{"id":2672,"date":"2019-05-10T15:35:59","date_gmt":"2019-05-10T15:35:59","guid":{"rendered":"http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/?p=2672"},"modified":"2021-04-14T13:59:23","modified_gmt":"2021-04-14T13:59:23","slug":"cyfweliad-adam-ali-angel-nextbike-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/cyfweliad-adam-ali-angel-nextbike-caerdydd\/","title":{"rendered":"Cyfweliad: Adam Ali, Angel NextBike Caerdydd"},"content":{"rendered":"<h2>Cawsom gyfle yma yn y Sprout i siarad gydag un o&#8217;r bobl yna sydd yn cadw Caerdydd yn rhedeg yn ddistaw bach. Dyma Adam Ali, myfyriwr Prifysgol Caerdydd sydd yn gweithio fel Angel NextBike yn rhan amser.<\/h2>\n<p>Mae Adam yn patrolio strydoedd y ddinas yn dychwelyd y beiciau llogi i&#8217;r gorsafoedd docio ble mae pobl eu hangen. Os nad wyt ti wedi clywed am y cynllun llogi beiciau yng Nghaerdydd, dyma&#8217;r manylion:<\/p>\n<p>http:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/teithio\/symud-o-gwmpas\/llogi-nextbike\/<\/p>\n<h3>Beth yw gwaith &#8220;Angel NextBike&#8221;?<\/h3>\n<p>Rwyf yn patrolio ardal Caerdydd (canol y ddinas ran amlaf), yn sicrhau bod y gorsafoedd a&#8217;r beiciau yn gweithio&#8217;n iawn. Os oes problem gyda beic, yna byddaf yn gwirio hyn, neu yn ei fflagio i gael ei drwsio fel bod gweithredydd NextBike Caerdydd, <a href=\"https:\/\/www.cardiffpedalpower.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Pedal Power<\/a>, yn gallu gyrru rhywuni ddod\u00a0 i&#8217;w godi. Nid yw&#8217;r cynllun NextBike yn un heb ddoc, ac felly mae angen i bob beic gael ei ddychwelyd i orsaf ar \u00f4l cael ei rhentu. Rhan arall o&#8217;m swydd ydy codi dirwy ar y rhai sydd ddim yn gwneud hyn, ac i ddychwelyd y beic i&#8217;r orsaf agosaf.<\/p>\n<blockquote><p><em>[<strong>HEB DDOC:<\/strong> Tra bod ein cynllun llogi beiciau ni wedi&#8217;i sefydlu o gwmpas &#8220;doc&#8221; neu &#8220;orsaf&#8221;, mae gan rhai dinasoedd gynllun rhannu beic heb ddoc, lle gellir gadael y beic unrhyw le mewn ardal wedi&#8217;i ddiffinio cynt (e.e. canol y ddinas), a bydd y person nesaf yn ei ddarganfod gan ddefnyddio GPS. Nid yw hyn yn gweithio&#8217;n dda iawn mewn dinas fel Manceinion er esiampl, <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/uk-news\/2018\/sep\/05\/theft-and-vandalism-drive-mobike-out-of-manchester\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">roedd rhaid i Mobike dynnu allan o&#8217;r ddinas<\/a> oherwydd fandaliaeth i&#8217;r beiciau heb ddoc. Tra bod rhaid dychwelyd NextBike Caerdydd i orsaf, mae posib eu gadael yn agos, yn wahanol i gynlluniau eraill fel cynllun Valenbisi Valencia ble mae&#8217;n RHAID docio&#8217;r beiciau i&#8217;w dychwelyd.]<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae sawl r\u00f4l yn nh\u00eem NextBike Caerdydd, gyda&#8217;r angylion yn un ohonynt. Mae yna mecanigion hefyd, sydd yn trwsio&#8217;r beiciau, yn ogystal \u00e2&#8217;r ail-ddobarthwyr sydd yn symud y beiciau sydd wedi torri i gael eu trwsio, a&#8217;u dychwelyd ar \u00f4l hynny. Maent hefyd yn ychwanegu beiciau i orsafoedd sydd yn rhedeg yn isel.<\/p>\n<div id=\"attachment_15888\" style=\"width: 1034px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15888\" class=\"wp-image-15888 size-large\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/09\/01-1024x683.