{"id":3301,"date":"2020-07-29T11:46:06","date_gmt":"2020-07-29T11:46:06","guid":{"rendered":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=3301"},"modified":"2020-07-29T11:54:41","modified_gmt":"2020-07-29T11:54:41","slug":"eich-teimladau-am-y-pandemig-coronafeirws","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/eich-teimladau-am-y-pandemig-coronafeirws\/","title":{"rendered":"Eich Teimladau Am Y Pandemig Coronafeirws"},"content":{"rendered":"<h2>Yn \u00f4l yn fis Mai eleni, cwpl o fisoedd i mewn i&#8217;r cyfyngiadau Covid-19, roedd 24,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn rhan o ymgynghoriad i ddarganfod sut roeddent yn teimlo. Mae adroddiad wedi cael ei greu o&#8217;r atebion, gelwir yn &#8216;<a href=\"https:\/\/www.childcomwales.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/FINAL_formattedCVRep_CYM.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Coronafeirws a Fi<\/a>&#8216;. Rydym am edrych ar ffigyrau diddorol o&#8217;r adroddiad.<\/h2>\n<p>Datblygwyd yr ymgynghoriad gan <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/?_ga=2.186081582.684612553.1596012387-809799236.1586962503\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Lywodraeth Cymru<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.complantcymru.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Comisiynydd Plant Cymru<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.seneddieuenctid.cymru\/hafan\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Senedd Ieuenctid Cymru<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.childreninwales.org.uk\/cy\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Phlant yng Nghymru<\/a>. Gofynnwyd i rai 3 i 18 oed yng Nghymru i lenwi arolwg, gan roi cyfle i chi fynegi&#8217;r ffordd roeddech chi&#8217;n teimlo. Yn yr erthygl yma, rydym yn edrych ar atebion oedran 12-18 yn benodol, cyfanswm o 11,002 o bobl ifanc.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/ensure-puppchen-2019073_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-3302\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/ensure-puppchen-2019073_1920-300x173.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"173\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/ensure-puppchen-2019073_1920-300x173.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/ensure-puppchen-2019073_1920-1024x591.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/ensure-puppchen-2019073_1920-768x443.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/ensure-puppchen-2019073_1920.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/p>\n<h3>Poeni?<\/h3>\n<p>Un o&#8217;r cwestiynau gofynnwyd oedd &#8216;Sut wyt ti wedi bod yn teimlo yn ystod Argyfwng y Coronafeirws?&#8217;<\/p>\n<ul>\n<li>Hapus &#8211; roedd 50% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo&#8217;n hapus y rhan fwyaf o&#8217;r amser; 40% peth o&#8217;r amser a 10% ddim yn aml iawn<\/li>\n<li>Pryderus &#8211; roedd 14% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo&#8217;n bryderus y rhan fwyaf o&#8217;r amser; 41% peth o&#8217;r amser a 44% ddim yn aml iawn<\/li>\n<li>Trist &#8211; roedd 16% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo&#8217;n drist y rhan fwyaf o&#8217;r amser; 41% peth o&#8217;r amser a 43% ddim yn aml iawn<\/li>\n<li>Diogel &#8211; roedd 78% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo&#8217;n ddiogel y rhan fwyaf o&#8217;r amser; 18% peth o&#8217;r amser a 4% ddim yn aml iawn<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;n beth da bod y mwyafrif ohonoch yn teimlo&#8217;n hapus ac yn ddiogel. Y pethau oedd yn cael yr effaith fwyaf ar eich teimladau oedd methu treulio amser gyda ffrindiau (72%), ddim yn gallu gweld aelodau teulu (59%) ac ysgolion a cholegau yn cau (42%).<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/stone-316225_1280.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-3307\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/stone-316225_1280-300x199.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"199\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/stone-316225_1280-300x199.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/stone-316225_1280-1024x678.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/stone-316225_1280-768x508.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/stone-316225_1280.