{"id":4516,"date":"2022-03-17T17:22:26","date_gmt":"2022-03-17T17:22:26","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4516"},"modified":"2022-03-18T13:38:27","modified_gmt":"2022-03-18T13:38:27","slug":"paid-byth-ag-ildio-kallie","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/paid-byth-ag-ildio-kallie\/","title":{"rendered":"Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Kallie Norris"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"mae-kallie-19-yn-rhannu-sut-mae-chwarae-gemau-fideo-wedi-helpu-gyda-i-phryder-a-i-iechyd-meddwl\">Mae Kallie, 19, yn rhannu sut mae chwarae gemau fideo wedi helpu gyda\u2019i phryder a\u2019i iechyd meddwl.<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio<\/a>, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Kallie, artist 19 oed oedd yn rhan o\u2019r prosiect.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-effaith-mae-gemau-fideo-wedi-ei-gael-ar-dy-iechyd-meddwl\">Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gemau fideo wedi bod yn ddihangfa o\u2019r byd go iawn, ac yn aml rwy\u2019n defnyddio gemau i helpu gyda fy mhryder ac iechyd meddwl ar y cyfan. Mae gemau fideo yn fy helpu i ymlacio a datgysylltu o realiti, ac rwy\u2019n chwarae llawer o gemau annibynnol llai, yn benodol, gyda them\u00e2u ysgafn, traciau sain a chelf, sydd yn helpu i dawelu\u2019r nerfau yn gyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gemau fel <em>Life is Strange, Telltale\u2019s the Walking Dead<\/em> a <em>Gone Home<\/em> wedi llwyddo i\u2019m nhrochi yn eu cyfanfydoedd ac wedi fy helpu i deimlo\u2019n fwy sicr o fy hun mewn bywyd yn gyffredinol, wrth i mi allu gofalu a pherthnasu \u00e2\u2019r cymeriadau. Rwyf wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau trwy sawl g\u00eam, gan ymuno \u00e2 nifer o gymunedau. Fel rhywun mewnblyg, a rhywun sydd yn dioddef gydag iechyd meddwl, mae hyn yn bwysig ac yn ystyrlon iawn i mi. Rwyf wedi creu llawer o gelf ffan ar gyfer gemau fideo yn y gorffennol, i fynegi\u2019r cariad sydd gen i tuag atynt.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/thumbnails-Cryptic-Wolf-1024x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-32143\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-oedd-yr-ysbrydoliaeth-y-tu-ol-i-r-gwaith-yma\">Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu \u00f4l i\u2019r gwaith yma?<\/h3>\n\n\n\n<p>Teitl y darn ydy \u2018Meithrin dy Feddyliau\u2019 a\u2019r ysbrydoliaeth y tu \u00f4l iddo yw\u2019r syniad bod y meddwl yn ardd sydd angen ei dendio er mwyn iddo dyfu a ffynnu. Mae gemau fideo yn helpu fy meddwl i ffynnu wrth roi allanfa creadigol a gofod diogel i ymlacio a lleddfu pryder, ac mae hyn wedi bod yn help mawr i fy iechyd meddwl yn gyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p>Penderfynais greu hunan bortread ar gyfer y darn, i ddarlunio\u2019r buddion mae gemau fideo yn ei gael ar fy iechyd meddwl personol. Dewisais balet lliw cynnes i roi synnwyr o gysur ac agosatrwydd. Defnyddiais baent acrylig hefyd a lliwiau llachar i ychwanegu at ergyd emosiynol y darn.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/IMG_0363-Cryptic-Wolf-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-32144\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-neges-fyddet-ti-n-ei-roi-i-rywun-sydd-yn-cael-trafferthion-iechyd-meddwl\">Pa neges fyddet ti\u2019n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Y neges byddwn i\u2019n ei rannu gyda rhai sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl ydy i ofalu am eu hunain. Darganfod y pethau rwyt ti\u2019n mwynhau, treulio amser yn gwneud y pethau ti\u2019n caru gwneud a threulio amser gyda dy hoff bobl. Bydd rhai dyddiau yn anodd, a rhai dyddiau\u2019n dda. Gofala am dy hun a threulio rhai diwrnodau yn gwneud dim. Mae pawb yn gweithio ar gyflymdra gwahanol, felly paid bod yn galed arnat ti dy hun am nad wyt ti\u2019n debyg i bobl eraill.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-berthnasol\">Gwybodaeth Berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>I ddarganfod mwy am yr ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio <\/a>ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">YMA<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Wyt ti\u2019n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i <a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/iechyd-meddwl\/\">Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout<\/a> ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio\u2019r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti\u2019n rhannu!<\/p>\n\n\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"256\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4463\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-300x75.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-768x192.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Kallie, 19, yn rhannu sut mae chwarae gemau fideo wedi helpu gyda\u2019i phryder a\u2019i iechyd meddwl. Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4518,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1473],"tags":[1476,1475,1482,718,1381,535,1494,1495,1006,1474,1497,1496,1477],"class_list":["post-4516","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-paid-byth-ag-ildio","tag-chwaraedameddwlpositif","tag-chwarae-da-meddwl-positif","tag-chwarae-gemau-fideo","tag-gemau-fideo","tag-gwaith-celf","tag-iechyd-meddwl","tag-kallie","tag-kallie-norris","tag-lles","tag-paid-byth-ag-ildio","tag-paid-byth-ag-ildio-kallie","tag-paid-byth-ag-ildio-kallie-norris","tag-ymgyrch-paid-byth-ag-ildio"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4516","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4516"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4516\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4659,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4516\/revisions\/4659"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4518"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4516"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4516"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4516"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}