{"id":3259,"date":"2019-09-20T13:38:45","date_gmt":"2019-09-20T13:38:45","guid":{"rendered":"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=3259"},"modified":"2019-09-20T13:43:02","modified_gmt":"2019-09-20T13:43:02","slug":"glasfyfyriwr-sut-i-oroesir-brifysgol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/glasfyfyriwr-sut-i-oroesir-brifysgol\/","title":{"rendered":"Glasfyfyriwr: Sut i Oroesi&#8217;r Brifysgol"},"content":{"rendered":"<h2>&#8216;Glasfyfyriwr&#8217; &#8211; myfyriwr blwyddyn gyntaf mewn prifysgol neu goleg, yn enwedig yn ystod ei dymor cyntaf.<\/h2>\n<h6 style=\"text-align: right;\"><em>&#8211; (ffynhonnell: <a href=\"http:\/\/geiriadur.ac.uk\/gpc\/gpc.html?cnofa\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Geiriadur Prifysgol Cymru<\/a>)<\/em><\/h6>\n<p>Mae popeth yn newydd &#8211; y tro cyntaf yn byw ar ben dy hun &#8211; blas cyntaf o ryddid &#8211; gorfod rheoli arian &#8211; gorfod bwydo, gwisgo ac edrych ar \u00f4l dy hun!<\/p>\n<p>Cyffrous? Peri Straen? Dychrynllyd? Fyddi di&#8217;n byw bywyd diddiwedd o &#8220;chug, chug, chug&#8221;, yn llwyddo i gael cydbwysedd da o fywyd cymdeithasol ac astudio, neu&#8217;n methu setlo o gwbl (a phopeth rhwng y bylchau)? Croeso i dy flwyddyn gyntaf!!!<\/p>\n<p class=\"p1\">Bydd llawer iawn o bobl yn cychwyn yn y coleg a&#8217;r brifysgol y flwyddyn hon a bydd profiadau&#8217;r diwrnodau, wythnosau a&#8217;r misoedd cyntaf yn wahanol i bawb si\u0175r o fod.\u00a0Bydd rhai yn gorwneud y part\u00efon. Yr holl ryddid a&#8217;r benthyciad myfyriwr yn llosgi twll yn y boced. Llawer o lefydd newydd, ffrindiau i gyfarfod a hwyl, hwyl, hwyl. I eraill gall fod yn gyfnod ansicr pan fyddant yn teimlo hiraeth eithafol, yn poeni am arian neu&#8217;r swm o waith. Efallai bydd yn anodd iddynt wneud ffrindiau neu eu bod yn cas\u00e1u\u2019r cwrs.<\/p>\n<p>Felly dyma ni i geisio helpu gyda&#8217;n&#8230;<\/p>\n<h2 style=\"text-align: center;\">Canllaw ddefnyddiol i&#8217;r Glasfyfyriwr:<\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2019\/09\/calculator-820330_1920-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1427 size-medium\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2019\/09\/calculator-820330_1920-1-300x200.jpg\" alt=\"Cyfrifiannell ar gyfer erthygl Glasfyfyriwr\" width=\"300\" height=\"200\" \/><\/a><\/p>\n<h3><\/h3>\n<h3>Dysgu Sut i Gyllido<\/h3>\n<p>Mae hwn yn un o&#8217;r pethau pwysicaf bydd rhaid i ti ddysgu. Mae angen i ti sicrhau bod y benthyciad myfyriwr yn cael ei ymestyn.\u00a0<a href=\"https:\/\/www.moneysavingexpert.com\/students\/student-guide\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Edrycha ar y canllaw yma ar MSE<\/a> yn cynghori am hyn gyda dros 60 o awgrymiadau gan gynnwys cyfrifon banc myfyrwyr, disgowntiau, biliau ynni a gwneud arian ychwanegol. Chwilia am y cyfrif banc myfyriwr gorau a gweld pa un gall gynnig y fargen orau i ti; yn aml mae ganddynt rywbeth i ysgogi myfyrwyr fel arian am ddim neu ffr\u00eebis.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r benthyciad myfyriwr yn glanio yn dy gyfrif mewn un swm mawr ar gyfnodau penodol, nid bob wythnos neu fis. Bydd rhaid i ti ddysgu peidio gwario hwn i gyd yn rhy sydyn. Rhaid dysgu sut i gyllido fel nad wyt ti&#8217;n waglaw ac yn gorfod cloddio trwy&#8217;r sbwriel yn Tesco am fwyd (neu&#8217;n erfyn ar fanc mami a dadi am arian).<\/p>\n<h3><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2019\/09\/water-2569507_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1430 size-medium\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2019\/09\/water-2569507_1920-300x200.jpg\" alt=\"pobl ifanc yn cael hwyl yn sleidio ar dd\u0175r ar gyfer erthygl Glasfyfyriwr\" width=\"300\" height=\"200\" \/><\/a><\/h3>\n<p><span style=\"color: #ffffff;\">.