{"id":4197,"date":"2021-08-19T09:02:22","date_gmt":"2021-08-19T09:02:22","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4197"},"modified":"2024-10-04T13:33:32","modified_gmt":"2024-10-04T13:33:32","slug":"beth-maen-ei-olygu-i-fod-yn-berson-ifanc-yng-nghaerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/beth-maen-ei-olygu-i-fod-yn-berson-ifanc-yng-nghaerdydd\/","title":{"rendered":"Beth Mae\u2019n Ei Olygu i Fod yn Berson Ifanc yng Nghaerdydd?"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Rhoddwyd cyfle i bobl ifanc creadigol rhwng 14-18 oed i gymryd rhan mewn comisiwn ar gyfer G\u0175yl Gw\u00ean o Haf Caerdydd yn ystod haf 2021.<\/h2>\n\n\n\n<p>Byddai pob ymgeisydd yn derbyn \u00a3300 am greu darn o gelf sydd yn adlewyrchu sut beth yw bod yn berson ifanc o Gaerdydd. Roedd ganddynt 3 wythnos i greu\u2019r gelf o\u2019r syniad cychwynnol i\u2019r darn gorffenedig. Arddangoswyd y darnau wedyn yn ystod wythnos olaf prif safle\u2019r \u0175yl Gw\u00ean o Haf, gyda\u2019r artistiaid ifanc yn ymfalch\u00efo yn cael rhannu eu gwaith. Dyma grynodeb o\u2019r bobl ifanc creadigol talentog a\u2019r gwaith.<br><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-caerdydd-mewn-golau-newydd\/\">Rosie Pearn<\/a>, 17<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae celf Rosie yn ddarn \u2018pop-yp\u2019 wedi ei ddylunio i ddod \u00e2\u2019i darlun hi o fywyd Caerdydd yn fyw mewn ffurf model. Ysbrydoliaeth gwaith Rosie oedd hanes y ddinas, yn benodol Castell Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd bod y \u201cdarn yn dod at ei gilydd fel rydych chi\u2019n edrych i lawr ar y castell ac ar yr ochr mae\u2019r tai tref a\u2019r bwytai sydd yn cynrychioli dinas fodern, fywiog. Mae yna gymeriadau bach ar ffurf hwyaid, llygod mawr a physgod sydd yn byw eu bywyd dyddiol. Mae\u2019n cynnig mewnwelediad i fywydau pobl normal Caerdydd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>I ddarllen mwy am Rosie a\u2019i gwaith, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-caerdydd-mewn-golau-newydd\/\">clica yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Rosie-Pearn-In-Person-1024x768.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30525\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-ein-dinas-ar-ffilm\/\">Faaris Ahmad<\/a>, 14<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r fideo yma, wedi ei ffilmio a\u2019i olygu gan Faaris, yn canolbwyntio ar Gaerdydd cynhwysol ac amrywiol, yn ogystal \u00e2\u2019r holl weithgareddau sydd ar gael i bobl ifanc.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhannodd Faaris: \u201cRwyf wedi cael llawer o brofiadau positif yng Nghaerdydd, fel person ifanc. Mae\u2019n ddinas amrywiol, gynhwysol a chyfeillgar. Fel person Asiaidd rwyf wedi sylwi bod pawb yn gefnogol ohonot o ble bynnag rwyt ti\u2019n dod, felly mae\u2019n gysur gwybod bod yna gefnogaeth o\u2019th gwmpas yn y ddinas hyfryd yma.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>I ddarllen mwy am Faaris a\u2019i waith, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-ein-dinas-ar-ffilm\/\">clica yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"What It Means To Be A Young Person In Cardiff | Summer Of Smiles\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/4OlOPPDpgMk?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-merched-mwslimaidd-arloesol-mewn-celf\/\">Saabiqah Tariq-Khan<\/a>, 14<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae cymeriad siwper arwr Saabiqah\u2019s yn eistedd ar adeilad eiconig Pierhead ym Mae Caerdydd, ei hoff le yn y ddinas.<\/p>\n\n\n\n<p>Eglurai: \u201cnid oeddwn yn gweld siwper arwyr mewn sgarff lliwiau Pacistan a Somalia pan oeddwn yn tyfu. Nid wyf wedi gweld siwper arwr Mwslim. Mae\u2019r cymeriad yma yn adlewyrchu fi a\u2019m mhersonoliaeth. Rwyf wedi penderfynu creu merch Pacistani Prydeinig. Mae\u2019n byw yng Nghaerdydd, yn mynd i\u2019r ysgol, ac yn byw ei bywyd fel unrhyw berson ifanc Mwslimaidd arall. Mae hi\u2019n cynrychioli fi mewn ffordd, ond yn cynrychioli holl ferched Mwslim eraill Caerdydd hefyd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>I ddarllen mwy am Saabiqah a\u2019i gwaith, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-merched-mwslimaidd-arloesol-mewn-celf\/\">clica yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"30568\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Saabi2-836x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30568\"\/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"30566\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Saabi-845x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30566\"\/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"30567\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Saabi1-845x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30567\"\/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artistadlewyrchu-amrywiaeth-caerdydd-mewn-celf\/\">Eshaan Rajesh<\/a>, 17<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae celf Eshaan yn adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Caerdydd yn ei ddarn diweddaraf.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedai: \u201cmae\u2019r gwaith yn gynrychiolaeth weledol o\u2019r amrywiaeth a\u2019r cynhwysiant sydd i\u2019w weld yng Nghaerdydd. Mae\u2019n cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, ac yn lle\u2019r neges sydd ar flaen yr adeilad, rwyf wedi cynnwys y geiriau <em>Young People Are the Change we Wish to See in Cardif<\/em>f. Mae\u2019n neges ysbrydoledig gan ei fod yn atgyfnerthu\u2019r rhan sydd gan bobl ifanc i\u2019w chwarae yng Nghaerdydd ac yn siapio dyfodol ein prifddinas.