{"id":4205,"date":"2021-09-01T12:56:48","date_gmt":"2021-09-01T12:56:48","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4205"},"modified":"2021-09-01T12:56:49","modified_gmt":"2021-09-01T12:56:49","slug":"cyngor-ar-sut-i-wneud-ffrindiau-newydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/cyngor-ar-sut-i-wneud-ffrindiau-newydd\/","title":{"rendered":"Cyngor ar Sut i Wneud Ffrindiau Newydd"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pa un ai wyt ti\u2019n dychwelyd i\u2019r ysgol neu os wyt ti\u2019n fyfyriwr newydd yn y coleg\/prifysgol. Mae\u2019n amser da i gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Dyma ychydig o gyngor i roi ti ar ben ffordd!<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">1. Ymuna \u00e2 gr\u0175p<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r syniad o gyfarfod a gwneud ffrindiau yn gallu teimlo\u2019n eithaf brawychus, ond unwaith i ti gychwyn bydd pethau\u2019n dod yn haws! Beth am ystyried ymuno \u00e2 gr\u0175p? Gwna restr o\u2019r pethau rwyt ti\u2019n ei fwynhau neu defnyddia\u2019r cyfle yma i roi tro ar hobi newydd. Byddi di\u2019n dod i adnabod pobl wrth i ti wneud pethau. Mae yna lawer o grwpiau a dosbarthiadau wedi\u2019i selio ar weithgareddau gallet ti roi cynnig arnynt. Dyma ychydig o syniadau i\u2019w hystyried:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Clwb chwaraeon (beicio, athletau, p\u00eal droed, tenis, ioga, rygbi ayb)<\/li><li>Dosbarthiadau drama neu ddawns<\/li><li>Clwb llyfrau<\/li><li>Clwb ieuenctid (Gwobrau Dug Caeredin ayb)<\/li><li>Gr\u0175p cerdded\/teithio<\/li><li>Dosbarthiadau coginio<\/li><\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/2378560-e1629724159642-1024x820.jpg\" alt=\"Cart\u0175n - tri person yn rhedeg marathon - ar gyfer erthygl ffrindiau\n\" class=\"wp-image-30671\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">2. Gwirfoddoli<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gwirfoddoli yn ffordd wych arall o gyfarfod ffrindiau newydd. Mae ymchwil yn dangos bod lefel hapusrwydd pobl yn codi pan fyddant yn helpu pobl neu gymunedau. Edrycha ar dudalen <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/gwaith-a-hyfforddiant\/gwirfoddoli\/\">Gwybodaeth Gwirfoddoli theSprout<\/a> am wybodaeth bellach a help i gychwyn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/43052-1024x745.jpg\" alt=\"Cart\u0175n - pobl yn gwirfoddoli ac yn rhoi eitemau i achos\" class=\"wp-image-30672\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><br>3. Camu allan o sefyllfa gyfforddus<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae dod i adnabod pobl a gwneud ffrindiau newydd yn golygu camu allan o sefyllfa gyfforddus weithiau. Efallai bydd pethau\u2019n teimlo\u2019n anodd ac yn anghyfforddus i gychwyn ond ceisia gychwyn sgwrs gyda\u2019r bobl ti\u2019n eu cyfarfod, o ddydd i ddydd ac yn unrhyw un o\u2019r syniadau amlinellwyd uchod. Gallet ti ymarfer gwenu a chyflwyno dy hun yn y drych gartref (mae pobl yn fwy tebygol o deimlo\u2019n agos atat os wyt ti\u2019n gwenu ac yn cadw cyswllt llygad). Gallet ti feddwl am beth i\u2019w ddweud o flaen llaw.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd cymryd rhan mewn gweithgareddau \u00e2\u2019ch gilydd yn helpu, bydd gennych chi rywbeth yn gyffredin yn syth. Yna bydd posib symud ymlaen i ddarganfod y pethau sy\u2019n gyffredin rhyngoch, fel eich hoff gerddoriaeth. Wrth i ti wneud hyn fwy, bydd yn dod yn haws, a byddi di\u2019n dod yn fwy hyderus!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/2650149-e1629723732898-1024x714.jpg\" alt=\"Cart\u0175n - gr\u0175p o 5 ffrind yn gwenu ac yn chwifio breichiau - ar gyfer erthygl ffrindiau\n\" class=\"wp-image-30669\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth berthnasol<\/h2>\n\n\n\n<p>Cafodd yr erthygl hon ei phostio yn wreiddiol ar wefan Meic. Os wyt ti\u2019n cael trafferth gwneud ffrindiau siarada \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Meic<\/a> yn gyfrinachol ac yn ddienw yn rhad ac am ddim.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/MEIClogo_transparent-1024x615.png\" alt=\"Logo Meic\" class=\"wp-image-3085\" width=\"579\" height=\"347\"\/><\/a><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pa un ai wyt ti\u2019n dychwelyd i\u2019r ysgol neu os wyt ti\u2019n fyfyriwr newydd yn y coleg\/prifysgol. Mae\u2019n amser da i gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Dyma ychydig&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":23,"featured_media":4206,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1088],"tags":[1410,1404,1408,1407,1176,1406,1405,1409],"class_list":["post-4205","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-perthnasau","tag-ble-i-gyfarfod-ffrindiau-newydd","tag-ffrindiau-caerdydd","tag-gwneud-ffrindiau","tag-gwneud-ffrindiau-yng-nghaerdydd","tag-meic","tag-sut-i-wneud-ffrindiau","tag-sut-i-wneud-ffrindiau-newydd","tag-ysgol-gwneud-ffrindiau-newydd"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4205","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/23"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4205"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4205\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4208,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4205\/revisions\/4208"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4206"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4205"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4205"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4205"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}