{"id":3328,"date":"2020-08-25T16:01:15","date_gmt":"2020-08-25T16:01:15","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=3328"},"modified":"2021-04-14T13:29:50","modified_gmt":"2021-04-14T13:29:50","slug":"oes-gen-ti-arian-mewn-cronfa-ymddiriedolaeth-plant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/oes-gen-ti-arian-mewn-cronfa-ymddiriedolaeth-plant\/","title":{"rendered":"Oes Gen Ti Arian Mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant?"},"content":{"rendered":"<h2>Wyt ti wedi cael dy eni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011? Mae posib bod gen ti <a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/cy\/articles\/cyfrifon-cronfa-ymddiriedolaeth-plant\">Gronfa Ymddiriedolaeth Plant<\/a> wedi&#8217;i osod yn dy enw gydag arian sydd yn berchen i ti. Mae gen ti hawl i gael mynediad i&#8217;r arian yma unwaith i ti droi&#8217;n 18 oed.<\/h2>\n<blockquote><p><em>Ymddangosodd\u00a0<\/em><em>yr erthygl hon yn wreiddiol <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/oes-gen-ti-arian-mewn-cronfa-ymddiriedolaeth-plant\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">ar wefan Meic.cymru<\/a><\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae pob plentyn gafodd ei eni yn y cyfnod amser cymwys, gyda rhiant neu ofalwyr oedd yn derbyn budd-daliadau plant, wedi derbyn taleb am \u00a3250 (neu \u00a3500 i rai ar incwm isel) gan <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/hm-revenue-customs\">CThEM<\/a> (HMRC) i roi mewn <a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/cy\/articles\/cyfrifon-cronfa-ymddiriedolaeth-plant\">Cronfa Ymddiriedolaeth Plant<\/a> di-dreth. Os na chafodd cyfrif ei agor i ti, yna mae posib bod CThEM wedi agor un ar dy ran. Bydd cyfrif wedi cael ei greu os oeddet ti mewn gofal hefyd. Bwriad y gronfa yma oedd annog pobl i gynilo fel bod gan bawb gyfrif cynilo wrth gyrraedd oedolaeth.<\/p>\n<p>Pan fyddi di&#8217;n troi&#8217;n 16 rwyt ti&#8217;n cael cyfrifoldeb cyfreithiol dros dy Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ac yn gallu gwneud penderfyniadau am yr hyn sydd yn digwydd iddo. Pan fyddi di&#8217;n 18 oed mae gen ti hawl i dynnu&#8217;r arian yma allan.<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/08\/17240.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-3330\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/08\/17240-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/08\/17240-300x200.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/08\/17240-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/08\/17240-768x512.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/08\/17240.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3>Pa benderfyniadau fedri di wneud yn 16 oed?<\/h3>\n<p>Unwaith i ti droi&#8217;n 16 oed rwyt ti&#8217;n cael cymryd cyfrifoldeb am dy Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfreithiol. Er nad allet ti dynnu&#8217;r arian allan eto, rwyt ti yn cael gwneud penderfyniadau am yr hyn sydd yn digwydd iddo. Efallai hoffet ti newid i fanc gwahanol neu <a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/cy\/articles\/cyfrifon-cronfa-ymddiriedolaeth-plant#beth-yw-isa-iau-ac-a-ddylwn-i-droi-fy-nghronfa-ymddiriedolaeth-plant-i-mewn-i-un\">newid i ISA Iau<\/a>, fydd efallai yn gallu cynnig gwerth gwell.<\/p>\n<h3>Pa benderfyniadau fedri di wneud yn 18 oed?<\/h3>\n<p>Unwaith i ti droi&#8217;n 18 oed rwyt ti&#8217;n cael rheolaeth lawn o&#8217;r hyn sydd yn digwydd gyda dy arian. Fe gei di dynnu&#8217;r arian allan neu gallet ti benderfynu ei gadw a chynilo mwy gan ei symud i ISA oedolion. Os wyt ti&#8217;n dal i gynilo gall hwn gynyddu i fod yn swm da i&#8217;w gadw ar gyfer argyfwng neu bryniant mawr yn y dyfodol, fel car neu flaendal am fflat neu d\u0177.<\/p>\n<p>Cer draw i wefan Gwasanaeth Cynghori Ariannol am gyngor: <a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/cy\/articles\/gair-o-gyngor-ar-gyfer-dewis-cyfrif-cynilo\">Gair o gyngor ar gyfer dewis cyfrif cynilo<\/a>. Mae ganddynt wybodaeth wych hefyd ar pam bod <a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/cy\/articles\/mynd-iar-arfer-o-gynilo\">mynd i&#8217;r arfer o gynilo<\/a> yn syniad da. Mae&#8217;r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn cynnig cyngor am ddim a diduedd. Mae posib <a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/cy\">siarad \u00e2 nhw ar y we<\/a> rhwng 8yb a 6yh Llun i Gwener a 8yb tan 3yp ar ddydd Sadwrn, neu ar y ff\u00f4n ar 0800 138 0555 rhwng 8yb a 6yh Llun i Gwener (Typetalk: 18001 0800 915 4622).<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-3331\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/08\/Screen-Shot-2020-08-25-at-14.25.32-300x198.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"198\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/08\/Screen-Shot-2020-08-25-at-14.25.32-300x198.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/08\/Screen-Shot-2020-08-25-at-14.25.32.jpg 468w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<h3>Sut ydw i&#8217;n dod o hyd i&#8217;m Cronfa Ymddiriedolaeth Plant?<\/h3>\n<p>Gofynna i dy riant neu ofalwr os yw&#8217;r manylion ganddynt. Yna gallet ti gysylltu \u00e2&#8217;r darparwr i weld faint o arian sydd yn y cyfrif. Os nad ydynt yn gallu dod o hyd i&#8217;r manylion yna gallet ti <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/child-trust-funds\/find-a-child-trust-fund\">lenwi ffurflen ar wefan CThEM<\/a> i ddarganfod darparwr y cyfrif. Bydd angen rhif Yswiriant Gwladol (YG) i lenwi&#8217;r ffurflen. Os <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/lost-national-insurance-number\">nad wyt ti&#8217;n gallu darganfod dy rif YG<\/a> yna <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/hm-revenue-customs\/contact\/national-insurance-numbers\">cysyllta \u00e2&#8217;r llinell gymorth rhifau Yswiriant Gwladol<\/a> trwy sgwrs gwe neu ar y ff\u00f4n. Bydd angen creu ID &#8216;Government Gateway&#8217; i chwilio am dy gyfrif.<\/p>\n<p>Os wyt ti eisiau gwybodaeth bellach am hyn, cysyllta \u00e2 Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar y manylion cyswllt uchod, neu siarada \u00e2 ni ar <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">linell gymorth Meic<\/a>. Gallem dy roi ar y llwybr cywir wrth gynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth (i helpu ti i siarad gyda phobl\/gwasanaethau eraill)<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wyt ti wedi cael dy eni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011? Mae posib bod gen ti Gronfa Ymddiriedolaeth Plant wedi&#8217;i osod yn dy enw gydag arian sydd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3329,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1121],"tags":[1125,1122,1124,1126,1123],"class_list":["post-3328","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-arian","tag-arian","tag-cronfa-ymddiriedolaeth-plant","tag-ctf","tag-cynilo","tag-cyp"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3328","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3328"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3328\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3332,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3328\/revisions\/3332"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3329"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3328"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3328"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3328"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}