{"id":3684,"date":"2021-03-19T09:00:00","date_gmt":"2021-03-19T09:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=3684"},"modified":"2021-03-19T13:35:42","modified_gmt":"2021-03-19T13:35:42","slug":"caniatad-rhywiol-wyt-tin-deall","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/caniatad-rhywiol-wyt-tin-deall\/","title":{"rendered":"Caniat\u00e2d Rhywiol: Wyt Ti&#8217;n Deall?"},"content":{"rendered":"\n<p><em>Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu fel rhan o\u2019n Hymgyrch #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach. I ddarganfod mwy am yr ymgyrch&nbsp;<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/tiynhaeddu-perthnasau-iach\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">clicia yma.<\/a><\/em><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae perthnasau rhywiol rhwng dau oedolyn cydsyniol dros 16 oed yn gallu bod yn bleserus. Ond, pan fydd rhywbeth rhywiol yn digwydd heb ganiat\u00e2d un person yna mae hyn yn anghyfreithlon, heb s\u00f4n am yr effaith dinistriol gallai ei gael ar y person sydd heb roi\u2019r caniat\u00e2d.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth ydy \u201cCaniat\u00e2d\u201d?<\/h3>\n\n\n\n<p>Caniat\u00e2d rhywiol ydy pan fydd person yn dweud ei fod yn iawn i berson arall gael cyswllt rhywiol \u00e2 nhw. Os nad rhoddir caniat\u00e2d gan un ohonynt, a dyw\u2019r person arall ddim yn stopio, yna mae hyn yn cael ei ystyried fel ymosodiad rhywiol yn \u00f4l y gyfraith. Os yw\u2019r gweithgaredd yma yn cynnwys rhyw (rhyw fagina, anws neu geneuol) yna bydd hyn yn cael ei ystyried yn drais neu r\u00eap. Gall unrhyw un fod yn ddioddefwyr ymosodiad rhywiol, beth bynnag eu rhyw, tueddfryd rhywiol, hunaniaeth rhyw a chefndir.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\nhttps:\/\/www.youtube.com\/watch?v=3GVfesRwvsQ&#038;feature=emb_logo\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pryd all rhywun ddim rhoi caniat\u00e2d?<\/h3>\n\n\n\n<p>Diffiniad cyfreithiol&nbsp;caniat\u00e2d ydy \u201cos yw\u2019r person yn cytuno drwy ddewis, ac mae ganddynt y rhyddid a\u2019r gallu i wneud y dewis yma\u201d. Gad i ni edrych ar y ddau beth ar wah\u00e2n.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhyddid<\/strong>&nbsp;\u2013 mae hwn yn ganolog i ganiat\u00e2d ac yn eithaf clir. Os nad yw rhywun yn rhydd i ddewis os ydynt eisiau rhyw neu beidio, neu os ydynt dan fygythiad i wneud dewis, yna nid ydynt wedi rhoi caniat\u00e2d.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gallu<\/strong>&nbsp;\u2013 nid yw hwn mor eglur. Mae\u2019n edrych ar gyflwr meddwl a gallu rhywun i wneud penderfyniad. Os oes gen ti broblemau iechyd meddwl, neu ddim yn hollol ymwybodol, neu dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, yna gall hyn effeithio ar dy gyflwr meddwl. Felly nid oes gen ti\u2019r \u2018gallu\u2019 i roi caniat\u00e2d yn gyfreithiol i gael rhyw.<\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Dyma rhai esiamplau:<\/h5>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Os yw rhywun wedi meddwi ac yn lled ymwybodol, nid allant roi caniat\u00e2d i gael rhyw neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol<\/li><li>Nid all cael caniat\u00e2d os yw rhywun yn cysgu neu\u2019n anymwybodol, hyd yn oed os ydynt oeddent wedi cytuno i weithgaredd rhywiol neu ryw gynt<\/li><li>Os yw rhywun yn ofnus ac wedi cael ei fygwth i gael rhyw neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, nid ydynt wedi rhoi caniat\u00e2d<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae rhai pobl yn s\u00f4n am linellau aneglur neu ansicrwydd pan ddaw at ganiat\u00e2d. Mae\u2019r fideo yma gan&nbsp;<a href=\"https:\/\/youtu.be\/u7Nii5w2FaI\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Blue Seat Studios, \u2018Tea and Consent\u2018<\/a>, yn egluro caniat\u00e2d yn glir.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Tea and Consent (british VO version)\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/u7Nii5w2FaI?start=1&#038;feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n hanfodol deall nad yw\u2019n bosib i ti roi caniat\u00e2d yn gyfreithiol os wyt ti o dan 16 oed. Yn \u00f4l y system gyfreithiol rwyt ti&#8217;n blentyn o hyd. Mae rhai pobl ifanc yn dewis cael rhyw cyn iddynt fod yn ddigon hen yn gyfreithiol, ond mae hyn yn dal i gael ei ystyried fel torri\u2019r gyfraith. Efallai bydd yr heddlu yn dewis peidio gwneud dim yn y sefyllfa yma, ond nid all gwarantu hyn. Bydd yr heddlu bob tro&#8217;n cosbi os yw un person dan 13 oed.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;n fwy nag &#8216;mae na yn golygu na&#8217;<\/h3>\n\n\n\n<p>Unwaith i ti ddeall caniat\u00e2d mae&#8217;n hawdd deall bod na yn golygu na. Mae&#8217;n bwysig cofio hefyd nad yw absenoldeb \u2018na\u2019 yn golygu \u2018ia\u2019! Gad i ni archwilio hyn ymhellach wrth edrych ar esiampl o ganiat\u00e2d yn fideo parodi <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/caniatad-na-yw-na\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Meic<\/a> am y Dywysoges Hir Ei Chwsg (Sleeping Beauty).&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Nid Stori Tylwyth Teg Yw Bywyd: Y Dywysoges Hir Ei Chwsg | Caniat\u00e2d yw Popeth\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/BnW9fuMoGwU?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Gan fod y ferch yn cysgu nid oedd posib iddi roi caniat\u00e2d. Yng nghyd-destun &#8216;bywyd go iawn&#8217;, yr unig ffordd i fod yn sicr os yw rhywun eisiau cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol ydy i sicrhau bod y person yna mewn cyflwr ble gallant ddweud \u201cna\u201d os ydynt yn dymuno.