{"id":4146,"date":"2021-08-02T13:48:47","date_gmt":"2021-08-02T13:48:47","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4146"},"modified":"2021-08-02T13:48:48","modified_gmt":"2021-08-02T13:48:48","slug":"sut-berthynas-sydd-gen-ti-a-chaerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/sut-berthynas-sydd-gen-ti-a-chaerdydd\/","title":{"rendered":"Sut Berthynas Sydd Gen Ti \u00e2 Chaerdydd?"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Fyddet ti\u2019n hoffi gwybod beth mae pobl ifanc eraill yn ei feddwl am fyw yng Nghaerdydd?<\/h2>\n\n\n\n<p>Fel rhan o Gw\u00ean o Haf, mae ProMo-Cymru a TheSprout wedi bod yn gweithio \u00e2\u2019i gilydd i gomisiynu pobl ifanc i fod yn artistiaid preswyl ar gyfer yr \u0175yl.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhoddwyd br\u00eeff i\u2019r bobl ifanc creadigol llwyddiannus i greu darn o gelf oedd yn cynrychioli sut beth yw bod yn berson ifanc yng Nghaerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod y cyfnod cais, gofynnwyd i\u2019r ymgeiswyr i ddweud mwy wrthym am eu perthynas gyda Chaerdydd. Dyma oedd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus i\u2019w ddweud.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Nalani, 15<\/h3>\n\n\n\n<p>I mi yn bersonol, mae byw yng Nghaerdydd yn golygu unigoliaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol a diddorol iawn. Mae gennym hawl i fod yn pwy bynnag a beth bynnag yr hoffem. Rydym hefyd yn cael cymorth aelodau eraill o\u2019n cymdeithas i fod yn rhydd, ac mae hynny yn rhywbeth rwyf wir yn edmygu. Os oes problem yn codi, rydym yn gwneud ein gorau i\u2019w ddatrys fel teulu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae byw yng Nghaerdydd yn golygu caru fy hun hefyd. Mae\u2019r byd yn newid, a gyda hyn mae ein gallu i dderbyn pobl o bob hil, rhyw a hunaniaeth rhywedd yn newid hefyd. Fel gr\u0175p, rydym yn newid am y gwell, ac rwy\u2019n hyderus y byddaf yn gweld ein cenhedlaeth yn dod i garu a deall ei gilydd yn well.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pethau fel y symudiad BLM, sydd wedi dod yn fwy adnabyddus eleni, yn dangos sut mae dinas o bobl anhygoel yn gallu dod at ei gilydd i ddangos cefnogaeth pan fydd angen.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/1-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4147\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/1-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/1-300x169.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/1-768x432.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/1.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Saabiqah, 14<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae byw yng Nghaerdydd yn golygu gweld ffrindiau a theulu, a chael cyfleoedd newydd anhygoel fel hyn hefyd! Ac i mi, sydd yn tyfu, mae\u2019n caniat\u00e1u i mi wneud dewisiadau fy hun a chaniat\u00e1u i mi ddewis fy nhalentau a\u2019m mreuddwydion.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Caerdydd yn le creadigol gyda syniadau a meddyliau da, yn ymladd yn erbyn y drwg ac yn rhannu\u2019r da. Dyna pam rwy\u2019n mwynhau byw yn y fath ddinas, gan fod y syniadau gwallgof yn ddiddiwedd ac mae cymaint o bobl yn meddwl am gymaint o bethau newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn aml, mewn llefydd eraill, nid allaf ddarganfod pobl sydd \u00e2 diddordeb yn y pethau rwyf i\u2019n ei garu, ond mae fel jacpot yng Nghaerdydd, ac rwy\u2019n falch iawn o fod yma.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/2-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4148\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/2-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/2-300x169.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/2-768x432.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/2.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Farah, 14<\/h3>\n\n\n\n<p>Rwyf wedi fy ngeni a\u2019m magu yng Nghaerdydd. Rwy\u2019n caru\u2019r ddinas yma gan fod yna cymaint o atgofion o dyfu i fyny. Er y byddwn i wrth fy modd yn teithio ac yn archwilio llefydd gwahanol dros y byd, Caerdydd yw adref. O Bae Caerdydd i Gastell Caerdydd, mae pob ardal yn bwysig i greu\u2019r lle hyfryd yma.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond, mae yna wahaniaeth yn y tir a\u2019r bobl sydd yn byw yno ac ein dyletswydd ni ydyw \u2013 ac wedi bod eisoes \u2013 i gael Caerdydd yn le o natur anhygoel. Mae\u2019r siwrne yna yn parhau.<\/p>\n\n\n\n<p>Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rwyf wedi gweld cynyddiad mewn cymunedau, clybiau a grwpiau sydd yn rhannu positifirwydd ac yn creu enw da i\u2019n hardal.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn groes i hyn hefyd, rwyf wedi gweld sawl gweithred negyddol sydd yn cael effaith ddrwg ar y ddinas yma a\u2019r bobl ynddi. Mae protestio yn helpu ni i gael llais ar sawl mater sydd yn amlwg yng Nghaerdydd yn ogystal \u00e2 chymaint (gormod) o wledydd a chyfandiroedd eraill.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/3.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/3-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4149\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/3-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/3-300x169.