{"id":3804,"date":"2021-04-15T15:26:07","date_gmt":"2021-04-15T15:26:07","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=3804"},"modified":"2021-04-30T11:02:01","modified_gmt":"2021-04-30T11:02:01","slug":"cofrestru-i-bleidleisio-cael-llais-yn-etholiadaur-senedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/cofrestru-i-bleidleisio-cael-llais-yn-etholiadaur-senedd\/","title":{"rendered":"Cofrestru i Bleidleisio: Cael Llais Yn Etholiadau&#8217;r Senedd"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Wyt ti&#8217;n cael pleidleisio yn Etholiadau&#8217;r Senedd ar y 6ed o Fai eleni? Os wyt ti&#8217;n 16+ rwyt ti&#8217;n cael, ac os wyt ti eisiau llais yn yr hyn sydd yn digwydd yna mae&#8217;n rhaid cofrestru i bleidleisio erbyn 19 Ebrill neu byddi di&#8217;n colli allan.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam pleidleisio?<\/h3>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3805\" width=\"256\" height=\"256\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-1024x1024.png 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-300x300.png 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-150x150.png 150w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-768x768.png 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 256px) 100vw, 256px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Os nad wyt ti&#8217;n pleidleisio yna nid oes gen ti lais yn pwy fydd yn eistedd yn y <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Senedd<\/a> yn gwneud penderfyniadau am dy fywyd. Efallai dy fod di&#8217;n meddwl na fydd dy un bleidlais di yn gwneud gwahaniaeth, ond mae&#8217;n fwy pwysig nag yr wyt ti&#8217;n sylweddoli. Hyd yn oed os wyt ti&#8217;n mynd i&#8217;r orsaf bleidleisio i ddifetha dy bleidlais, mae parhau i fod yn gyfle i ddweud wrthynt fod teimladau pobl ifanc yn bwysig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae caniat\u00e1u i rai 16 ac 17 oed i bleidleisio eleni yn golygu bod posib cael dros 100,000 o bleidleisiau newydd. Os byddai llawer iawn yn yr ystod oedran yma yn penderfynu peidio pleidleisio, yna mae hynny\u2019n llawer iawn o bleidleisiau fydd ddim yn cael eu cyfrif. Ni fydd dy genhedlaeth di yn cael ei gynrychioli.<\/p>\n\n\n\n<p>Hyd yn oed pan nad oes neb rwyt ti&#8217;n dymuno rhoi dy bleidlais iddynt mae papurau sydd yn cael eu difetha yn cael eu cyfri a&#8217;u cyhoeddi hefyd. Mae hyn yn gyfle i ddweud wrthynt nad wyt ti\u2019n cael dy gynrychioli ac nid wyt ti&#8217;n hapus gyda\u2019r dewisiadau sydd ar gael i ti. Efallai bydd hyn yn gwneud iddynt newid eu polis\u00efau yn y dyfodol. Os wyt ti&#8217;n dewis aros adref mi fyddant yn cymryd yn ganiataol nad oes gen ti ddiddordeb.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Am beth ydw i&#8217;n pleidleisio?<\/h3>\n\n\n\n<p>Bydd gen ti ddwy bleidlais, un ar gyfer y person lleol rwyt ti eisiau dy gynrychioli di yn y Senedd (aelod etholaeth) a&#8217;r llall am blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol (aelod rhanbarthol)<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Senedd yn llunio cyfreithiau ac yn gosod trethi yng Nghymru ac yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru. Golygai hyn eu bod yn gwirio i sicrhau eu bod yn gwneud pethau\u2019n gywir ac yn gwario arian yn iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/\">Senedd<\/a>&nbsp;yn cynnwys 60 o aelodau sydd yn cael eu hethol gan gyhoedd Cymru. Pum aelod yn cynrychioli ti a dy ardal am y pum mlynedd nesaf \u2013 un ar gyfer dy ardal leol a\u2019r pedwar arall am y rhanbarth rwyt ti\u2019n byw ynddi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei greu o\u2019r blaid neu bleidiau sydd \u00e2\u2019r mwyafrif o seddi yn y Senedd, wedi\u2019i arwain gan Brif Weinidog Cymru (arweinydd y blaid gyda\u2019r mwyafrif o seddi). Mae\u2019r Prif Weinidog yn dewis gweinidogion a dirprwy weinidogion o\u2019r Senedd i greu Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwylia\u2019r fideo yma i weld pwerau\u2019r Senedd:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Pwerau\u2019r Senedd\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/5evhRt_D2pw?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut i gofrestru<\/h3>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-1.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-1-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3806\" width=\"256\" height=\"256\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-1-1024x1024.png 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-1-300x300.png 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-1-150x150.png 150w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-1-768x768.png 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/04\/Welsh-Sprout-Voting-Register-1.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 256px) 100vw, 256px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Os wyt ti eisiau pleidleisio yn etholiadau\u2019r Senedd, bydd agen cofrestru i bleidleisio cyn 11:59yh, dydd Llun, 19 Ebrill. Os nad wyt ti, yna ni fyddi di\u2019n cael pleidlais.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae posib cofrestru ar-lein mewn ychydig funudau. Bydd angen dy Rif Yswiriant Gwladol, ond paid poeni os nad wyt ti wedi cael un eto, mae posib cofrestru o hyd.