{"id":345,"date":"2017-07-12T15:47:13","date_gmt":"2017-07-12T15:47:13","guid":{"rendered":"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=345"},"modified":"2021-04-14T13:25:38","modified_gmt":"2021-04-14T13:25:38","slug":"snap-map-gwych-neu-hunllef","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/snap-map-gwych-neu-hunllef\/","title":{"rendered":"Snap Map: Gwych neu Hunllef?"},"content":{"rendered":"<h2>Heddiw rwyf wedi hwylio cwch dros Y Barriff Mawr, wedi deifio awyr yn Alasga, yna gwylio cath fach yn disgyn oddi ar soffa yn Abertawe, bob un cyn i mi godi o&#8217;r gwely.<\/h2>\n<p>Mae&#8217;n debyg bod oedolion wedi rhoi <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/technology-40509281\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">rhybudd i ti am Snap Map<\/a> yn barod. Ond beth yw&#8217;r broblem? Wedi&#8217;r cwbl, os byddet <strong>ti&#8217;n<\/strong> mynd i ddeifio awyr, fyddet ti ddim eisiau rhannu&#8217;r profiad efo&#8217;r byd?<\/p>\n<p>Mae&#8217;n wir fod gan rai rhieni ofn mawr o&#8217;r rhyngrwyd. Mae fy mam i yn un ohonynt: pan ddarllenodd am Snap Map yn y papur newydd dywedodd y dylwn i ddileu Snapchat yn gyfan gwbl. Mae ei chalon hi yn y lle iawn, ond pan fydd yn rhybuddio am bethau ar-lein mae&#8217;n anodd gwybod os yw&#8217;n rhoi cyngor pwysig, neu os ydy hi wedi mynd i banig dros rywbeth nad yw&#8217;n deall yn iawn.<\/p>\n<p>Dwi wedi bod yn defnyddio&#8217;r rhyngrwyd am y mwyafrif o&#8217;m mywyd, ac wedi dysgu bod ffordd mam o ddelio gydag ef (<em>&#8220;mae popeth yn beryglus! Paid cyffwrdd dim ohono!&#8221;<\/em>) yn syniad drwg gan y byddwn i yn colli allan ar gymaint o bethau gr\u00eat. Ond dwi wedi gwneud digon o gamgymeriadau hefyd i ddeall bod y syniad bod &#8220;<em>popeth yn ddiogel! LAWRLWYTHA&#8217;R APIAU I GYD!<\/em>&#8221; yn beryglus ac yn dwp.<\/p>\n<div id=\"attachment_608\" style=\"width: 480px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-608\" class=\"wp-image-608 size-full\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2017\/07\/installalltheapps_cym.png\" alt=\"\" width=\"470\" height=\"331\" \/><p id=\"caption-attachment-608\" class=\"wp-caption-text\">Dydy hyn ddim yn syniad da<\/p><\/div>\n<p>Y gamp ydy dod o hyd i&#8217;r cydbwysedd. Felly gad i mi amlygu pethau i ti:<\/p>\n<h2><strong>Mae technoleg yn wych.<\/strong><\/h2>\n<p>Wyddost ti beth sydd ddim mor wych? <strong>Dweud wrth bobl ddiarth ble rwyt ti&#8217;n cysgu.\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Rwyt ti&#8217;n gwybod hyn yn barod. Fyddet ti ddim yn cerdded at ddieithryn ac yn rhoi dy gyfeiriad iddynt. Hyd yn oed ymysg y bobl ti&#8217;n adnabod, mae yna rai pethau fyddet ti ond yn rhannu gyda dy ffrindiau agosaf neu deulu. Y perygl o dechnoleg ydy bod posib rhannu gwybodaeth bersonol heb sylweddoli &#8211; <strong>yn<\/strong> <strong>enwedig<\/strong> os wyt ti&#8217;n derbyn cais ffrind gan ddieithrion.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=f2DZXKAhT9w&#038;<\/p>\n<blockquote><p>Fyddet ti ddim yn rhoi dy gyfeiriad i ddieithrion ar y stryd, felly paid rhannu dy leoliad efo dieithrion ar y we.<\/p><\/blockquote>\n<p>Nid oes <em>angen<\/em> i ti rannu dy leoliad byth. Os wyt ti&#8217;n <em>dewis<\/em> ei rannu, gwna&#8217;n si\u0175r dy fod di&#8217;n meddwl yn ofalus gyntaf. Gofynna i ti dy hun:<\/p>\n<ul>\n<li>Pa wybodaeth ydw i&#8217;n ei rannu?<\/li>\n<li>Gyda phwy ydw i&#8217;n ei rannu?<\/li>\n<li>A yw&#8217;n ddiogel i rannu hyn?<\/li>\n<li>Ydw i&#8217;n rhannu hyn unwaith, neu ydy popeth dwi&#8217;n postio wedyn yn gyhoeddus hefyd? (Os felly: cofia newid popeth yn \u00f4l wedyn!)<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dyma fy rheol: <strong>rhanna cipluniau yn unig<\/strong> (nid pob eiliad o dy fywyd).<\/p>\n<p>Mae pob un o fy apiau wedi&#8217;u rhagosod i gadw lleoliad i ffwrdd. Os ydw i&#8217;n gweld rhywbeth hoffwn rannu \u00e2&#8217;r byd byddaf yn ystyried y rhestr uchod ac, os yw&#8217;n parhau i fod yn syniad da, pan fyddaf yn postio&#8217;r llun neu&#8217;r fideo byddaf yn dewis y lleoliadau (e.e. &#8216;Add location&#8217; ar Instagram, neu rannu i &#8216;Our Story&#8217; ar Snapchat) ond <em>am y post yno yn unig<\/em>. Cyn rhannu&#8217;r post nesaf dwi&#8217;n sicrhau bod y lleoliad yn \u00f4l yn llwyd unwaith eto.