{"id":4577,"date":"2022-03-17T17:21:02","date_gmt":"2022-03-17T17:21:02","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4577"},"modified":"2022-03-18T13:52:22","modified_gmt":"2022-03-18T13:52:22","slug":"paid-byth-ag-ildio-enfys","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/paid-byth-ag-ildio-enfys\/","title":{"rendered":"Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Enfys Evans"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"mae-enfys-15-yn-rhannu-sut-mae-gemau-fideo-wedi-bod-yn-ddihangfa-o-realiti-rhywbeth-mae-pawb-ei-angen-weithiau\">Mae Enfys, 15, yn rhannu sut mae gemau fideo wedi bod yn ddihangfa o realiti, rhywbeth mae pawb ei angen weithiau.<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio<\/a>, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Enfys, artist 15 oed oedd yn rhan o\u2019r prosiect.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-effaith-mae-gemau-fideo-wedi-ei-gael-ar-dy-iechyd-meddwl\">Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Cychwynnais chwarae gemau fideo yn ifanc iawn ac rwyf wastad wedi mwynhau\u2019r teimlad o drochi fy hun mewn byd ar-lein. Yn ddiweddar, rwyf wedi cael cyfle i brofi\u2019r byd o gemau ar-lein ac mae hyn wedi agor byd hollol newydd o brofiadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwyf wedi gwneud nifer di-rif o ffrindiau trwy gemau ar-lein, rhai byddwn yn ystyried fel fy ffrindiau agosaf. Pan nad allwn droi at neb, gallwn droi at gemau fideo i deimlo\u2019n hapus eto, a gallwn droi at fy ffrindiau ar-lein sydd yn dda yn gwrando ac wedi rhoi cyngor i mi sydd wedi helpu mewn sefyllfaoedd anodd iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gemau fideo wedi rhoi dihangfa i mi, bod hynny i\u2019r City of Tears yn <a href=\"https:\/\/www.hollowknight.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Hollow Knight<\/a>, neu\u2019r Sangonomiya Shrine yn <a href=\"https:\/\/genshin.hoyoverse.com\/pc-launcher\/?utm_source=NA_google_US_search_keywords_EventA_Test_20210615&amp;mhy_trace_channel=ga_channel&amp;new=1&amp;gclid=Cj0KCQjwz7uRBhDRARIsAFqjullRE3g5Uwq5TTsjSRnMwCB5Xv6QBuBQqG193rsj9YO0WUkE9mFPuJ4aAoETEALw_wcB#\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Genshin Impact<\/a>. Dwi wedi cael cysur a thawelwch o gemau fideo nad allwn ei gael yn unlle arall.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-full\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/BA13EB88-0D2B-41E8-80C4-04383E30A837-Lynne-Evans.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"432\" height=\"430\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/BA13EB88-0D2B-41E8-80C4-04383E30A837-Lynne-Evans.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4578\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/BA13EB88-0D2B-41E8-80C4-04383E30A837-Lynne-Evans.jpeg 432w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/BA13EB88-0D2B-41E8-80C4-04383E30A837-Lynne-Evans-300x300.jpeg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/BA13EB88-0D2B-41E8-80C4-04383E30A837-Lynne-Evans-150x150.jpeg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 432px) 100vw, 432px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-oedd-yr-ysbrydoliaeth-y-tu-ol-i-r-gwaith-yma\">Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu \u00f4l i\u2019r gwaith yma?<\/h3>\n\n\n\n<p>Roeddwn yn awyddus i gyfleu teimlad o ddihangfa o fywyd bob dydd yn y darn yma, rhywbeth mae pobl ei angen weithiau, nawr yn fwy nag erioed. Roeddwn eisiau dangos sut mae\u2019r teimlad yma yn cael ei gyflawni wrth chwarae gemau fideo, yn ogystal \u00e2 pha effaith mae\u2019n ei gael ar ein bywydau go iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Dewisais y cymeriadau yma gan eu bod yn ymddangos yn y gemau dwi\u2019n chwarae yn aml. Y gemau yma yw <a href=\"https:\/\/bethesda.net\/en\/game\/doom\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Doom<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.ea.com\/en-gb\/games\/apex-legends\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Apex Legends<\/a> a <a href=\"https:\/\/genshin.hoyoverse.com\/pc-launcher\/?utm_source=NA_google_US_search_keywords_EventA_Test_20210615&amp;mhy_trace_channel=ga_channel&amp;new=1&amp;gclid=Cj0KCQjwz7uRBhDRARIsAFqjullRE3g5Uwq5TTsjSRnMwCB5Xv6QBuBQqG193rsj9YO0WUkE9mFPuJ4aAoETEALw_wcB#\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Genshin Impact<\/strong><\/a> ayb. Roeddwn eisiau i\u2019r byd g\u00eam fideo edrych fel ei fod yn cyfuno \u00e2\u2019n byd ni, neu fy myd i, ac felly defnyddiais byrth (portals) i gyfleu hyn. Mae hyn hefyd yn cyfeirio at y porth gemau.