&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/cofrestru-i-bleidleisio\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cofrestra yma<\/a>. Os byddai\u2019n well gen ti gwblhau\u2019r ffurflen ar bapur yn hytrach nag ar-lein, yna bydd angen argraffu\u2019r ffurflen&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/register-to-vote-if-youre-living-in-the-uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma<\/a>&nbsp;a\u2019i yrru i\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/contact-electoral-registration-office\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Swyddfa Cofrestru Etholiadol lleol.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Dim ond unwaith sydd angen cofrestru a byddi di&#8217;n gallu pleidleisio yn etholiadau&#8217;r dyfodol hefyd, ond os ydy dy enw, cyfeiriad neu genedligrwydd yn newid, bydd angen cofrestru eto. Os wyt ti\u2019n ansicr os wyt ti wedi cofrestru eisoes, yna mae posib gwirio wrth <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/contact-electoral-registration-office\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">chwilio ar Swyddfa Cofrestru Etholiadol Lleol.&nbsp;<\/a> Mae posib cysylltu \u00e2 nhw hefyd os wyt ti angen cymorth i gofrestru neu darllena&#8217;r<a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/759253\/cymEasy-Read-Guide-to-Registering-to-Vote.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"> canllaw hawdd i\u2019w darllen am gofrestru i bleidleisio.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut i bleidleisio<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae posib pleidleisio wrth fynd i&#8217;r orsaf pleidleisio, drwy&#8217;r post neu drwy ddirprwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Os nad wyt ti&#8217;n gyfforddus gyda&#8217;r syniad o fynd i&#8217;r orsaf pleidleisio eleni oherwydd Covid, neu ddim yn gallu mynd oherwydd amgylchiadau personol, gellir gwneud cais am bleidlais bost a gyrru dy ddewisiadau i mewn. <strong>RHYBUDD<\/strong>: Mae angen gwneud <a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/cy\/rwyf-yneg-pleidleisiwr\/pleidleisiwr\/sut-i-fwrwch-pleidlais\/pleidleisio-drwyr-post\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cais am bleidlais bost<\/a> ac mae ceisiadau yn cau ar ddydd Mawrth, 20fed Ebrill eleni.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae posib gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy hefyd &#8211; ble rwyt ti&#8217;n dewis rhywun gallet ti ymddiried ynddynt i bleidleisio ar dy ran. Efallai bod hwn yn opsiwn da os wyt ti wedi bod \u2018gwarchod\u2019 neu os na fedri di fynd i&#8217;r orsaf bleidleisio am reswm arall. &nbsp;Rhaid gwneud&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/cy\/rwyf-yneg-pleidleisiwr\/pleidleisiwr\/sut-i-fwrwch-pleidlais\/pleidleisio-drwy-ddirprwy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cais am bleidlais trwy ddirprwy<\/a>&nbsp;erbyn 27 Ebrill, ac mae rhaid i ti ddweud wrthynt pam nad wyt ti\u2019n gallu mynd i\u2019r orsaf bleidleisio dy hun.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yna bleidlais frys drwy ddirprwy eleni hefyd, felly os oes rhaid i ti hunanynysu oherwydd Covid, yna mae posib&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/cy\/rwyf-yneg-pleidleisiwr\/pleidleisiwr\/sut-i-fwrwch-pleidlais\/pleidleisio-drwy-ddirprwy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">gwneud cais hyd at 5yh ar ddiwrnod y bleidlais<\/a>. Os oeddet ti wedi gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy eisoes, a bod y person dewiswyd yn gorfod hunanynysu, mae posib newid hyn hefyd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth bellach<\/h3>\n\n\n\n<p>Tudalennau <a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/ymweld-a-ni\/addysg-ac-ymgysylltu-a-phobl-ifanc\/pleidlais-16\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Pleidlais 16<\/a>&nbsp;a&nbsp;<a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/etholiad\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Defnyddia Dy Lais<\/a>&nbsp;Senedd Cymru &#8211; llawer o wybodaeth a fideos am yr etholiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwybodaeth ddiweddaraf am yr etholiadau a&#8217;r drefn eleni ar gael ar <a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/cy\/rwyf-yneg-pleidleisiwr\/pleidleisiwr\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wefan Y Comisiwn Etholiadol<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wyt ti&#8217;n cael pleidleisio yn Etholiadau&#8217;r Senedd ar y 6ed o Fai eleni? Os wyt ti&#8217;n 16+ rwyt ti&#8217;n cael, ac os wyt ti eisiau llais yn yr hyn sydd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3805,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[23],"tags":[1290,1291,44,1286,1285,1292,1287,702,1293,1294,1288,1297,1296,465],"class_list":["post-3804","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwleidyddiaeth","tag-cofrestru","tag-cofrestru-i-bleidleisio","tag-cymru","tag-diwrnod-etholiad","tag-etholiad","tag-etholiad-senedd","tag-llywodraeth","tag-llywodraeth-cymru","tag-pleidlais-16","tag-pleidlais-17","tag-pleidlais-bost","tag-pleidlais-dirprwy","tag-pleidlais-ifanc","tag-senedd"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3804","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3804"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3804\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3809,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3804\/revisions\/3809"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3805"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3804"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3804"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3804"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}