{"id":4133,"date":"2021-06-20T07:00:00","date_gmt":"2021-06-20T07:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=4133"},"modified":"2021-06-18T14:19:48","modified_gmt":"2021-06-18T14:19:48","slug":"taflu-goleuni-ar-ferched-betty-campbell","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/taflu-goleuni-ar-ferched-betty-campbell\/","title":{"rendered":"Taflu Goleuni ar Ferched: Betty Campbell"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae Taflu Goleuni ar Ferched yn rhan o\u2019r <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/y-dyfodol-ffeministaidd\/\">ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd<\/a>. Ei fwriad yw amlygu merched sydd yn ysbrydoledig ac yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth yn \u00f4l pobl ifanc Caerdydd.<\/h2>\n\n\n\n<p>Ysgrifennwyd yr erthygl yma gan Hallie, person ifanc o Gaerdydd, mewn cydweithrediad \u00e2 <a href=\"http:\/\/cardiffyouthservices.wales\/cy\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bywyd Cynnar Betty Campbell<\/h3>\n\n\n\n<p>Ganwyd Betty Campbell yn Butetown, Caerdydd ar 6ed Tachwedd 1934. Magwyd mewn cartref tlawd ond bu\u2019n gweithio\u2019n galed iawn yn yr ysgol ac roedd yn un o\u2019r rhai gorau yn ei dosbarth. Enillodd ysgoloriaeth i astudio yn Ysgol Uwchradd Genethod Lady Margaret gyda\u2019r gobaith o ddod yn athrawes &#8211; breuddwyd ers iddi fod yn ferch ifanc iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr ysgol nid oedd un o\u2019r athrawon yn gefnogol iawn iddi, gan ddweud y byddai\u2019n anodd iawn i ferch du o gefndir dosbarth gweithiol i oresgyn ei phroblemau. Er y digalondid yma a\u2019r heriau y daw o\u2019i chefndir, dosbarth, hil, rhyw a\u2019r ffaith ei bod yn feichiog yn 17 oed, aeth Betty yn ei blaen i gyrraedd ei huchelgeisiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn fam i dri o blant, cofrestrodd Betty yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Caerdydd (bellach yn <a href=\"https:\/\/www.metcaerdydd.ac.uk\/Pages\/default.aspx\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Brifysgol Fetropolitan Caerdydd<\/a>) yn 1960, yn 1 o 6 merch i gael eu derbyn.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Spotlight-on-Women-Betty-Campbell-3-1024x1024.png\" alt=\"This image has an empty alt attribute; its file name is Spotlight-on-Women-Betty-Campbell-3-1024x1024.png\" width=\"387\" height=\"387\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gyrfa Betty Campbell<\/h3>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l graddio dechreuodd ei swydd gyntaf mewn ysgol yn Llanrhymni. Yn fuan wedyn dychwelodd Betty i\u2019w thref enedigol o Butetown yn gweithio yn <a href=\"https:\/\/www.mountstuartprimary.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Ysgol Gynradd Mount Stuart<\/a>, lle bu\u2019n dysgu am 28 o flynyddoedd. Yn 1970 daeth Betty yn brifathro du cyntaf Cymru gyfan. Roedd yn ymdrechu i ddysgu\u2019r plant am hiliaeth, hanes du, caethwasiaeth ac apartheid, yn ymestyn yr addysg yma i\u2019w cymuned yn hwyrach ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn ei gyrfa dysgu daeth Betty yn rhan o wleidyddiaeth. Roedd yn gynghorydd yng Nghyngor Dinas Caerdydd rhwng 1991 a 1995 yn cynrychioli Butetown. Yna roedd yn gynghorydd annibynnol i Butetown yng <a href=\"https:\/\/www.cardiff.gov.uk\/ENG\/Pages\/default.aspx\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Nghyngor Caerdydd<\/a> o 1999 i 2004. Daeth yn aelod o bwyllgor ymgynghorol hil y Swyddfa Gartref ac yn aelod o\u2019r <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/commission-for-racial-equality\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Comisiwn Cydraddoldeb Hil<\/a>!<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Spotlight-on-Women-Betty-Campbell-4-1024x1024.png\" alt=\"This image has an empty alt attribute; its file name is Spotlight-on-Women-Betty-Campbell-4-1024x1024.png\" width=\"458\" height=\"458\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam bod Betty Campbell yn enwog?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Betty Campbell yn arwr Cymraeg cudd, sydd yn cael ei hadnabod yn bennaf am fod yn weithredydd cymunedol a phrifathro du cyntaf Cymru. Cafodd ei gwobrwyo \u00e2 MBE yn 2003 am ei gwasanaeth i addysg a bywyd cymunedol.