<\/span><\/p>\n<h3>Ffrindiau newydd<\/h3>\n<p>Mae Wythnos y Glas yn gyfnod gwych i gyfarfod ffrindiau newydd. Bydd digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal. Mae&#8217;n gyfle i bawb ddod i adnabod ei gilydd mewn gosodiad llai ffurfiol. Fe ddylet ti hefyd ystyried ymuno gyda gr\u0175p neu gymdeithas, mae yna lwyth ohonynt fel arfer. Os wyt ti&#8217;n mynd i Ffair y Glas yna bydd y cymdeithasau i gyd yno yn ceisio tynnu sylw myfyrwyr newydd. Mae hyn yn ffordd dda i gyfarfod \u00e2 phobl newydd sydd \u00e2 diddordebau tebyg. Os wyt ti angen cyngor ar sut i wneud ffrindiau newydd yna <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/gwneud-ffrindiau-newydd\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">edrycha ar erthygl Coda&#8217;r Meic ar ein gwefan<\/a> pan ofynnodd rhywun am gyngor. Mae yna <a href=\"https:\/\/www.savethestudent.org\/extra-guides\/freshers\/how-to-make-friends-at-university.html\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">restr wych o syniadau ar Save The Student<\/a> hefyd fel cadw dy ddrws yn agored, cynnig helpu a choginio i bobl.<\/p>\n<h3><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2019\/09\/window-view-1081788_1920-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1431 size-medium\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2019\/09\/window-view-1081788_1920-1-300x200.jpg\" alt=\"Merch ifanc yn eistedd wrth y ffenestr yn meddwl ar gyfer erthygl Glasfyfyriwr\" width=\"300\" height=\"200\" \/><\/a><\/h3>\n<p><span style=\"color: #ffffff;\">.<\/span><\/p>\n<h3>Hiraeth am adref<\/h3>\n<p>Mae&#8217;n gallu bod yn anodd iawn addasu i fywyd yn y brifysgol. Mae hiraethu am deulu a ffrindiau yn gallu bod yn anodd iawn i rai. Tra bod rhai pobl yn ymddangos fel eu bod yn setlo bron yn syth, nid yw&#8217;n beth ei fod yn ymdrech mawr i rai eraill. Mae cadw&#8217;n brysur yn ffordd wych i gadw hyn wrth gefn y meddwl. Cyfarfod ffrindiau newydd, mynd i unrhyw ddigwyddiadau cymdeithasol, ymuno gydag unrhyw grwpiau neu gymdeithasau sydd o ddiddordeb.<\/p>\n<p>Ceisia beidio rhoi&#8217;r ffidl yn y to am fod pethau&#8217;n rhy anodd, efallai bydd hyn yn benderfyniad byddi di&#8217;n difaru. Os fedri di gadw ati am ychydig wythnosau, yna mae&#8217;n debyg bydd y teimladau yma o hiraeth yn pylu. Gallet ti wneud mwy o ymweliadau gartref ar benwythnosau ar y cychwyn os oes angen. Dylet ti hefyd wneud defnydd i dechnoleg. Pan fyddi di&#8217;n hiraethu gallet ti weld beth mae dy ffrindiau yn ei wneud ar gyfryngau cymdeithasol. Gallet ti hefyd wneud galwadau fideo i dy ffrindiau neu deulu.\u00a0Ond ceisia beidio hiraethu gormod a threulia mwy o amser yn dod yn gyfarwydd gyda&#8217;r amgylchedd newydd.<\/p>\n<p>Os nad yw pethau&#8217;n gwella ceisia siarad gyda dy diwtor neu wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae gan Times Higher Education gyngor ar <a href=\"https:\/\/www.timeshighereducation.com\/student\/advice\/how-deal-homesickness-university#survey-answer\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Sut i Ymdopi Gyda Hiraeth Yn Y Brifysgol<\/a>.<\/p>\n<h3><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2019\/09\/classroom-1699745_1920-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1429 size-medium\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2019\/09\/classroom-1699745_1920-1-300x214.jpg\" alt=\"Cadeiriau yn wyebu llwyfan gyda ffodiwm a bwrdd du ar gyfer erthygl Glasfyfyriwr\" width=\"300\" height=\"214\" \/><\/a><\/h3>\n<p><span style=\"color: #ffffff;\">.