{"id":4483,"date":"2022-03-17T17:24:51","date_gmt":"2022-03-17T17:24:51","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4483"},"modified":"2022-03-17T17:24:52","modified_gmt":"2022-03-17T17:24:52","slug":"paid-byth-ag-ildio-saabiqah","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/paid-byth-ag-ildio-saabiqah\/","title":{"rendered":"Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Saabiqah Tariq Khan"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"mae-chwarae-gemau-fideo-yn-gwneud-i-saabiqah-15-oed-deimlo-n-ddigon-dewr-i-daclo-unrhyw-beth\">Mae chwarae gemau fideo yn gwneud i Saabiqah, 15 oed, deimlo\u2019n ddigon dewr i daclo unrhyw beth.<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio<\/a>, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Saabiqah, artist 15 oed oedd yn rhan o\u2019r prosiect.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-effaith-mae-gemau-fideo-wedi-ei-gael-ar-dy-iechyd-meddwl\">Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Pan dwi\u2019n teimlo bod angen ychydig o amser i mi fy hun, dwi wrth fy modd mynd ar <a href=\"https:\/\/www.minecraft.net\/en-us\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Minecraft<\/a> ac adeiladu t\u0177 prydferth ac ymladd zombies, neu chwarae ychydig o gemau saethu a chael hwyl gyda ffrindiau a chefndryd a chyfnitherod. Dyma yw fy ffordd i fyfyrio ac ymlacio ac rwy\u2019n mwynhau gan ei fod yn tynnu\u2019r straen i ffwrdd!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Minecraft yn g\u00eam hyfryd, a dwi yn ei garu yn fawr iawn gan ei fod yn caniat\u00e1u i mi gael gwared ar yr holl greadigrwydd sydd yn byrlymu yn fy mhen yn barhaol fel melin draed, yn mynd ymlaen ac ymlaen o hyd. Felly, wrth eistedd yn gyfforddus yn y gadair a gafael yn y rheolwr, rwy\u2019n adeiladu ac mae\u2019r meddwl yn rhydd ac yn poeni am ddim arall. Rwy\u2019n caru adeiladu tai bach cyfforddus gan mai dyma sut dwi\u2019n teimlo wrth chwarae \u2013 yn gyfforddus ac yn hapus.<\/p>\n\n\n\n<p>Weithiau rwy\u2019n chwarae g\u00eam Black Ops neu Modern Warfare. Gallai ymddangos fel g\u00eam fawr i blentyn fel fi, ond dwi\u2019n cael fy ngosod yn esgidiau&#8217;r milwyr sydd yn peryglu eu bywydau i achub eraill! Rwy\u2019n teimlo\u2019n ddewr yn trechu\u2019r dynion drwg ac yn achub pobl, ac mae\u2019n gwneud i mi deimlo\u2019n hapus ar ddiwrnod isel.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"31816\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/1646072231997_161.-Saabiqah-Tariq-Khan.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-31816\"\/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"31817\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/162.-Saabiqah-Tariq-Khan.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-31817\"\/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-oedd-yr-ysbrydoliaeth-y-tu-ol-i-r-gwaith-yma\">Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu \u00f4l i\u2019r gwaith yma?<\/h3>\n\n\n\n<p>Penderfynais ddarlunio fy mhersona yn Minecraft. Yn hytrach nag gwneud darn o gelf amlwg am sut mae gemau yn gwneud i mi deimlo, rwyf wedi darlunio fy hun fel y chwaraewr. Y teimlad o fod yn ddewr oedd yr ysbrydoliaeth. Gall fod yn frawychus iawn yn Minecraft i fynd allan yn y nos, gan mai yn y tywyllwch mae\u2019r angenfilod yn ymddangos. Darluniais fy hun yn paratoi i adael, gan fy mod yn teimlo\u2019n ddewr ac yn gryf. Mae chwarae gemau fideo wedi dysgu i mi nad ydw i ofn y tywyllwch!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r goleuadau yn rhoi teimlad cryf i\u2019r person sydd yn edrych arno. Mae edrych ar fy nghelf yn gwneud i mi fod eisio rhoi\u2019r consol ymlaen ac ymladd ychydig o \u2018creepers\u2019 ffrwydrol a hen zombies gwyrdd. Mae\u2019n rhoi naws o arwr ar siwrne \u2013 dwi\u2019n hoff ohono! Mae\u2019r naws yn gwneud i\u2019r chwaraewr DEIMLO\u2019N ddewr a dyna sut mae chwarae yn gwneud i mi deimlo!<\/p>\n\n\n\n<p>Weithiau byddaf yn teimlo ofn, ond dyna oedd yr oes gynt. Rwy\u2019n rhyfelwr bellach! Ymhen dim byddaf yn \u00f4l ar Minecraft yn ymladd gwrachod ac Endermen, a mynd ymlaen i ymladd yr Enderdragon hunllefus hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bwriad y neges y tu \u00f4l i\u2019m gwaith ydy sicrhau dy fod di\u2019n edrych ymlaen gydag wyneb dewr a ddim yn cael dy drechu gan yr ochr ofnus. Sicrha dy fod di\u2019n aros yn benderfynol!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-2 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/163.