{"id":3543,"date":"2021-03-05T12:27:38","date_gmt":"2021-03-05T12:27:38","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=3543"},"modified":"2021-03-05T12:27:39","modified_gmt":"2021-03-05T12:27:39","slug":"pleidleisio-yn-etholiadaur-senedd-beth-pam-a-sut","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/pleidleisio-yn-etholiadaur-senedd-beth-pam-a-sut\/","title":{"rendered":"Pleidleisio yn Etholiadau\u2019r Senedd: Beth, Pam a Sut?"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Os wyt ti dros 16 oed erbyn Mai 6ed yna fe fyddi di\u2019n un o\u2019r bobl gyntaf yng Nghymru i gael pleidleisio dan 18 oed. Dyma edrych ar resymau i bleidleisio, sut i wneud a beth yw\u2019r Senedd.<\/h2>\n\n\n\n<p>Wyt ti weithiau\u2019n meddwl, \u201cBeth yw\u2019r pwynt mewn pleidleisio?\u201d Efallai nad oes gen ti ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, neu efallai dy fod di\u2019n teimlo nad yw\u2019r ymgeiswyr na\u2019r polis\u00efau yn dy gynrychioli di. Felly beth yw\u2019r pwynt?<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam dylet ti bleidleisio<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Senedd<\/a>&nbsp;yn gwneud penderfyniadau am y pethau sydd yn cael effaith ar fywydau pobl. Rwyt ti\u2019n pleidleisio i ddewis y bobl rwyt ti eisiau cynrychioli ti yn y Senedd. Heb bleidleisio, nid oes gen ti unrhyw ddylanwad yn y penderfyniad yma. Byddi di\u2019n cael dy gyfrif hyd yn oed os wyt ti\u2019n difetha dy bapur pleidlais (mwy am hyn isod).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dy lais di\u2019n bwysig. Dyma\u2019r tro cyntaf i rai 16 ac 17 oed gael pleidleisio yng Nghymru. Mae\u2019r Alban wedi rhoi pleidlais i rai 16 i 17 oed yn barod, gyda niferoedd mawr yn pleidleisio. Mae\u2019n rhaid bod yn 18 oed yn Lloegr. Mae llawer o ymgyrchu wedi bod i roi pleidlais i bobl ifanc. Defnyddia\u2019r hawl yma!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r agwedd \u201cdyw fy un bleidlais i ddim am wneud gwahaniaeth\u201d yn ddealladwy, ond mae\u2019r newidiadau eleni yn golygu bod posib cael dros 100,000 o bleidleisiau newydd. Os byddai llawer iawn yn yr ystod oedran yma yn penderfynu peidio pleidleisio, yna mae hynny\u2019n llawer iawn o bleidleisiau fydd ddim yn cael eu cyfrif. N fydd dy genhedlaeth di yn cael ei gynrychioli.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Voting-in-the-Senedd-Elections_-1.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Voting-in-the-Senedd-Elections_-1-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3544\" width=\"398\" height=\"398\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Voting-in-the-Senedd-Elections_-1-1024x1024.png 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Voting-in-the-Senedd-Elections_-1-300x300.png 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Voting-in-the-Senedd-Elections_-1-150x150.png 150w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Voting-in-the-Senedd-Elections_-1-768x768.png 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Voting-in-the-Senedd-Elections_-1.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 398px) 100vw, 398px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Nid oes rhaid dewis yr un buddugol i wneud newid!<\/h3>\n\n\n\n<p>Os nad yw\u2019r ymgeisydd rwyt ti wedi pleidleisio amdano yn cael ei ddewis, mae\u2019r ffaith dy fod di wedi pleidleisio yn gallu cael dylanwad o hyd. Mae ystadegau yn bwysig pan fydd gwleidyddwyr yn creu polis\u00efau. Os yw\u2019n debygol y bydd llawer o bobl ifanc yn pleidleisio, yna maent yn fwy tebygol o greu polis\u00efau sydd yn denu\u2019r bleidlais ifanc. Bydd hyn yn fuddiol i ti.<\/p>\n\n\n\n<p>Teimlo fel nad oes neb yn cynrychioli dy farn di? Nid oes rhaid i ti bleidleisio am rywun. Gallet ti ddewis difetha dy bleidlais. Mae hyn yn ffordd i ddangos nad wyt ti\u2019n hapus gyda\u2019r dewisiadau sydd ar gael i ti. Os nad wyt ti\u2019n mynd i bleidleisio byddant yn cymryd yn ganiataol nad oes gen ti ddiddordeb yn cymryd rhan. Os wyt ti\u2019n difetha dy bleidlais rwyt ti\u2019n dangos iddynt nad ydynt yn darparu ar dy gyfer di.