffredinol. Mae hynny&#8217;n fwy o bethau yn mynd i&#8217;r safle tirlenwi ac yn cael effaith ar blanhigion ac anifeiliaid. Os wyt ti&#8217;n llosgi deunyddiau plastig mae hyn yn gallu rhyddhau cemegau gwenwynig. Mae mwy a mwy o eitemau yn gallu cael eu hailgylchu felly edrycha ar y label bob tro.<\/p>\n<h4><strong>5. Codi tri<\/strong><\/h4>\n<p>Mae yna lawer o sefydliadau ac elusennau sydd yn annog pobl i godi a gwaredu tri darn o blastig bob tro byddant yn ymweld \u00e2&#8217;r traeth neu glan afon. Fe gei di<a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/exercise-1845756_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-12865 alignright\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/exercise-1845756_1920-683x1024.jpg\" alt=\"\" width=\"179\" height=\"269\" \/><\/a>godi mwy wrth gwrs, cadwa lygaid am ddigwyddiadau glanhau yn agos i ti, neu trefna un dy hun. Os bydda bawb sydd yn ymweld yn cario ychydig o ysbwriel bob tro, yna byddai&#8217;n gwneud gwahaniaeth mawr i gael gwared ar y plastig yn ein hardaloedd o harddwch.<\/p>\n<p>Mae yna gyffro mawr dros ymarfer corff newydd hefyd &#8211; plogio. Cychwynnodd y mympwy yma yn Sweden ac mae pobl yn jogio ac yn codi sbwriel wrth fynd. Ymarfer corff gwych i dy goesau a&#8217;th graidd wrth i ti redeg a sgwatio. Cadwa dy hun a&#8217;r blaned yn ffit &#8211; bonws!<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-south-east-wales-43620667\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Edrycha ar yr erthygl BBC yma<\/a>, yn s\u00f4n am lanhau glan yr Afon Rhymni cwpl fisoedd yn \u00f4l. Casglwyd dros 150 nag o blastig mewn dwy awr!!! Gallet ti edrych ble fydd Gr\u0175p Afonydd Caerdydd yn mynd i gasglu sbwriel y tro nesaf yn yr adran <a href=\"http:\/\/cardiffriversgroup.co.uk\/events\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Digwyddiadau Sydd i Ddod<\/a>.<\/p>\n<hr \/>\n<h3><strong>Rhannu a dysgu mwy<\/strong><\/h3>\n<p>Sicrha dy fod di&#8217;n rhannu&#8217;r neges i rai sydd efallai ddim yn ymwybodol o&#8217;r effaith mae plastig yn ei gael ar fywyd pob dydd. Helpa&#8217;r byd wrth rannu&#8217;r erthygl yma a lledaenu&#8217;r neges am lygredd plastig.<\/p>\n<p>Os wyt ti eisiau gwybodaeth bellach mae yna adnoddau gwych ar <a href=\"https:\/\/www.livekindly.co\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><u>LiveKindly<\/u><\/a> a <a href=\"https:\/\/www.saynotoplastics.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><u>Say No To Plastics<\/u><\/a> fydd yn help i ti ddod yn rhyfelwr llygredd plastig.<\/p>\n<hr \/>\n<p><em>(Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Meic Cymru<\/a> ar 15 Mehefin 2018)<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae yna lawer iawn o sylw wedi bod yn ddiweddar am lygredd plastig, ac rydym am gael golwg sydyn ar y broblem a rhannu ychydig o awgrymiadau am sut gallet&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":460,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[77],"tags":[78,82,80,81,79],"class_list":["post-459","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-amgylchedd","tag-amgylchedd","tag-amgylcheddwr","tag-llygredd","tag-llygredd-plastig","tag-plastig"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/459","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=459"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/459\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":462,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/459\/revisions\/462"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/460"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=459"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=459"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=459"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}