{"id":3691,"date":"2021-03-19T13:16:45","date_gmt":"2021-03-19T13:16:45","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=3691"},"modified":"2022-11-18T09:17:09","modified_gmt":"2022-11-18T09:17:09","slug":"beth-ywr-holl-ffwdan-am-secstio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/beth-ywr-holl-ffwdan-am-secstio\/","title":{"rendered":"Beth yw&#8217;r holl ffwdan am Secstio?"},"content":{"rendered":"\n<p><em>Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu fel rhan o\u2019n Hymgyrch #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach. I ddarganfod mwy am yr ymgyrch&nbsp;<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/tiynhaeddu-perthnasau-iach\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">clicia yma<\/a>.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gyda phoblogrwydd technoleg hygyrch yn tyfu, mae secstio wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn enwedig ymysg pobl ifanc. Ond wyt ti&#8217;n gwybod popeth y dylet ti am secstio? #TiYnHaeddu gwneud dewisiadau gwybodus am yr hyn rwyt ti&#8217;n ei wneud, felly sicrha dy fod di&#8217;n cadw&#8217;n ddiogel wrth ddarllen yr erthygl yma!<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw secstio?<\/h3>\n\n\n\n<p>Secstio ydy pan fydd lluniau, fideos neu negeseuon o natur rywiol yn cael ei yrru i ffrindiau, partneriaid rhamantus neu bobl ddiarth ar-lein hyd yn oed. Mae secstio yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gyrru neu rannu lluniau a fideos ble mae&#8217;r anfonwr neu rywun arall yn rhannol, neu&#8217;n hollol noeth, yn aml yn cael ei alw&#8217;n &#8216;nudes&#8217;<\/li>\n\n\n\n<li>Gyrru, derbyn neu rannu negeseuon testun, e-byst neu nodiadau llais o natur rywiol<\/li>\n\n\n\n<li>Perfformio gweithred rywiol ar ddarllediad byw, gwe-gamera neu alwad fideo<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae secstio yn gyfreithiol i oedolion dros 18 oed, ond mae&#8217;n anghyfreithlon rhannu&#8217;r delweddau yma heb ganiat\u00e2d yr anfonwr. Os wyt ti o dan 18 oed, mae&#8217;n anghyfreithlon anfon, derbyn neu rannu cynnwys rhywiol gan gynnwys negeseuon testun, e-byst, lluniau a fideos.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Sexting\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/2TWjGOCvpzA?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ydw i&#8217;n cael gofyn i rywun secstio?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti&#8217;n archwilio dy rywioldeb neu mewn perthynas, efallai bydd temtasiwn i ofyn i rywun anfon secst neu lun noeth. Ond mae&#8217;n bwysig meddwl sut fydd y person sydd yn derbyn y cais yma yn teimlo. Os wyt ti&#8217;n awyddus i archwilio secstio, sicrha dy fod di&#8217;n ystyried y pethau yma gyntaf:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Oedran<\/strong> &#8211; Mae&#8217;n anghyfreithlon gofyn i rywun dan 18 oed i anfon lluniau noeth, hyd yn oed os wyt ti o dan 18 hefyd.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Teimladau<\/strong> &#8211; Mae rhywun yn gofyn am secst neu lun noeth yn gallu gwneud i rywun boeni, deimlo&#8217;n ofnus neu&#8217;n anghyfforddus. Meddwl sut byddet ti&#8217;n teimlo os byddai rhywun yn dy annog di i wneud rhywbeth nad wyt ti&#8217;n gyfforddus ag ef.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Peryglon<\/strong> &#8211; Gall gofyn i rywun secstio wneud iddynt deimlo&#8217;n anghyfforddus neu&#8217;n ofidus, a gall hyn gael effaith ar eich perthynas. Pan fyddi di&#8217;n secstio, unwaith i ti anfon y neges yna rwyt ti wedi colli rheolaeth ohono, wyddost ti ddim pwy arall fydd yn gweld y neges yna.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw peryglon secstio?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae yna lawer o beryglon pan ddaw at secstio. Ar \u00f4l anfon neges, fideo neu ddelwedd, mae&#8217;r anfonwr wedi colli rheolaeth ar beth sydd yn digwydd iddo wedyn. Cofia, gall y pethau yma ddigwydd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall yr anfonwr neu&#8217;r derbynnydd gael ei arestio a&#8217;i gyhuddo. Mae secstio dan 18 oed yn anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys gyrru lluniau neu fideos ohonot ti a&#8217;u hanfon ymlaen at eraill<\/li>\n\n\n\n<li>Mae&#8217;r person sydd yn derbyn y neges yn gallu ei ddangos a&#8217;i yrru ymlaen i unrhyw un<\/li>\n\n\n\n<li>Gellir defnyddio&#8217;r negeseuon i fwlio neu ddial. Gall pobl ddefnyddio lluniau, fideos, nodiadau llais a negeseuon i frifo neu godi cywilydd ar yr anfonwr<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai bydd ffrindiau yn dewis peidio cymdeithasu gyda&#8217;r anfonwr neu ddim yn awyddus i fod yn gysylltiedig \u00e2 nhw mwyach<\/li>\n\n\n\n<li>Gallai&#8217;r person sydd yn derbyn y neges faniwpiwleiddio, blacmelio ac ecsbloetio&#8217;r anfonwr<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Overexposure: A Short Film | Young Scot\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/zW84ydFucJ4?