<\/p>\n\n\n\n<p>Y rheswm syml dros ddewis y lliwiau oedd mai dyma oeddwn yn hoffi, ac fel y gweli di, rwy\u2019n hoff o\u2019r effaith disgleirio fel bod pethau\u2019n edrych yn fwy deinamig a llachar!<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/A8DC34D2-33D3-4DCD-89D3-9264D3C7B4DA-Lynne-Evans.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/A8DC34D2-33D3-4DCD-89D3-9264D3C7B4DA-Lynne-Evans-1024x1024.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4579\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/A8DC34D2-33D3-4DCD-89D3-9264D3C7B4DA-Lynne-Evans-1024x1024.jpeg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/A8DC34D2-33D3-4DCD-89D3-9264D3C7B4DA-Lynne-Evans-300x300.jpeg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/A8DC34D2-33D3-4DCD-89D3-9264D3C7B4DA-Lynne-Evans-150x150.jpeg 150w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/A8DC34D2-33D3-4DCD-89D3-9264D3C7B4DA-Lynne-Evans-768x768.jpeg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/A8DC34D2-33D3-4DCD-89D3-9264D3C7B4DA-Lynne-Evans.jpeg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-neges-fyddet-ti-n-ei-roi-i-rywun-sydd-yn-cael-trafferthion-iechyd-meddwl\">Pa neges fyddet ti\u2019n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os gallwn i ddweud unrhyw beth i\u2019r rhai sydd yn cael trafferth gydag iechyd meddwl, byddwn yn dweud hyn: dalia ati. Dwi\u2019n gwybod bod pobl yn rholio eu llygaid wrth glywed hyn, a pan dwi\u2019n stryglo dyam dwi\u2019n teimlo hefyd \u2013 creda fi! Ond, dyna\u2019n wir ydy\u2019r unig beth allet ti wneud. Hyd yn oed os mae\u2019n teimlo fel dy fod di\u2019n troedio\u2019r d\u0175r i gadw ar y wyneb, mae\u2019n rhaid bod hynny\u2019n well nag boddi yn y m\u00f4r oer!<\/p>\n\n\n\n<p>Meddylia am yr holl adegau mae pobl wedi goroesi\u2019r un sefyllfa \u00e2 thi, fedraf sicrhau nad ti yw\u2019r unig un. Cofia, er yr hyn sydd wedi digwydd iddynt, maent wedi goroesi, ac mi fyddi di hefyd er ei fod yn teimlo fel na fyddi di!<\/p>\n\n\n\n<p>Creda dy fod di\u2019n gallu goroesi unrhyw beth. Felly gwna beth bynnag sydd yn helpu ti i arnofio\u2019n ddigon hir fel dy fod di\u2019n gallu dechrau nofio eto. Mwynha\u2019r hufen i\u00e2 yna, gwylia\u2019r ffilm yna am y canfed gwaith neu efallai dechrau g\u00eam fideo newydd (neu chwarae un hen eto \u2013 dyw\u2019r ffaith ei fod yn hen ddim yn golygu nad yw\u2019n dda).<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-berthnasol\">Gwybodaeth Berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>I ddarganfod mwy am yr ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio <\/a>ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">YMA<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Wyt ti\u2019n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i <a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/iechyd-meddwl\/\">Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout<\/a> ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio\u2019r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti\u2019n rhannu!<\/p>\n\n\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"256\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4463\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-300x75.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-768x192.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Enfys, 15, yn rhannu sut mae gemau fideo wedi bod yn ddihangfa o realiti, rhywbeth mae pawb ei angen weithiau. Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch Paid Byth&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4581,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1473],"tags":[1476,427,1475,1482,1360,1523,1524,1528,718,1381,535,1006,1474,1526,1527,1477],"class_list":["post-4577","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-paid-byth-ag-ildio","tag-chwaraedameddwlpositif","tag-celf","tag-chwarae-da-meddwl-positif","tag-chwarae-gemau-fideo","tag-comisiwn","tag-enfys","tag-enfys-evans","tag-enfys-paid-byth-ag-ildio","tag-gemau-fideo","tag-gwaith-celf","tag-iechyd-meddwl","tag-lles","tag-paid-byth-ag-ildio","tag-paid-byth-ag-ildio-enfys","tag-paid-byth-ag-ildio-enfys-evans","tag-ymgyrch-paid-byth-ag-ildio"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4577","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4577"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4577\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4664,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4577\/revisions\/4664"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4581"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4577"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4577"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4577"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}