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bobl ar y blaen yn cynrychioli\u2019r amrywiaeth yng Nghaerdydd. Rhannodd Eshaan: \u201cRoedd cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd yn hanfodol. Mae\u2019r holl bobl yn y raffeg yn dod o gefndiroedd crefyddol, hil a diwylliannol wahanol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>I ddarllen mwy am Eshaan a\u2019i waith, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artistadlewyrchu-amrywiaeth-caerdydd-mewn-celf\/\">clica yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/IMG_0015-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30572\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/blog\/farahthomas\/\">Farah Thomas<\/a>, 14<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gwaith Farah yn ymwneud \u00e2 chefnogi amrywiaeth yng Nghaerdydd, ac i weld ein gwahaniaeth tra hefyd yn cydnabod bod pawb yr un peth, rywsut neu\u2019i gilydd. Roedd yn awyddus i gynrychioli\u2019r holl wahanol ddiwylliannau yng Nghaerdydd. Dywedodd bod ei darn yn ymgorffori\u2019r teimlad y dylem gofleidio ein gwahaniaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhannodd: \u201cRoeddwn eisiau adlewyrchu\u2019r amrywiaeth yng Nghaerdydd, gan fy mod yn teimlo nad oes digon o siarad am ein gwahanol ddefodau a thraddodiadau. I ddangos bod yna amrywiaeth o bobl yng Nghaerdydd, roeddwn eisiau adlewyrchu profiadau gwahanol bobl ifanc y ddinas a chynnig ychydig o gynrychiolaeth iddyn nhw.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>I ddarllen mwy am Farah a\u2019i gwaith, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/farahthomas\/\" title=\"\">clica yma.<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Farah1-e1628246585945-532x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30594\"\/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/blog\/nalanihallam\/\">Nalani Hallam<\/a>, 15<\/h3>\n\n\n\n<p>Penderfynodd Nalani Hallam adlewyrchu ei barn o Gaerdydd o safbwynt personol, wrth greu hunan ddarlun wedi\u2019i blethu \u00e2\u2019r iaith Gymraeg. Ei hysbrydoliaeth oedd dangos bod pobl o wahanol gefndiroedd yn gallu mynegi eu hunain trwy\u2019r rhyddid sydd yn dod o fod yn artistig.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwy\u2019n berson o liw gydag anableddau, felly roeddwn eisiau helpu eraill i sylweddoli y gallem wneud yr un pethau \u00e2 phobl abl eu corff. Mae gennym gymaint o dalent ag unrhyw un arall, felly roeddwn eisiau ysbrydoli pobl fel fi ond hefyd eisiau atseinio neges gryfach i bawb, nad wyf yn gadel i ddim nac neb fy rhwystro.<\/p>\n\n\n\n<p>I ddarllen mwy am Nalani a\u2019i gwaith, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/nalanihallam\/\" title=\"clica yma.\">clica yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Nalani1-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30601\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/blog\/aliciagilcervantes\/\">Alicia Niebla Gil-Cervantes<\/a>, 18<\/h2>\n\n\n\n<p>Casglodd Alicia Niebla Gil-Cervantes, 18, adnoddau at ei gilydd i greu campwaith sydd yn adlewyrchu&#8217;r da, y drwg a\u2019r hyll yng Nghaerdydd. Fel sydd yn wir ymhobman, nid yw\u2019r ddinas yn berffaith, ac nid oedd Alicia eisiau anwybyddu\u2019r materion sydd yn gallu gwneud Caerdydd yn llai dymunol.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwyf wedi gweld sawl ochr o Gaerdydd ac rwy\u2019n adnabod y hyll a\u2019r prydferth. Yr hyll yw\u2019r rhyfeloedd cod post, camdriniaeth cyffuriau, trais gangiau, tlodi a budreddi. Y prydferthwch ydy undod yn y cymunedau, llawer o barciau a natur yn y ddinas.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>I ddarllen mwy am Alicia a\u2019i gwaith, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/aliciagilcervantes\/\" title=\"\">clica yma.<\/a><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Alicia-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30611\"\/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth Berthnasol<\/h2>\n\n\n\n<p>I ddarganfod ychydig mwy am y bobl ifanc yma a\u2019u perthynas gyda Chaerdydd, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/sut-berthynas-sydd-gen-ti-a-chaerdydd\/\">clica yma.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhoddwyd cyfle i bobl ifanc creadigol rhwng 14-18 oed i gymryd rhan mewn comisiwn ar gyfer G\u0175yl Gw\u00ean o Haf Caerdydd yn ystod haf 2021. Byddai pob ymgeisydd yn derbyn&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":23,"featured_media":4198,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1368],"tags":[1390,1391,1369,1403,427,1401,1392,1388,1382,1394,1395,1396,1366,1397,1398,1378,1402],"class_list":["post-4197","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwen-o-haf","tag-alicia-gil-cervantes","tag-alicia-niebla-gil-cervantes","tag-artistiaid","tag-artistiaid-sprout","tag-celf","tag-comisiwn-celf","tag-eshaan","tag-eshaan-rajesh","tag-faaris-ahmad","tag-farah","tag-farah-thomas","tag-farah-thomas-artist","tag-gwen-o-haf","tag-nalani","tag-nalani-hallam","tag-rosie-pearn","tag-saabiqah-taiq-kahn"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4197","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/23"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4197"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4197\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5468,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4197\/revisions\/5468"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4198"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4197"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4197"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4197"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}