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam bod pobl yn secstio?<\/h3>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf y peryglon, mae yna lawer o resymau pam bod secstio yn dod yn fwy cyffredin ymysg pobl ifanc. Gad i ni edrych ar rai o&#8217;r rhesymau bod pobl yn secstio:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>&#8220;Dyma&#8217;r norm&#8221; <\/strong>&#8211; Yn aml, mae pobl yn meddwl bod secstio yn gyffredin a bod pawb yn ei wneud. Maen nhw&#8217;n teimlo bod angen iddyn nhw wneud hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>\u201cMae&#8217;n bleserus\u201d &#8211;<\/strong> Mae rhai pobl yn meddwl bod secstio yn ffordd hwyl i archwilio rhywioldeb ar-lein<\/p>\n\n\n\n<p><strong>\u201cMae&#8217;n rhoi hyder i mi\u201d <\/strong>&#8211; Mae rhai pobl yn meddwl bod secstio yn gwneud iddynt deimlo&#8217;n fwy hapus am eu corff ac yn rhoi hwb o hyder iddyn nhw. Efallai eu bod yn hoff o&#8217;r sylw maent yn ei gael yn syth ar \u00f4l gyrru llun, fideo neu neges.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>\u201cRoeddwn i\u2019n teimlo bod rhaid i mi\u201d<\/strong> &#8211; Gellir annog neu roi pwysau ar bobl i secstio, yn enwedig pan fydd yn cynnwys lluniau a fideos rhywiol. Cofia, dylai secstio fod yn rhywbeth mae dau berson dros 18 oed yn cytuno iddo. Dyma sut mae pwysau i yrru &#8216;nudes&#8217; yn gallu edrych:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Poeni na fyddant yn dy hoffi os nad wyt ti&#8217;n gwneud<\/li>\n\n\n\n<li>Gofyn drosodd a throsodd i rywun gymryd rhan<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud i rywun deimlo&#8217;n euog<\/li>\n\n\n\n<li>Cael dy alw&#8217;n enwau fel &#8216;oer&#8217; neu &#8216;frigid&#8217;<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnig prynu anrhegion neu anfon arian<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth ydw i&#8217;n gwneud os ydw i&#8217;n teimlo dan bwysau i secstio?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae angen i secstio fod yn benderfyniad cydsyniol rhwng pobl dros 18 oed. Nid yw&#8217;n dderbyniol i rywun roi pwysau arnat ti i secstio. Os yw rhywun yn gyrru negeseuon yn gofyn am luniau noeth drwy&#8217;r adeg, neu&#8217;n gyrru negeseuon, lluniau neu fideos anaddas, mae posib cadw&#8217;n ddiogel wrth flocio a riportio.<\/p>\n\n\n\n<p>Os nad wyt ti&#8217;n hapus i wneud hyn am dy fod di mewn perthynas \u00e2&#8217;r person yma, ceisio egluro&#8217;r ffordd rwyt ti&#8217;n teimlo. Rhan o fod mewn perthynas iach ydy gallu cyfathrebu dy deimladau&#8217;n agored heb deimlo ofn na phoeni.<\/p>\n\n\n\n<p>Er bod rhai pobl yn dweud eu bod yn secstio, efallai nad yw hyn yn wir bob tro. Cofia, ni fydd ffrind neu bartner da yn gwneud i ti wneud rhywbeth sydd yn gwneud i ti deimlo&#8217;n anghyfforddus.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\nhttps:\/\/youtu.be\/TcMd468Pqbs\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth alla i wneud os ydw i wedi rhannu llun noeth?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti wedi bod yn secstio ac yn poeni am beth allai fod wedi digwydd, mae yna ychydig o bethau gallet ti ei wneud:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gofyn iddynt ddileu\u2019r neges <\/strong>&#8211; Esbonia iddynt nad wyt ti&#8217;n gyfforddus gyda nhw\u2019n cadw&#8217;r llun, fideo neu neges, a gofyn iddynt ei ddileu.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Anwybydda bygythiadau<\/strong> &#8211; Os wyt ti&#8217;n cael dy fygwth neu flacmelio, paid ymateb a phaid gyrru mwy o luniau. Gall fod yn frawychus iawn, ond mae&#8217;n ffordd i helpu ti i gadw rheolaeth.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Siarada gyda rhywun rwyt ti&#8217;n gallu ymddiried ynddynt <\/strong>&#8211; Gall siarad gyda rhywun am secstio fod yn beth ofnus, yn enwedig os wyt ti&#8217;n cael dy fygwth. Ond, mae yna bobl gall gefnogi a helpu. Mae&#8217;n dda siarad.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Riportia&#8217;r digwyddiad i <a href=\"https:\/\/www.ceop.police.uk\/safety-centre\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">CEOP<\/a> <\/strong>&#8211; Os wyt ti o dan 18 oed ac yn poeni neu&#8217;n cael dy fygwth, yna adrodd hyn i CEOP. Nid yw llunio adroddiad yn gyfrinachol ond mae&#8217;n golygu y gallant helpu i atal yr hyn sy&#8217;n digwydd.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Chwilio am help gyda dy deimladau<\/strong> &#8211; Nid dy fai di ydyw os yw rhywun yn rhannu llun noeth ohonot neu&#8217;n dy fygwth. Os yw ymdopi gyda hyn yn anodd neu os nad wyt ti&#8217;n gwybod beth i&#8217;w wneud, cysyllta ag un o&#8217;r gwasanaethau isod.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Angen cyngor?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti eisiau gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth bellach am secstio, cer draw i weld y dolenni defnyddiol yma:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.thinkuknow.co.uk\/\">THINKUK<\/a><a href=\"https:\/\/www.thinkuknow.