{"id":4182,"date":"2021-08-05T19:12:32","date_gmt":"2021-08-05T19:12:32","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4182"},"modified":"2024-10-16T11:21:15","modified_gmt":"2024-10-16T11:21:15","slug":"galw-ar-yr-artistadlewyrchu-amrywiaeth-caerdydd-mewn-celf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artistadlewyrchu-amrywiaeth-caerdydd-mewn-celf\/","title":{"rendered":"Galw ar yr Artist:Adlewyrchu Amrywiaeth Caerdydd Mewn Celf"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae Eshaan Rajesh yn artist sydd yn gallu defnyddio ei brofiad bywyd yn ei gelf, wedi iddo fyw yn India cyn symud i\u2019r DU, ac wedi byw mewn gwahanol rannau o\u2019r DU. Mae\u2019n dweud bod ei deulu wedi setlo yng Nghaerdydd bellach, ac wedi chwarae rhan weithredol yn grymuso pobl ifanc yn y ddinas.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw ystyr dy waith?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Eshaan yn gyfarwydd \u00e2 chreu celf sydd yn adlewyrchu Caerdydd, ac mae ei waith wedi cael ei ddangos yng <a href=\"https:\/\/www.wmc.org.uk\/cy\/home\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Nghanolfan Mileniwm Cymru<\/a> yn barod. Mae wedi cynnwys ychydig o\u2019i waith blaenorol yn ei gomisiwn ar gyfer Gw\u00ean o Haf.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwyf wedi rhoi\u2019r faner Mis Hanes Pobl Dduon, gafodd ei greu flwyddyn yn \u00f4l ac sydd yn cael ei arddangos yn ffenestr Canolfan Mileniwm Cymru. Teimlais ei bod yn bwysig cynnwys hwn gan y byddai\u2019n helpu sbarduno ryw fath o gyswllt gyda\u2019r gwaith i bawb.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Eshaan wedi ceisio adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Caerdydd gyda&#8217;i ddarn diweddaraf, sydd bellach yn cael ei arddangos y tu allan i Neuadd y Ddinas, ar brif safle g\u0175yl <a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/gwen-o-haf\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gw\u00ean o Haf.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r gwaith yn gynrychiolaeth weledol o amrywiaeth a chynhwysiant sydd i\u2019w weld yng Nghaerdydd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, ac yn lle\u2019r neges sydd ar flaen yr adeilad, rwyf wedi cynnwys y geiriau Young People Are the Change we Wish to See in Cardiff.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n neges ysbrydoledig gan ei fod yn atgyfnerthu\u2019r rhan sydd gan bobl ifanc i\u2019w chwarae yng Nghaerdydd ac yn siapio dyfodol ein prifddinas.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRoedd cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd yn hanfodol. Mae\u2019r holl bobl yn y raffeg yn dod o gefndiroedd crefyddol, hil a diwylliannol wahanol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/IMG_0015-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30572\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut wyt ti\u2019n adlewyrchu Caerdydd yn dy waith?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwaith ei hun yn canolbwyntio ar Ganolfan Mileniwm Cymru, ond yn cynnwys sawl agwedd arall o Gaerdydd. Roedd Eshaan wedi dewis y Ganolfan Mileniwm am ei symbolaeth gyda Chaerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cPam ddim cael Canolfan Mileniwm Cymru? Mae\u2019n ffordd unigryw o gynnwys y neges, ac mae\u2019r dirwedd o\u2019i gwmpas yn syfrdanol. Gallaf gymryd adeilad eiconig, sydd yn lleol i mi ac wedi bod yn rhan fawr o\u2019m mywyd, a rhoi stamp fy hun arno.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r darn ei hun yn amlochrog, gydag ysbrydoliaeth o wahanol them\u00e2u celf, sydd yn dod at ei gilydd i greu cynrychiolaeth weledol o Gaerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r awyr yn rhoi teimlad o anime i mi, o\u2019r lliw ei hun. Mae\u2019r cymylau yn yr awyr wedi\u2019u siapio fel map y byd, ac rwy\u2019n gobeithio bod pobl yn deall bod hyn yn cyfeirio at ragolwg byd eang Caerdydd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth oedd ei angen i greu dy ddarn?<\/h3>\n\n\n\n<p>Er mai dim ond 17 yw Eshaan, mae\u2019n artist profiadol yn barod. Wedi creu logo <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/y-dyfodol-ffeministaidd\/\">ymgyrch diweddar <em>Y Dyfodol Ffeministaidd<\/em> y Sprout<\/a>, ac wedi creu cynnwys ar gyfer ei gyngor ysgol yn ei amser rhydd, roedd y dasg yma\u2019n dod yn naturiol iddo.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cPenderfynais weithio\u2019n ddigidol y tro hyn. Rwyf wedi arbrofi gydag acrylig a phaent am flynyddoedd. Mae\u2019n amser i mi symud fy ngwaith cam ymhellach a digideiddio pethau yw\u2019r ffordd orau o wneud hynny.