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/p>\n<h3>Iechyd Emosiynol a Meddyliol<\/h3>\n<p>Roedd pobl yn poeni bod y cyfyngiadau Coronafeirws yn mynd i gael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobl. Roedd yr arolwg yn gofyn a oeddech chi&#8217;n hapus yn gofyn am gefnogaeth iechyd emosiynol neu feddyliol gan y bobl ganlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Ffrindiau neu deulu- 83%<\/li>\n<li>Cyfryngau cymdeithasol neu wefan &#8211; 53%<\/li>\n<li>Athrawon neu staff arall yr ysgol &#8211; 53%<\/li>\n<li>Doctor &#8211; 52%<\/li>\n<li>T\u00eem Iechyd Meddwl- 43%<\/li>\n<li>Cynghorwr Ysgol &#8211; 39%<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gan fod y mwyafrif ohonoch adref gyda&#8217;ch teulu, mae&#8217;n gr\u00eat bod 83% yn teimlo&#8217;n hyderus yn gofyn iddynt am help gan mai nhw yw&#8217;r rhai hawsaf i chi ofyn iddynt yn y cyfnod yma. I&#8217;r rhai oedd ddim yn hyderus yn gofyn am help teulu roedd yr arolwg yn ddefnyddiol i roi opsiynau eraill o gefnogaeth gellir mynd atynt.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/school-2051712_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-3306\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/school-2051712_1920-300x198.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"198\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/school-2051712_1920-300x198.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/school-2051712_1920-1024x674.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/school-2051712_1920-768x506.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/school-2051712_1920.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/p>\n<h3>Addysg<\/h3>\n<p>I&#8217;r mwyafrif ohonoch, un o&#8217;r pethau roedd y pandemig yn cael yr effaith mwyaf arno yn eich bywydau oedd y ffaith bod rhaid cau ysgolion a cholegau. Roedd arholiadau wedi&#8217;u canslo, rhai ddim yn cael profi wythnosau diwethaf erioed yn yr ysgol, colli allan ar ddawns diwedd flwyddyn a bywyd yn symud i ddysgu ar-lein,<\/p>\n<p>Yn yr arolwg, roeddech yn cael dewis pa frawddegau oedd yn wir i chi. Gellir dewis cymaint ag yr hoffech. Dyma oedd y 5 uchaf:<\/p>\n<ul>\n<li>Dwi&#8217;n poeni am gwympo tu \u00f4l gyda fy addysg &#8211; 54%<\/li>\n<li>Dwi&#8217;n drist ar golli cyfleoedd roeddwn i&#8217;n edrych ymlaen atyn nhw &#8211; 53%<\/li>\n<li>Dwi&#8217;n poeni ar sut gallai hyn effeithio ar fy nghanlyniadau arholiad &#8211; 52%<\/li>\n<li>Does gen i ddim cymhelliad i wneud gwaith ysgol gartref &#8211; 48%<\/li>\n<li>Dwi&#8217;n poeni am ddechrau ysgol newydd neu flwyddyn newydd ym mis Medi &#8211; 30%<\/li>\n<\/ul>\n<p>Roedd llawer eisiau mwy o gyswllt a chymorth gan yr ysgol, gyda nifer eisiau gwersi dros fideo. Roedd rhai ohonoch yn cael trafferth gweithio o adref gan fod rhieni yn gweithio ac roeddech chi angen mwy o gefnogaeth.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/homework-2521144_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-3304\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/homework-2521144_1920-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/homework-2521144_1920-300x200.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/homework-2521144_1920-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/homework-2521144_1920-768x512.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/homework-2521144_1920.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/p>\n<h3>Arholiadau<\/h3>\n<p>Dan amgylchiadau arferol, os fydda rywun yn dweud nad oes rhaid sefyll arholiad, mae&#8217;n debyg byddech chi&#8217;n hapus am hyn. Ond mae tynnu&#8217;r hawl yma i ffwrdd mor sydyn yn ystod y pandemig yn golygu bod rhai ohonoch yn ansicr sut i deimlo am y peth. Dyma sut roeddech chi&#8217;n teimlo am ganslo&#8217;r arholiadau:<\/p>\n<ul>\n<li>Ansicr &#8211; 50%<\/li>\n<li>Pryderus &#8211; 18%<\/li>\n<li>Hapus &#8211; 17%<\/li>\n<li>Crac &#8211; 6%<\/li>\n<li>Trist &#8211; 5%<\/li>\n<li>Arall &#8211; 4%<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ar \u00f4l yr holl waith roedd yn sefyllfa od iawn i chi fod ynddi ac roedd rhai ohonoch yn poeni am y graddau byddai&#8217;r athrawon yn ei roi ac os fyddech chi&#8217;n cael yr hyn roeddech chi ei angen i fynd i&#8217;r brifysgol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/light-2581929_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-3305\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/light-2581929_1920-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/light-2581929_1920-300x200.