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/3-768x432.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/3.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Alicia, 18<\/h3>\n\n\n\n<p>Cefais fy ngeni a\u2019m magu yn Nhreganna, Caerdydd. Yn Y Tyllgoed (Fairwater) roeddwn i\u2019n mynd i\u2019r ysgol uwchradd, ac yn cael bywyd cymdeithasol hefyd. Yna, wrth symud i\u2019r chweched yn y Rhath, symudodd fy mywyd cymdeithasol i Llanedeyrn\/Pentwyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwyf wedi gweld sawl ochr i Gaerdydd ac rwy\u2019n ymwybodol o\u2019r hyll a\u2019r prydferth. Yr hyll yw\u2019r rhyfeloedd cod post, camdriniaeth cyffuriau, trais gangiau, tlodi a budreddi. Y prydferthwch ydy undod yn y cymunedau, llawer o barciau a natur.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bobl sydd yn helpu adeiladu\u2019r ddinas yma i fod yn gryfach yn gwneud, ac yn gorfodi, cynrychiolaeth drawiadol i bawb sydd yn byw yma. Gan ystyried yr holl bethau da a\u2019r pethau drwg, bydd lle yn fy nghalon i Gaerdydd am byth, ble bynnag yr wyf. Rwy\u2019n ddiolchgar am y cyfleoedd a\u2019r profiadau mae wedi ei gyflwyno i mi. Mae wedi fy helpu i, a chymaint o rai eraill, i droi i mewn i\u2019r person ydw i (ac ydym ni) heddiw.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan ei fod yn ddinas fach, mae\u2019n haws gweld straeon pobl yn datblygu o bellter gan dy fod di\u2019n gweld pobl drosodd a throsodd mewn dinas o\u2019i faint. Rwyt ti\u2019n dod yn gyfarwydd \u00e2\u2019r rhai sydd yn sefyllian yng nghanol y ddinas, er da neu ddrwg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ardaloedd rhamantus o Gaerdydd hefyd, fel y Castell a\u2019r arc\u00eads. Rwy\u2019n gweld llawer o fusnesau teuluol hen Caerdydd fel y Lazarou Brothers a Barker\u2019s Coffee. Wedi mewnfudo i Gaerdydd mae fy nheulu i, felly rwyf wastad wedi cymysgu gyda phobl o gefndiroedd cymysg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Caerdydd yn gymysgedd o wahanol ardaloedd. Mae rhai yn amlddiwylliannol iawn, fel Tre-biwt a Grangetown, rhai yn y canol fel Treganna, a rhai sydd yn wyn gan amlaf. Mae\u2019n amlwg bod Caerdydd yn wahanedig. Ond rwyf hefyd yn teimlo fel bod Caerdydd wedi fy ngalluogi i gydnabod y gallaf brotestio, a bod gen i lais gallaf ei ddefnyddio.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/4.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/4-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4150\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/4-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/4-300x169.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/4-768x432.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/4.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Faaris, 14<\/h3>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n credu bod Caerdydd yn ddinas gynhwysol i\u2019r bobl sydd yn byw yma. Mae\u2019n gynhwysol i bobl LHDTC+, amryw ethnigrwydd, amlddiwylliannol, cyfeillgar i anableddau, gyda threftadaeth ddiwylliannol gryf a chymaint mwy. Mae\u2019n oddefgar ac mae\u2019n anhygoel cael fy magu yma.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cymaint i\u2019w wneud, bod hynny dan do neu yn yr awyr agored, ac mae yna bobl gyfeillgar ymhobman sydd yn ymddangos fel bod ganddynt amser i ti. Mae Caerdydd yn arbennig hefyd gan ei fod yn darparu cymysgedd wych o atyniadau a gweithgareddau dan do ac awyr agored i bob oedran. Mae fel byw mewn lleoliad gwyliau i blant!<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n meddwl bod byw yng Nghaerdydd fel byw mewn un teulu mawr. Mae gen i gefndir ethnig Asiaidd ac rwyf yn teimlo fel bod y gymuned ehangach yn lapio o fy nghwmpas, ac mae hyn yn gwneud i mi fod eisiau cyflawni pethau mawr ar ran y bobl o\u2019m nghwmpas.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n anhygoel sut mae pawb yn gallu bod yn gyfeillgar, caredig ac yn gymorth i\u2019w gilydd, beth bynnag ein cefndir. Cefais fy ngeni yn Llundain ond rwy\u2019n byw yng Nghaerdydd ers yr oeddwn i\u2019n ddwy. Rwy\u2019n teimlo braint o gael tyfu i fyny yng Nghaerdydd ac yng Nghymru ar y cyfan.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/5.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/5-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4151\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/5-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/5-300x169.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/5-768x432.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/5.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rosie, 17<\/h3>\n\n\n\n<p>I mi, mae Caerdydd yn gymysgedd bywiog o artistiaid ysbrydoledig a chasgliadau celf, byd cerddoriaeth brysur, ac arddangosfeydd diddorol o hanes a diwylliant Cymraeg. Mae\u2019r persbectifau diwylliannol gwahanol o fewn y ddinas yn ysbrydoli amryw ragolygon, syniadau ac yn rhoi profiad bywyd cyfoethog yn y pen draw. Mae Caerdydd yn gartref i amrywiaeth o wahanol rywioldeb, ethnigrwydd a chrefydd sydd yn caniat\u00e1u i\u2019n dinas ffynnu ac i ddathlu ein gwahaniaethau, ond ein tebygrwydd hefyd yn y pen draw.