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae gwneud pethau yn y ffordd draddodiadol yn gallu cymryd amser hir. Rwyf wedi cwblhau gwaith celf ble mae\u2019r llun, cyn ychwanegu lliw, yn gallu cymryd tuag awr. Mae digideiddio\u2019r gwaith yn golygu ei fod yn cymryd llawer llai o amser.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cNid oeddwn yn hollol newydd i gelf ddigidol. Mae gen i brofiad o ddylunio graffeg gyda Chyngor Ieuenctid Caerdydd ac roedd y faner Mis Hanes Pobl Dduon yn lot o help ac rwy\u2019n falch iawn o\u2019r pethau yma.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/20201031_153621-1024x575.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30574\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth wyt ti\u2019n hoffi am y gelf?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n wir fod gwahanol ffurf o gelf yr un mor deimladwy \u00e2&#8217;i gilydd. Ond mae Eshaan yn tynnu ystyr dyfnach o fod yn greadigol, yn dweud bod celf yn ymwneud \u00e2 deall meddyliau ein hunain, wrth geisio cipio dychymyg pobl eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae celf yn ffordd o gyfathrebu gyda phobl. Mae gen ti gelf ymladd, celf perfformio, celf gain, neu ffilm. Mae popeth yn ymwneud \u00e2 mynegi dy hun mewn ffordd fwy haniaethol nag darllen ac ysgrifennu.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cWrth edrych ar waith y bobl ifanc sydd wedi ei arddangos yma, mae\u2019n pwysleisio bod celf yn rhywbeth sydd yn rhoi llais a llwyfan i bobl ifanc er mwyn iddynt wneud gwahaniaeth.\u201d<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut glywais di am y cyfle?<\/h3>\n\n\n\n<p>\u201cRwy\u2019n rhan o <a href=\"https:\/\/cardiffyouthcouncil.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gyngor Ieuenctid Caerdydd<\/a> a <a href=\"http:\/\/cardiffyouthservices.wales\/index.php\/blog\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Chreawdwyr Ifanc<\/a>, gyda <a href=\"http:\/\/cardiffyouthservices.wales\/cy\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd<\/a>, ac maent yn eithaf da yn gyrru cyfleoedd i ni.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Eshaan hefyd yn rhan o Cebab. Gair yw hwn sydd yn cael ei gysylltu \u00e2 \u2018doner\u2019 a \u2018y saws i gyd pl\u00ees bos.\u2019 Ond nid dyma ydyw. Mae\u2019n grynhoad o Children\u2019s and Young People\u2019s Advisory Report, medda nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwy\u2019n rhan o sawl sefydliad a rannodd y cyfle yma, felly roeddwn i\u2019n arbenigwr erbyn i mi glywed amdano am y trydydd gwaith. Edrychais ar y cyfle, a sylwi gallwn i ddefnyddio\u2019r sgiliau o\u2019m hobi i ysbrydoli pobl ifanc eraill.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRoedd gwybod y gallwn i wneud Caerdydd yn le gwell a defnyddio fy sgiliau i wneud newid wedi ysgogi fi i wneud cais am y comisiwn yma.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/IMG_20210804_151556-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-30575\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>Os hoffet weld mwy am ein hartistiaid a\u2019u gwaith, clicia yma i weld gwaith\u00a0<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-caerdydd-mewn-golau-newydd\/\">Rosie<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-ein-dinas-ar-ffilm\/\">Faaris<\/a>, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/farahthomas\/\">Farah<\/a>, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/aliciagilcervantes\/\">Alicia<\/a>, <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/nalanihallam\/\" title=\"\">Nalani<\/a>, a <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/galw-ar-yr-artist-merched-mwslimaidd-arloesol-mewn-celf\/\">Saabiqah<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Eshaan Rajesh yn artist sydd yn gallu defnyddio ei brofiad bywyd yn ei gelf, wedi iddo fyw yn India cyn symud i\u2019r DU, ac wedi byw mewn gwahanol rannau&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1979,"featured_media":4185,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1368],"tags":[1389,1388,1366],"class_list":["post-4182","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwen-o-haf","tag-artist-gwen-o-haf","tag-eshaan-rajesh","tag-gwen-o-haf"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4182","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1979"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4182"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4182\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5473,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4182\/revisions\/5473"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4185"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4182"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4182"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4182"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}