<\/p>\n\n\n\n<p>Felly os nad yw rhywun yn dweud \u2018na\u2019 sut mae person yn fod i wybod os yw\u2019r person arall ddim eisiau rhyw, neu os ydynt eisiau stopio? Mae yna arwyddion di-eiriau dylai rhywun eu hadnabod. Efallai nad ydynt yn teimlo\u2019n gyfforddus yn dweud \u2018na\u2019 neu \u2018stop\u2019 ond byddant yn dangos hyn mewn ffordd wahanol. Efallai wrth geisio tynnu\u2019n \u00f4l, tynnu dwylo\u2019r person oddi ar eu corff, crio, edrych neu ymddwyn yn ofnus neu wedi gofidio, cadw eu coesau ar gau neu geisio dianc. Er yr arwyddion di-eiriau yma, efallai bydd rhai pobl yn mynnu ei fod yn gydsyniol gan nad oedd y person wedi dweud \u2018na\u2019. Mae\u2019n bwysig deall bod y gyfraith wedi newid; mae\u2019r un sydd wedi\u2019i gyhuddo bellach yn gorfod profi bod yr un sydd yn gwneud y cyhuddiad wedi cytuno i gael rhyw.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam bod deall caniat\u00e2d yn bwysig?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n hanfodol bod gan bawb ddealltwriaeth dda o ganiat\u00e2d. Mae hyn yn arwain at berthnasau iach a rhyw ddiogel a pleserus i bobl ifanc cydsyniol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall y goblygiadau o beidio deall caniat\u00e2d fod yn ddifrifol iawn. Mae ymosodiad rhywiol a r\u00eap yn gallu cael effaith enfawr ar y ddau ohonoch. Bydd y person sydd heb roi caniat\u00e2d yn teimlo mewn trallod ac wedi\u2019u treisio, a bydd y person sydd heb gael caniat\u00e2d yn gallu wynebu cofnod troseddol, dirwy, gorchymyn prawf neu arhosiad yn y carchar. Gallant gael eu cofrestru fel troseddwr rhyw hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os nad wyt ti\u2019n sicr am deimladau dy bartner am hyn, yna siarada \u00e2 nhw! Darganfod y pethau maen nhw\u2019n gyfforddus ag ef. Sicrha dy fod di\u2019n cael \u201cie\u201d brwdfrydig cyn unrhyw weithgaredd rhywiol a pheidio gosod y person dan unrhyw bwysau. Mae parch yn bwysig ymhob perthynas, ac mae hyn yn wir gyda rhyw hefyd. Bydda\u2019n barchus o benderfyniadau a theimladau dy bartner ac ei di ddim o\u2019i le!<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/4-2.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/4-2-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3686\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/4-2-1024x1024.png 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/4-2-300x300.png 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/4-2-150x150.png 150w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/4-2-768x768.png 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/4-2.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Angen gwybodaeth bellach?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r erthygl yma yn rhan o\u2019r ymgyrch Perthnasau Iach. Os wyt ti eisiau darllen mwy am yr ymgyrch Perthnasau Iach a gweld mwy o gynnwys, gan gynnwys gwybodaeth i gefnogi profiadau pobl ifanc,<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/tiynhaeddu-perthnasau-iach\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">&nbsp;clicia yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthnasau, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, yna cysyllta \u00e2&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Meic<\/a>&nbsp;a siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn agored o 8yb a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, i blant a phobl ifanc Cymru.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/02\/18119448_999151316887851_1887505649174798768_n-1-768x318-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"318\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/02\/18119448_999151316887851_1887505649174798768_n-1-768x318-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3506\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/02\/18119448_999151316887851_1887505649174798768_n-1-768x318-1.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/02\/18119448_999151316887851_1887505649174798768_n-1-768x318-1-300x124.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-medium\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Ti-Yn-Haeddu-1.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"222\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Ti-Yn-Haeddu-1-300x222.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3609\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Ti-Yn-Haeddu-1-300x222.png 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Ti-Yn-Haeddu-1.png 645w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu fel rhan o\u2019n Hymgyrch #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach. I ddarganfod mwy am yr ymgyrch&nbsp;clicia yma. Mae perthnasau rhywiol rhwng dau oedolyn cydsyniol dros 16 oed&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1908,"featured_media":3687,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1207],"tags":[1258,1263,1259,1260,1261,1091,1262,1222,1220,1219],"class_list":["post-3684","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ti-yn-haeddu","tag-caniatad","tag-caniatad-rhywiol","tag-ia-brwdfrydig","tag-na-yw-na","tag-rep","tag-rhyw","tag-rhyw-a-chaniatad","tag-ti-yn-haeddu","tag-trais","tag-trais-rhywiol"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3684","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1908"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3684"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3684\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3697,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3684\/revisions\/3697"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3687"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3684"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3684"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3684"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}