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">NOW<\/a> &nbsp;&nbsp;&#8211; Mae THINKUKNOW yn rhannu llawer o wybodaeth am amddiffyn plant a phobl ifanc ar-lein ac all-lein<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.ceop.police.uk\/safety-centre\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">CEOP<\/a>&#8211; Os wyt ti&#8217;n poeni am gamdriniaeth rywiol ar-lein neu&#8217;r ffordd mae rhywun wedi bod yn cysylltu gyda thi ar-lein, riportia hyn i CEOP.<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/bullying-abuse-safety\/online-mobile-safety\/sexting\/zipit-app\/\">Z<\/a><a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/bullying-abuse-safety\/online-mobile-safety\/sexting\/zipit-app\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ipI<\/a><a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/bullying-abuse-safety\/online-mobile-safety\/sexting\/zipit-app\/\">t<\/a> &#8211; Os wyt ti&#8217;n hapus i fflyrtio dros neges testun ond mae rhywbeth yn&nbsp; mynd yn rhy bell ac yn gwneud i ti deimlo&#8217;n anghyfforddus, efallai gall ZipIt helpu. Mae ZipIt yn app am ddim wedi&#8217;i greu gan <a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/\">Chi<\/a><a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ldLin<\/a><a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/\">e<\/a> gellir ei lawrlwytho o&#8217;r siop Google Play neu&#8217;r App Store. Mae&#8217;n gallu helpu symud y sgwrs yn \u00f4l i un o fflyrtio os yw rhywun yn ceisio ei symud i secstio. Defnyddia&#8217;r GIF&#8217;s sydd ar gael yn yr app ZipIt i gadw rheolaeth ar y sefyllfa.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth bellach?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r erthygl yma yn rhan o\u2019r ymgyrch Perthnasau Iach. Os wyt ti eisiau darllen mwy am yr ymgyrch Perthnasau Iach a gweld mwy o gynnwys, gan gynnwys gwybodaeth i gefnogi profiadau pobl ifanc,&nbsp;<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/tiynhaeddu-perthnasau-iach\/\">clicia <\/a><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/tiynhaeddu-perthnasau-iach\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthnasau, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, yna cysyllta \u00e2&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mei<\/a><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\">c<\/a> a siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn agored o 8yb a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, i blant a phobl ifanc Cymru.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image is-style-rounded\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/02\/18119448_999151316887851_1887505649174798768_n-1-768x318-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3506\" width=\"576\" height=\"239\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/02\/18119448_999151316887851_1887505649174798768_n-1-768x318-1.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/02\/18119448_999151316887851_1887505649174798768_n-1-768x318-1-300x124.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 576px) 100vw, 576px\" \/><\/a><\/figure>\n<\/div>\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-medium\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/tiynhaeddu-perthnasau-iach\/\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"222\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Ti-Yn-Haeddu-1-300x222.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3609\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Ti-Yn-Haeddu-1-300x222.png 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Ti-Yn-Haeddu-1.png 645w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu fel rhan o\u2019n Hymgyrch #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach. I ddarganfod mwy am yr ymgyrch&nbsp;clicia yma. Gyda phoblogrwydd technoleg hygyrch yn tyfu, mae secstio wedi dod&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3692,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1207],"tags":[7,1264,1229,1091,1266,1222],"class_list":["post-3691","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ti-yn-haeddu","tag-diogelwch-ar-lein","tag-noethluniau","tag-perthnasau","tag-rhyw","tag-secstio","tag-ti-yn-haeddu"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3691","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3691"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3691\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5103,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3691\/revisions\/5103"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3692"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3691"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3691"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3691"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}