-Saabiqah-Tariq-Khan.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"799\" data-id=\"4485\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/163.-Saabiqah-Tariq-Khan-1024x799.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4485\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/163.-Saabiqah-Tariq-Khan-1024x799.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/163.-Saabiqah-Tariq-Khan-300x234.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/163.-Saabiqah-Tariq-Khan-768x599.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/163.-Saabiqah-Tariq-Khan.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/164.-Saabiqah-Tariq-Khan.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"799\" data-id=\"4486\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/164.-Saabiqah-Tariq-Khan-1024x799.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4486\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/164.-Saabiqah-Tariq-Khan-1024x799.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/164.-Saabiqah-Tariq-Khan-300x234.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/164.-Saabiqah-Tariq-Khan-768x599.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/164.-Saabiqah-Tariq-Khan.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-neges-fyddet-ti-n-ei-roi-i-rywun-sydd-yn-cael-trafferthion-iechyd-meddwl\">Pa neges fyddet ti\u2019n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?<\/h3>\n\n\n\n<p>Paid gadael i\u2019r tywyllwch dy lyncu. Ac os wyt ti yn agor dy ddrws iddo, cadwa torch yn olau, bydd y torch yna yn dy arwain di yn \u00f4l at y goleuni yn y pen draw. A chadwa dy ben yn uchel hefyd!<\/p>\n\n\n\n<p>Gwna dy orau glas i drechu\u2019r negyddol gyda ffon, nid yw\u2019n hwyl ac mae\u2019n well cadw\u2019n benderfynol yn hytrach nag boddi mewn llyn llwyd anobaith. Bydd edrych i lawr i mewn i\u2019r tywyllwch yn dy wneud yn fregus, ac nid yw hynny\u2019n beth da.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/166.-Saabiqah-Tariq-Khan-1024x799.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-31820\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-berthnasol\">Gwybodaeth Berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>I ddarganfod mwy am yr ymgyrch <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">Paid Byth ag Ildio<\/a> ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\">YMA<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Wyt ti\u2019n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i <a href=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/iechyd-meddwl\/\">Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout<\/a> ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio\u2019r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti\u2019n rhannu!<\/p>\n\n\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/ymgyrch-paid-byth-ag-ildio\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"256\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4463\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-1024x256.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-300x75.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg-768x192.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2022\/03\/Homepage-Cymraeg.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae chwarae gemau fideo yn gwneud i Saabiqah, 15 oed, deimlo\u2019n ddigon dewr i daclo unrhyw beth. Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4487,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1473],"tags":[427,1475,1360,1481,1478,1480,1479,1387,1477],"class_list":["post-4483","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-paid-byth-ag-ildio","tag-celf","tag-chwarae-da-meddwl-positif","tag-comisiwn","tag-dewr","tag-minecraft","tag-paid-byth-ag-ildio-saabiqah","tag-saabiqah","tag-saabiqah-tariq-khan","tag-ymgyrch-paid-byth-ag-ildio"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4483","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4483"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4483\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4493,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4483\/revisions\/4493"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4487"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4483"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4483"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4483"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}