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r nifer o bleidleisiau sydd wedi\u2019u difetha yn cael ei gyhoeddi gyda\u2019r canlyniadau \u2013 felly byddi di\u2019n cael dy glywed. Os oes nifer uchel o bleidleisiau wedi\u2019u difetha yna mae hyn yn awgrymu bod yna lawer o bobl sydd ddim yn teimlo fel eu bod yn cael eu cynrychioli. Efallai bydd hyn yn gwneud iddynt edrych ar eu polis\u00efau yn y dyfodol a gwneud newidiadau i geisio denu pleidlais y rhai sydd ddim yn cael eu cynrychioli ar hyn o bryd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut i bleidleisio<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti eisiau pleidleisio yn etholiadau\u2019r Senedd, yna mae\u2019n rhaid i ti sicrhau dy fod di wedi cofrestru i bleidleisio cyn 19 Ebrill, neu ni fyddi di\u2019n cael cymryd rhan. Mae\u2019n rhaid i ti fod yn 16 oed ar ddiwrnod yr etholiad a byw yng Nghymru. Sicrha dy fod di\u2019n&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/cofrestru-i-bleidleisio\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cofrestru yma<\/a>, dim ond 5 munud o dy amser ydyw.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Pleidleisio yn Etholiadau\u2019r Senedd\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/0aDk6NscPwk?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wybodaeth isod yn gyfarwyddiadau am drefniadau etholiadau cyn Covid. Efallai bydd newidiadau eleni wrth i\u2019r Senedd greu cyfreithiau newydd i ganiat\u00e1u\u2019r posibilrwydd o ohirio\u2019r etholiad am 6 mis (os ydynt yn penderfynu bod rhaid gwneud hyn) ac i gynnal yr etholiad dros sawl diwrnod yn hytrach nag un (i helpu gydag ymbellhau cymdeithasol) ond byddem yn derbyn gwybodaeth am y trefniadau yn agosach at yr amser.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn etholiadau\u2019r Senedd bydd gen ti ddwy bleidlais.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Aelod etholaeth \u2013<\/strong>&nbsp;ymgeisydd ardal leol a\u2019r person rwyt ti eisiau dy gynrychioli\u2019n uniongyrchol<\/li><li><strong>Aelod rhanbarthol&nbsp;<\/strong>\u2013 plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae yna dair ffordd o bleidleisio. Gallet ti bleidleisio yn bersonol, yn ddirprwyol (dewis rhywun arall i bleidleisio ar dy ran), neu drwy\u2019r post.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Pleidleisio yn bersonol<\/h4>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l cofrestru byddi di\u2019n derbyn cerdyn trwy\u2019r post gyda manylion a lleoliad dy orsaf pleidleisio. Cer \u00e2\u2019r cerdyn gyda thi (er mae posib pleidleisio hebddo hefyd os wyt ti\u2019n ei golli), ei roi i\u2019r bobl wrth y ddesg a byddi di\u2019n derbyn papur pleidlais. Cer \u00e2\u2019r papur yma draw i un o\u2019r bythau preifat a nodi dy ddewisiadau gyda chroes.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Pleidlais ddirprwyol<\/h4>\n\n\n\n<p>Os oes unrhyw reswm sydd yn atal ti rhag mynd allan i bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, yna gallet ti wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy tan 5yh ar y dydd. Bydd rhaid dewis rhywun i fynd i bleidleisio ar dy ran. Bydd yna fwy o hyblygrwydd gyda phleidleisiau dirprwyol eleni gyda\u2019r posibilrwydd o fwy o bobl yn gorfod cymryd mantais ohono wrth iddynt orfod hunan ynysu oherwydd Covid.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Pleidlais bost<\/h4>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n bwriadu pleidleisio trwy\u2019r post yna bydd angen i ti gofrestru i wneud hyn o flaen llaw. Mae angen iddynt dderbyn dy gais erbyn 5yh 11 diwrnod cyn diwrnod yr etholiad. Mae\u2019n debyg bydd mwy o alwad am bleidlais bost eleni, felly awgrymir i ti wneud cais cyn gynted \u00e2 phosib.&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.electoralcommission.org.uk\/cy\/rwyf-yneg-pleidleisiwr\/pleidleisiwr\/sut-i-fwrwch-pleidlais\/pleidleisio-drwyr-post\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Ffurflen gais ar gael yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Senedd.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Senedd-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3545\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Senedd-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Senedd-300x169.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Senedd-768x432.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/Senedd.