{"id":4276,"date":"2021-10-11T00:20:00","date_gmt":"2021-10-11T00:20:00","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4276"},"modified":"2021-10-08T13:34:13","modified_gmt":"2021-10-08T13:34:13","slug":"cerdyn-post-or-dyfodol-elsie-morris","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/cerdyn-post-or-dyfodol-elsie-morris\/","title":{"rendered":"Cerdyn Post o\u2019r Dyfodol: Elsie Morris"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Elsie, sydd yn 10 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o\u2019r Dyfodol <a href=\"https:\/\/www.chapter.org\/cy\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Chapter<\/a>, yn egluro\u2019r weledigaeth y tu \u00f4l i\u2019w lun.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth oedd dy ysbrydoliaeth wrth greu\u2019r llun?<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym wedi bod yn dysgu am ddyn o\u2019r enw Stephen Wiltshire yn yr ysgol, sydd yn artist pensaern\u00efol gyda chof ffotograffig sydd yn c\u0175l iawn. Felly, pan glywais am y gystadleuaeth creu dinas y dyfodol, meddyliais, bydd hynny\u2019n dda i wneud efallai.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe feddyliais am greu dinas dan y d\u0175r a meddwl bydda hynny\u2019n c\u0175l. Ond fe wnaeth rhywun sylw \u2013 sut bydd pawb yn anadlu? Dwi\u2019n meddwl mewn 50 mlynedd bydd gwyddonwyr yn gallu dyfeisio tagellau (gills) sydd yn gallu glynu ar, ac esgidiau gyda phwysau ynddynt hefyd, fel dy fod di\u2019n aros ar y gwaelod. Felly rwyt ti\u2019n gallu clywed pobl, anadlu dan y d\u0175r ac aros ar y llawr! Dyna pam bod y ddinas dwi wedi\u2019i greu o dan y d\u0175r.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd wedi llwyddo dysgu sut i siarad gydag anifeiliaid felly roedd rhywun oedd yn gallu gneud hynny wedi siarad gyda\u2019r anifeiliaid ac wedi dod i gytundeb gyda\u2019r anifeiliaid y byddem yn aros o dan y d\u0175r ar yr amod nad ydym yn dinistrio eu cynefin.<\/p>\n\n\n\n<p>Y rheswm bod popeth dan y d\u0175r ydy oherwydd bod lefelau\u2019r m\u00f4r yn codi ac mae Caerdydd wedi boddi. Ond dim ond un darn o Gaerdydd, nid y byd i gyd! Dyna\u2019r ddinas dan y d\u0175r. Mae\u2019n le gwych i dwristiaid. Wrth feddwl mod i am wneud hyn, roeddwn yn awyddus i gynnwys popeth sydd gen ti mewn dinas go iawn, fel ysgol, archfarchnad, tref a thai wrth gwrs. Ond mae pethau newydd wedi\u2019u hychwanegu hefyd, fel canolfan lles a throliau sg\u00efo i symud o gwmpas.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Art-Elsie.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30906\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut wyt ti\u2019n teimlo am gael dy gynnwys mewn arddangosfa celf broffesiynol yn Chapter?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n teimlo\u2019n gr\u00eat i wybod bod fy ngwaith yn cael ei arddangos yn Chapter. Pan oeddwn i\u2019n fabi, roedd mam yn fy ngwthio o gwmpas yr holl arddangosfeydd celf yn y Chapter, felly roedd gwybod bod fy ngwaith am fod yno yn wych.<\/p>\n\n\n\n<p>Es i yno dros y penwythnos gyda fy nheulu a daeth llawer o bobl ataf i sgwrsio a dweud pa mor dda oedd fy ngwaith, ac roedd hynny yn gwneud i mi deimlo\u2019n hapus iawn ac yn gr\u00eat. Rwy\u2019n teimlo\u2019n falch bod hyn wedi digwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn aml yn y Chapter, mae yna waith oedolion sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr i blant, ond nawr mae yna waith lle gall plant fynd yno a meddwl wow, dyna c\u0175l, mae\u2019n gr\u00eat.<\/p>\n\n\n\n<p>Dwi\u2019n caru mynd i arddangosfeydd celf a dwi bob tro\u2019n meddwl sut deimlad ydy cael arddangos dy waith yno a nawr dwi\u2019n gwybod, yn bendant. Dwi wedi bod sawl gwaith ac mae\u2019n gr\u00eat gwybod bod fy ngwaith yn cael ei arddangos yn Chapter, mae\u2019n gwneud i mi deimlo yn hynod o falch.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image is-style-rounded\"><figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Elsie-Morris-768x1024.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30952\" width=\"509\" height=\"679\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pa bethau creadigol eraill wyt ti\u2019n gwneud?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae mam yn athrawes celf, ac mae\u2019n cynnal gweithdai, felly dwi\u2019n gwneud llawer o gelf gartref ac mae gen i lawer o offer celf. Mae gen i ddyddiadur bwled, sydd fel dyddiadur gyda phwyntiau bwled i gynllunio popeth ac mae\u2019n dda iawn i iechyd meddwl a lles. Dwi\u2019n defnyddio hwnnw\u2019n aml, mwy fel llyfr sgets nag llyfr cadw trac, felly mae llawer o luniau yn fy nyddiadur bwled.