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd Caerdydd yn gartref i Roald Dahl wrth gwrs, ysbrydoliaeth fawr i mi a gafodd lawer o ddylanwad ar fy arddull artistig a\u2019m syniadau. Mae ei ddarluniad o\u2019r aneglur a\u2019r chwareus yn ei ysgrifennu a\u2019i gymeriadau sydd bron yn swrrealaidd wedi fy helpu i greu\u2019r golygfeydd sydd yn ymddangos yn fy ngwaith celf.<\/p>\n\n\n\n<p>Castell Caerdydd yw\u2019r rhan gorau o\u2019r ddinas yma i mi, y clytwaith o gyfnodau amrywiol mewn hanes; y Rhufeiniad, Normaniaid, Arglwyddi Morgannwg, Butes, i gyd wedi gadael marc ar y castell, wedi\u2019i ddilyn gan newid y waliau i mewn i loches rhag bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae gwybod bod cymaint o bobl wahanol wedi cerdded y neuaddau ac wedi byw yn yr ystafelloedd cynt yn rhywbeth fydd wastad yn rhyfeddol ac yn meithrin fy nychymyg. Mae pob rhan o\u2019r castell yn siwrne trwy amser, a byddaf yn parhau i ddefnyddio agweddau o hyn yn fy ngwaith celf yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>I mi, mae Caerdydd yn gartref amrywiaeth a threftadaeth, celf a hanes, a phobl ysbrydoledig.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/6.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1440\" height=\"810\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/6-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4152\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/6-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/6-300x169.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/6-768x432.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/6.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1440px) 100vw, 1440px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Eshaan, 17<\/h3>\n\n\n\n<p>Camais i mewn i\u2019r brifddinas hudol yma am y tro cyntaf ar ddiwedd 2014. Ers hynny rwyf wedi gwneud nifer di-rif o ffrindiau a chyfarfod pobl ddiddorol iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ymyl yr A4232 i\u2019r Gorllewin, y mynyddoedd a\u2019r cymoedd i\u2019r Gogledd, y dociau hanesyddol gyfoethog i\u2019r Dwyrain, a\u2019r d\u0175r glas sgleiniog i\u2019r De &#8211; mae Caerdydd yn sefyll yn urddasol yn y canol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pob ffordd, pob stryd a phob atyniad twristiaeth wych yn llawn cymunedau amlddiwylliannol sydd yn cysylltu \u00e2\u2019i gilydd yn gydlynol. Mae ffrindiau yno i\u2019w gilydd, am byth, yn cefnogi ei gilydd &#8211; waeth beth fo effaith maint ein rhwystrau a\u2019n gofid &#8211; ymhob cam. Mae hwn yn destament o gryfder trwy undod &#8211; yn cael ei alluogi drwy fondio ieuenctid caredig Caerdydd, eu llais, a\u2019u syniadau cyfrannog.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae datblygiadau trefol llym yn digwydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, gyda chyfres barhaol o ailwneuthuriad ac ailadeiladu &#8211; yn canolbwyntio ar gyflwyno prifddinas fodern ac arloesol sydd yn fwy cyfeillgar i\u2019r amgylchedd er mwyn i genhedloedd y dyfodol ffynnu ynddi. Er na fyddaf yn gallu profi sefydlu\u2019r gorwelion newydd yma, gan y byddaf yn mynd i\u2019r Brifysgol flwyddyn nesaf, rwy\u2019n falch o fod yn rhan o\u2019r siwrne anhygoel yma!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/7.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/7-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4153\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/7-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/7-300x169.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/7-768x432.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/08\/7.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth Berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>I ddarganfod mwy am ein hartistiaid preswyl ar gyfer Gw\u00ean o Haf, clicia <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/blog\/outstanding-talent-from-young-people-in-cardiff\/\">yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fyddet ti\u2019n hoffi gwybod beth mae pobl ifanc eraill yn ei feddwl am fyw yng Nghaerdydd? Fel rhan o Gw\u00ean o Haf, mae ProMo-Cymru a TheSprout wedi bod yn gweithio&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1908,"featured_media":4157,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1368],"tags":[1369,1371,1372,1373,1366,1374,1370],"class_list":["post-4146","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwen-o-haf","tag-artistiaid","tag-artistiaid-preswyl-promo-cymru","tag-artistiaid-thesprout","tag-beth-mae-pobl-ifanc-yn-feddwl-am","tag-gwen-o-haf","tag-pobl-ifanc-yng-nghaerdydd","tag-promo-cymru"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4146","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1908"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4146"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4146\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4159,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4146\/revisions\/4159"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4157"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4146"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4146"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4146"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}