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/nick-fewings-hb_gXTAYW-g-unsplash-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/nick-fewings-hb_gXTAYW-g-unsplash-300x200.jpg\" alt=\"Adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd\" class=\"wp-image-2432\"\/><\/a><figcaption>Llun gan&nbsp;<a href=\"https:\/\/unsplash.com\/@jannerboy62?utm_source=unsplash&amp;utm_medium=referral&amp;utm_content=creditCopyText\">Nick Fewings<\/a>&nbsp;ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/unsplash.com\/s\/photos\/national-assembly-for-wales?utm_source=unsplash&amp;utm_medium=referral&amp;utm_content=creditCopyText\">Unsplash<\/a><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw\u2019r Senedd?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Senedd<\/a>&nbsp;yn cynnwys 60 o aelodau sydd yn cael eu hethol gan gyhoedd Cymru. Bydd pum aelod yn cynrychioli ti a dy ardal \u2013 un ar gyfer dy ardal leol a\u2019r pedwar arall am y rhanbarth rwyt ti\u2019n byw ynddi. Mae etholiadau\u2019r Senedd yn digwydd bob pum mlynedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei greu o\u2019r blaid neu bleidiau sydd \u00e2\u2019r mwyafrif o seddi yn y Senedd, wedi\u2019i arwain gan Brif Weinidog Cymru (arweinydd y blaid gyda\u2019r mwyafrif o seddi). Mae\u2019r Prif Weinidog yn dewis gweinidogion a dirprwy weinidogion o\u2019r Senedd i greu Llywodraeth Cymru, gyda chymeradwyaeth y Senedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Senedd yn llunio cyfreithiau ac yn gosod trethi yng Nghymru ac yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru. Golygai hyn eu bod yn gwirio i sicrhau eu bod yn gwneud pethau\u2019n gywir ac yn gwario arian yn iawn.<\/p>\n\n\n\n<p><br>Gwylia\u2019r fideo isod i weld pwerau\u2019r Senedd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Pwerau\u2019r Senedd\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/5evhRt_D2pw?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae Llywodraeth Cymru yn creu polis\u00efau mewn meysydd datganoledig (fel iechyd, addysg, trafnidiaeth ayb. \u2013 meysydd sydd ddim yn cael eu llywodraethu gan senedd y DU). Mae\u2019r polis\u00efau yma yn cael eu gwirio a\u2019u cymeradwyo gan y Senedd, ac yna Llywodraeth Cymru, sydd \u00e2 channoedd o weision sifil yn gweithio iddynt i weithredu\u2019r rhain.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth Ychwanegol<\/h3>\n\n\n\n<p>Am wybodaeth bellach am bleidleisio, cer draw i <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/y-gyfraith-dy-hawliau-a-dinasyddiaeth\/pleidleisio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">dudalen gwybodaeth Pleidleisio&#8217;r Sprout.<\/a><br><\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti&#8217;n poeni am bleidleisio, neu os oes unrhyw beth arall yna dy boen, yna <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cysyllta \u00e2 llinell gymorth Meic<\/a> yn gyfrinachol. Bydd y cynghorwyr yn gwrando, siarad ac yn cynnig cyngor ac yn helpu ti i ddarganfod ffordd ymlaen.<br><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/meic-logo-copy.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/03\/meic-logo-copy.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3551\" width=\"426\" height=\"255\"\/><\/a><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Os wyt ti dros 16 oed erbyn Mai 6ed yna fe fyddi di\u2019n un o\u2019r bobl gyntaf yng Nghymru i gael pleidleisio dan 18 oed. Dyma edrych ar resymau i&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3546,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[23,1,1111],"tags":[44,1235,1237,1238,1242,1241,1239,1234,1231,1240,465,1236],"class_list":["post-3543","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwleidyddiaeth","category-newyddion","category-ymwybyddiaeth","tag-cymru","tag-dweud-dy-ddweud","tag-etholiadaur-senedd","tag-llais","tag-mae-dy-lasi-din-bwysig","tag-oed-pleidleisio","tag-pledlais","tag-pleidlais-caerdydd","tag-pleidleisio","tag-plelais-16","tag-senedd","tag-sut-i-bleidleisio-yng-nghaerdydd"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3543","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3543"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3543\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3553,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3543\/revisions\/3553"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3546"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3543"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3543"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3543"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}