<\/p>\n\n\n\n<p>Dwi wedi bod yn gwneud llawer mwy o gelf gartref yn ystod y cyfnod clo, tra roeddwn i\u2019n dysgu o gartref. Roedd pob un o\u2019m tasgau yn cael eu troi i mewn i brosiectau celf. Dwi\u2019n caru darllen y Beano, ac felly pan oedd gen i brosiect gwyddoniaeth i wneud, cafodd ei droi i mewn i stribed comig Beano ac roedd hynny\u2019n hwyl. Yn yr ysgol rydym yn dysgu lot ac mae gennym athrawon celf dda iawn, felly rydym yn dysgu lot am artistiaid newydd a dwi\u2019n aml yn teimlo ysbrydoliaeth ac yn mynd adref i wneud y gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n mynd i ddau ddosbarth yr wythnos mae mam yn ei gynnal: un dosbarth dyddiadur bwled ac un dosbarth llyfr sgets. Mae\u2019n lot o hwyl ac mae llawer o fy ffrindiau yn mynd hefyd felly dwi\u2019n cael gweithio gyda fy ffrindiau yn yr ysgol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae fy ffrindiau a fi yn dod \u00e2\u2019r llyfrau sgets i iard yr ysgol ac wedi bod yn cynnal clybiau celf fach amser chware, yn eistedd ac yn siarad ac yn sgetsio. DWI\u2019N CARU CELF. Dyma un o fy hoff bethau i wneud felly pan fyddaf yn cael y cyfle dwi\u2019n caru eistedd i lawr a chreu celf.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/In-article-Images-PFTF-3-1024x272.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-30953\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Oes unrhyw beth arall hoffet ti ddweud am gyrraedd y rownd derfynol?<\/h3>\n\n\n\n<p>Dwi\u2019n caru mynd i\u2019r Chapter. Dwi wedi tyfu i fyny yno. Mae\u2019n debyg mai dyma un o fy hoff lefydd ar y ddaear. Dwi\u2019n caru gwylio ffilmiau yno. Dwi bob tro\u2019n disgwyl nes bydd y ffilm yn dod i\u2019r Chapter er mwyn cael gwylio nhw yno gan ei fod cymaint o hwyl. Roeddwn i hefyd yn arfer gwneud dosbarthiadau celf yno, a dosbarthiadau drama hefyd, ac roedd hynny\u2019n hwyl. Ac mae\u2019r bwyd yn flasus iawn bob tro (os ydy\u2019r bobl yn y Chapter yn gwrando)!<\/p>\n\n\n\n<p>Felly, dwi\u2019n falch o fod yn un o enillwyr y gystadleuaeth cerdyn post y dyfodol ar gyfer pen-blwydd Chapter yn 50 \u2013 mae\u2019n anhygoel bod hynny wedi digwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dwi\u2019n gobeithio wir, mewn 50 mlynedd arall, bydd y Chapter yn cynnal cystadleuaeth arall ar gyfer eu pen-blwydd yn 100. Efallai wedyn bydd gen i \u0175yr neu wyres fydda\u2019n gallu rhoi tro arni. Dwi ddim yn gallu dychmygu sut beth fydda ennill pleidlais y cyhoedd a chael fy ngwaith ar y blwch golau mawr. Bydda hynny\u2019n anhygoel ofnadwy a fedra i ddim dychmygu hynny\u2019n digwydd, ond os ydyw, yna bydda hynny\u2019n hynod anhygoel. Dwi\u2019n caru Chapter a dwi mor falch mod i\u2019n gallu bod yn un o\u2019r enillwyr.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/chapterlightbox-1024x315.png\" alt=\"Chapter Lightbox\" class=\"wp-image-30884\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p><meta charset=\"utf-8\">Mae hwn yn rhan o\u2019r <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/dychmygar-dyfodol-mewn-50-mlynedd\/\">ymgyrch Cerdyn Post o\u2019r Dyfodol <\/a>sydd yn cael ei gynnal ar y cyd \u00e2 Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddathlu eu pen-blwydd yn 50. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a phawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, clicia<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/dychmygar-dyfodol-mewn-50-mlynedd\/\"> yma.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Elsie, sydd yn 10 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o\u2019r Dyfodol Chapter, yn&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4277,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1417],"tags":[1423,1422,1428,1426,59,1418,1424,61,1421,1435,1427,1425],"class_list":["post-4276","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cerdyn-post-or-dyfodol","tag-arddangosfa-ar-lein-chapter","tag-arddangosfa-celf-chapter","tag-arddangosfa-gelf-caerdydd-chapter","tag-beth-fydd-dyfodol-caerdydd","tag-canolfan-gelfyddydau-chapter","tag-celf-chapter","tag-cerdyn-post-or-dyfodol","tag-chapter","tag-chapter-caerdydd","tag-elsie-morris","tag-theatre-gelfyddydau-chapter","tag-yr-wythnos-hon-yn-chapter"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4276","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4276"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4276\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4283,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4276\/revisions\/4283"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4277"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4276"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4276"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4276"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}