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/light-2581929_1920-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/light-2581929_1920-768x512.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/light-2581929_1920.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/p>\n<h3>Gwybodaeth<\/h3>\n<p>Roedd yr arolwg yn holi o ble roeddech chi&#8217;n cael eich gwybodaeth am y Coronafeirws, ac roedd posib dewis mwy nag un ffynhonnell. Y prif atebion oedd:<\/p>\n<ul>\n<li>Teledu &#8211; 71%<\/li>\n<li>Rhieni neu deulu &#8211; 70%<\/li>\n<li>Postiadau ar gyfrifon newyddion cyfryngau cymdeithasol &#8211; 48%<\/li>\n<li>Gwefannau newyddion neu apiau &#8211; 48%<\/li>\n<\/ul>\n<p><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/girl-1245773_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-3303\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/girl-1245773_1920-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/girl-1245773_1920-300x200.jpg 300w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/girl-1245773_1920-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/girl-1245773_1920-768x512.jpg 768w, https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2020\/07\/girl-1245773_1920.jpg 1440w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/p>\n<h3>Ymlacio<\/h3>\n<p>Roedd gorfod aros yn y t\u0177 yn rhoi digon o amser i ni ymlacio, ac roedd hyn yn cael ei ategu gyda&#8217;ch atebion i&#8217;r cwestiwn os oeddech chi&#8217;n ymlacio fwy neu&#8217;n llai aml ers i&#8217;r ysgolion gau.<\/p>\n<ul>\n<li>61% &#8211; Ymlacio mwy<\/li>\n<li>22% &#8211; Tua&#8217;r un peth<\/li>\n<li>16% &#8211; Ymlacio llai<\/li>\n<\/ul>\n<p>Roedd y mwyafrif ohonoch yn dweud eich bod wedi bod yn siarad gyda ffrindiau ar-lein ac yn ymarfer corff. Roedd darllen, gwylio&#8217;r teledu a threulio amser gyda theulu hefyd yn ymddangos yn aml.<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\">&#8212;&#8212;&#8212;-<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Tra bod y mwyafrif ohonoch ddim wedi&#8217;ch effeithio&#8217;n negyddol yn ystod y cloi mawr, roedd pethau yn anodd iawn i rai ohonoch. Efallai eich bod wedi colli rhywun agos yn y cyfnod yma. Gallech chi fod yn teimlo&#8217;n drist neu&#8217;n bryderus, ddim yn gallu ymlacio, ddim yn gallu cael mynediad i&#8217;ch cefnogaeth iechyd meddwl neu emosiynol arferol neu fod gwaith ysgol\/coleg yn ymdrech neu&#8217;n poeni am fethu arholiadau.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Bydd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn defnyddio canlyniadau&#8217;r arolwg yma i helpu gyda gwneud penderfyniadau, a sicrhau eu bod yn gwrando ar eich llais wrth ddatblygu gwasanaethau neu bolis\u00efau yn y dyfodol.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Eisiau darllen yr ymgynghoriad lawn, neu fersiwn byrrach gyda symbolau hawdd i&#8217;w darllen? <a href=\"https:\/\/www.complantcymru.org.uk\/2020\/06\/cyhoeddi-canlyniadau-arolwg-coronafeirws-a-fi\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Maen nhw ar gael yma.<\/a><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Edrycha ar ein tudalennau <a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/info\/coronavirus\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Coronafeirws<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn \u00f4l yn fis Mai eleni, cwpl o fisoedd i mewn i&#8217;r cyfyngiadau Covid-19, roedd 24,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn rhan o ymgynghoriad i ddarganfod sut roeddent&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3308,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1106,1],"tags":[1005,1107,1108,1109,1110],"class_list":["post-3301","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-coronafeirws","category-newyddion","tag-adroddiad","tag-coronafeirws","tag-covid-19","tag-ffeithiau","tag-ystadegau"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3301","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3301"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3301\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3311,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3301\/revisions\/3311"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3308"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3301"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3301"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3301"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}