<\/span><\/p>\n<h3>Cofia pam dy fod di yno<\/h3>\n<p>Mae wythnos y glas yn gyfnod o gyffro a setlo, ond cyn hir bydd rhaid dechrau meddwl am gael trefn ar bethau. Mae&#8217;n rhaid i ti sicrhau dy fod di&#8217;n mynd i&#8217;r darlithoedd ac yn rhoi&#8217;r gwaith i mewn ar amser. Mae ffaelu&#8217;r flwyddyn gyntaf yn gamgymeriad drud iawn os oes rhaid ail-wneud y flwyddyn neu orfod gadael y brifysgol yn gyfan gwbl. Efallai bod creu amserlen, neu ddyddiadur astudio, yn swnio&#8217;n ddiflas iawn yng nghanol holl hwyl Wythnos y Glas, ond bydd hyn yn ddefnyddiol iawn wrth i ti sylweddoli difrifwch pam dy fod di yno.<a href=\"https:\/\/www.topuniversities.com\/blog\/top-five-tips-getting-better-organized-uni\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\"> Edrycha ar ganllaw TopUniversities &#8211; Pum Awgrym Uchaf i Fod Yn Fwy Trefnus Yn Y Brifysgol.<\/a> Os ydy&#8217;r llwyth gwaith a chael trefn yn rhy anodd yna siarada gyda dy diwtoriaid neu gefnogaeth fugeiliol, efallai gallant helpu ti i greu cynllun.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2017\/10\/13718512_822807761188875_3763973234342017295_n.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-medium wp-image-693\" src=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2017\/10\/13718512_822807761188875_3763973234342017295_n-300x111.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"111\" \/><\/a><\/p>\n<p><span style=\"color: #ffffff;\">.<\/span><\/p>\n<h3>Siarada \u00e2 Meic<\/h3>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Meic<\/a> yn rhywun ar dy ochr di. Os ydy pethau&#8217;n rhy anodd ac rwyt ti angen siarad \u00e2 rhywun neu os oes gen ti gwestiwn am rywbeth yna gallet ti<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/cael-help\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\"> gysylltu \u00e2 Meic<\/a> yn gyfrinachol ac am ddim ar y ff\u00f4n, neges testun neu Neges Sydyn ar-lein rhwng 8yb a hanner nos, bob dydd o&#8217;r flwyddyn. Rydym yn siarad am dy opsiynau ac yn helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau ymlaen.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/glasfyfyriwr-canllaw-goroesi-prifysgol\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Wedi ei ailgyhoeddi o wefan Meic<\/a><\/h4>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Newydd i fywyd prifysgol? Mae&#8217;n amser prysur &#8211; bod hyn yn hwyl neu&#8217;n achosi pryder &#8211; dyma ganllaw i oroesi&#8217;r Brifysgol i&#8217;r Glasfyfyrwyr.<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3263,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[689,24,1,359],"tags":[1085,1087,1078,1077,1082,1081,1079,1080,1083,1084,1086],"class_list":["post-3259","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg","category-barn","category-newyddion","category-pethau-iw-gwneud","tag-canllaw-goroesi-glasfyfyrwyr","tag-canllaw-goroesi-prifysgol","tag-cyngor-glasfyfyrwyr","tag-cyngor-i-fyfyrwyr-newydd-caerdydd","tag-glasfyfyriwr","tag-glasfyfyrwyr","tag-glasfyfyrwyr-caerdydd","tag-glasfyfyrwyr-prifysgol-caerdydd","tag-myfyriwr-newydd","tag-pythefnos-y-glas","tag-wythnos-y-glas"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3259","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3259"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3259\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3265,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3259\/revisions\/3265"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3263"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3259"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3259"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3259"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}