<\/p>\n\n\n\n<p>Bu farw Betty Campbell yn Butetown yn 82 oed ar 23 Hydref 2017. Yn 2015, 2 flynedd cyn ei marwolaeth, derbyniodd Campbell wobr cyflawniad bywyd gan gr\u0175p Aelodau Du <a href=\"https:\/\/cymru-wales.unison.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Unison Cymru<\/a>, am ei chyfraniad i hanes du ac addysg Cymru.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/06\/Spotlight-on-Women-Betty-Campbell-1024x1024.jpg\" alt=\"This image has an empty alt attribute; its file name is Spotlight-on-Women-Betty-Campbell-1024x1024.jpg\" width=\"527\" height=\"527\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam bod Betty Campbell yn ysbrydoliaeth i ti?<\/h3>\n\n\n\n<p>Roedd Betty yn aml yn clywed nad oedd yn ddigon da ac y wynebu sawl rhwystr ar ei siwrne, o\u2019i hathro i rieni\u2019r disgyblion! Er hynny, defnyddiodd ei llais a\u2019i llwyfan i godi ymwybyddiaeth o hiliaeth ac i wella addysg ei chymuned ar faterion cydraddoldeb hil.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-pullquote\"><blockquote><p>\u201cRoeddwn yn benderfynol y byddwn i\u2019n dod yn un o\u2019r bobl yna ac yn mwyhau ysbryd du, diwylliant du, cymaint ag y gallwn.\u201d<\/p><cite>Betty Campbell<\/cite><\/blockquote><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae uchelgais Betty i ddilyn ei breuddwyd er yr helbul a\u2019r hiliaeth yn ysbrydoledig.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth berthnasol<\/h3>\n\n\n\n<p>Os hoffech ddangos parch i Betty Campbell, bydd cerflun ohoni yn cael ei ddatgelu ar 16 Medi 2021 o flaen adeilad newydd yr HMRC yn 6 Sgw\u00e2r Canolog, Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Am wybodaeth bellach am y gr\u0175p ymgyrchu, ac i ddarllen mwy o gynnwys yr ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd, clica <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/y-dyfodol-ffeministaidd\/\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/y-dyfodol-ffeministaidd\/\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"256\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/Banner-The-Future-is-Feminist-Campaign-Banner-1-1024x256.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-4087\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/Banner-The-Future-is-Feminist-Campaign-Banner-1-1024x256.png 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/Banner-The-Future-is-Feminist-Campaign-Banner-1-300x75.png 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/Banner-The-Future-is-Feminist-Campaign-Banner-1-768x192.png 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/Banner-The-Future-is-Feminist-Campaign-Banner-1-1536x384.png 1536w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/Banner-The-Future-is-Feminist-Campaign-Banner-1.png 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Taflu Goleuni ar Ferched yn rhan o\u2019r ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd. Ei fwriad yw amlygu merched sydd yn ysbrydoledig ac yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth yn \u00f4l pobl ifanc&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4134,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1311],"tags":[1353,1356,1357,1351,1354,1352,1358,1355],"class_list":["post-4133","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-y-dyfodol-ffeministaidd","tag-arwr","tag-arwr-du","tag-arwr-ffeministaidd","tag-betty-campbell","tag-butetown","tag-gweithredwr","tag-hanes-du","tag-mount-stuart"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4133","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4133"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4133\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4138,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4133\/revisions\/4138"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4134"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4133"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4133"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4133"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}