<\/p>\n<p>Os oes gen i rywbeth sydd yn werth ei rannu &#8211; fel tynnu llun o&#8217;r T\u0175r Eiffel &#8211; yna mae rhannu lleoliad yn gwneud synnwyr. Ond os wyf yn cerdded o gwmpas, ddim yn tynnu lluniau hyd yn oed, yna mae dweud wrth bobl yn union le ydwyf yn un ai&#8217;n ddiflas neu&#8230; yn eithaf iasol. Dwi ddim eisiau i bobl yn y coleg wybod pan fyddaf yn trydar o&#8217;r toiled!<\/p>\n<h2>Sut ydw i&#8217;n cadw fy hun yn ddiogel?<\/h2>\n<p>Y newyddion da ydy ei bod yn hawdd cadw dy leoliad yn breifat. Yn Snap Maps: pwysa ar yr olwyn gocos yn y gornel i weld y gosodiadau. Y gosodiad mwyaf diogel ydy &#8216;Ghost Mode&#8217;, sydd ddim yn cyhoeddi dy leoliad i neb.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Snapchat Snap Maps | How to stay private\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/GStpvDuPD2w?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Os yw dy Snap Map wedi&#8217;i osod i &#8216;My Friends&#8217; yna mae <em>pawb<\/em> ar dy restr ffrindiau yn gallu gweld dy leoliad (trwy&#8217;r adeg!). <strong>Dwi ddim yn argymell defnyddio&#8217;r gosodiad yma<\/strong>, ond os wyt ti yna cer drwy dy restr ffrindiau a sicrhau mai dim ond pobl ti&#8217;n ei adnabod mewn bywyd go iawn sydd arno, a phobl mae gen ti ffydd ynddynt! Os oes dieithrion ar dy restr ffrindiau yna gallant weld ble rwyt ti&#8217;n byw a dyw hynny DDIM yn syniad da!<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1085 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/ghostmode-1.png\" alt=\"\" width=\"450\" height=\"524\" \/><\/p>\n<p class=\"p1\">Wrth rannu gyda ffrindiau, mae&#8217;n syniad da clicio ar &#8216;Select Friends&#8217; a dewis ychydig o bobl agos rwyt ti&#8217;n hapus i rannu dy leoliad \u00e2 nhw. Yn bersonol dwi wedi gwneud hyn ac wedi ticio aelodau&#8217;r teulu i gyd, mae gen i ffydd ynddyn nhw ac maent yn gwybod ble dwi&#8217;n byw beth bynnag.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1083 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/ourstory-576x1024.png\" alt=\"\" width=\"450\" height=\"800\" \/><\/p>\n<p>Os wyt ti&#8217;n cyflwyno llun i &#8216;Our Story&#8217; yna gall pawb ei weld, hyd yn oed os wyt ti&#8217;n defnyddio &#8216;Ghost Mode&#8217;.<\/p>\n<h2>Snap Map ydy&#8217;r unig un sydd yn gwneud hyn?<\/h2>\n<p>Nage wir! Mae llwyth o apiau yn gallu gweld (a rhannu) dy leoliad.<\/p>\n<p>Os wyt ti&#8217;n amau, chwilia am y symbol yma:<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-1078 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/blue-location-icon-png-19.png\" alt=\"\" width=\"178\" height=\"178\" \/><\/p>\n<p>Ei ystyr ydy &#8216;lleoliad&#8217; ac wrth ei glicio rwyt ti&#8217;n cael opsiynau i rannu dy leoliad.<\/p>\n<p>Dyma Twitter er esiampl:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-613 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2017\/07\/donttweetyet_cym-1024x1018.png\" alt=\"\" width=\"450\" height=\"447\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1077 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/tweetlocation-300x173.png\" alt=\"\" width=\"450\" height=\"259\" \/><\/p>\n<p>Os yw&#8217;r blwch yma wedi&#8217;i dicio, bydd pob trydar rwyt ti&#8217;n ei yrru yn cynnwys dy union leoliad. Iasol!<\/p>\n<p><strong><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/category\/diogelwch-ar-lein\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Darllena&#8217;n erthyglau eraill am gadw&#8217;n ddiogel ar-lein.<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Heddiw rwyf wedi hwylio cwch dros Y Barriff Mawr, wedi deifio awyr yn Alasga, yna gwylio cath fach yn disgyn oddi ar soffa yn Abertawe, bob un cyn i mi&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":346,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[786],"tags":[8,7,11,10,12,9],"class_list":["post-345","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diogelwch-ar-lein","tag-diogelwch","tag-diogelwch-ar-lein","tag-preifatrwydd","tag-snap","tag-snap-maps","tag-snapchat"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/345","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=345"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/345\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":347,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/345\/revisions\/347"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/346"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=345"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=345"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=345"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}