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"683\" \/><p id=\"caption-attachment-15888\" class=\"wp-caption-text\"><em>Beiciau NextBikes wedi&#8217;u docio y tu allan i&#8217;r Llys<\/em><\/p><\/div>\n<h3>Pam dangos diddordeb i ddod yn Angel NextBike?<\/h3>\n<p>Roeddwn yn edrych ar dudalen <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/jobs-skills\/volunteering\/projects\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gwirfoddoli Caerdydd<\/a> yn \u00f4l yn 2017, a gweld hysbyseb i wirfoddoli i roi tro ar gynllun rhentu beic newydd. Roedd gen i ddiddordeb ynddo, ac felly cofrestrais. I gychwyn dim ond 5 gorsaf oedd ar gael &#8211; bellach mae yna 73! Cyn hir roeddwn yn Llysgennad NextBike yng Nghaerdydd, ac rwyf wedi cynrychioli&#8217;r cwmni mewn digwyddiadau cyhoeddus. Wrth i&#8217;r cynllun dyfu, dechreuwyd hysbysebu&#8217;r r\u00f4l o Angel. Ceisiais amdano, ac rwyf wedi bod yn Angel NextBike ers 7 mis bellach.<\/p>\n<h3>Beth wyt ti&#8217;n astudio, a sut mae&#8217;r swydd anarferol yma yn ffitio gyda dy astudiaethau?<\/h3>\n<p>Rwyf yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae&#8217;r swydd yn un addasol iawn, a gallaf ddewis oriau fy hun. Gallaf gynllunio fy oriau yn hawdd iawn o gwmpas darlithoedd, sydd yn gwneud hwn yn swydd dda i fyfyrwyr.<\/p>\n<div id=\"attachment_15902\" style=\"width: 1034px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15902\" class=\"wp-image-15902 size-large\" src=\"http:\/\/thesprout.co.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/09\/image-32_40181049685_o-1024x683.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"683\" \/><p id=\"caption-attachment-15902\" class=\"wp-caption-text\"><em>Teithio heibio&#8217;r amgueddfa<\/em><\/p><\/div>\n<h3>Beth yw&#8217;r pethau gwaethaf fydd pobl yn ei wneud ar \u00f4l gorffen gyda beic?<\/h3>\n<p>Y peth gwaethaf gall pobl ei wneud wrth ddychwelyd beic ydy ei adael yng nghanol y palmant! Nid oed rhaid docio beic i&#8217;w ddychwelyd, felly mae yna rhai achosion ble mae pobl yn dympio beic mewn llefydd anghyfleus yn agos i orsaf, neu yng nghanol llwybr cerdded. Mae hyn yn gallu gwylltio cerddwyr sydd yn gorfod cerdded o&#8217;i gwmpas.<\/p>\n<h3>Wyt ti wedi gorfod tynnu beic allan o afon o gwbl?<\/h3>\n<p>Naddo! Ddim yn bersonol, ond mae yna achosion prin ble mae beic yn gwneud ei ffordd i&#8217;r Taf. Mae gan Pedal Power ffrindiau da yn nh\u00eem d\u0175r y Groes Goch, yn ogystal \u00e2 chriwiau cychod lleol, sydd yn ein helpu i&#8217;w hadfer.<\/p>\n<p><strong><em>Wel, dyna ti! Ti&#8217;n gwybod nawr sut mae&#8217;r beics yn cyrraedd y man cywir i helpu cymudwyr prysur Caerdydd gyrraedd pen eu taith ar amser, a&#8217;r teithiau cylch pleserus o&#8217;r Bae. Mae&#8217;r NextBike yn \u00a31 am hanner awr ar sail achlysurol ar hyn o bryd, ond mae yna gynnig ar hyn o bryd hefyd: \u00a350 am aelodaeth blwyddyn, felly mae&#8217;r 30 munud cyntaf am ddim am 12 mis. <a href=\"https:\/\/www.nextbike.co.uk\/en\/nextbike-spring\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Clicia yma i fynd i&#8217;r gwefan a darllen mwy am gynnig y Gwanwyn.<\/a><\/em><\/strong><\/p>\n<p><em>[Mae&#8217;r Sprout yn brosiect wedi&#8217;i ariannu gan y cyngor ac nid ydym yn derbyn arian hysbysebu gan unrhyw noddwr na chorfforaeth &#8211; rydym yn ffan fawr o NextBike ac yn meddwl byddai&#8217;n beth defnyddiol i rannu gyda phobl ifanc Caerdydd.]<\/em><\/p>\n<p>Angen gwybodaeth bellach am drafnidiaeth Caerdydd? Edrycha ar y dudalen hon yn ein hadran Gwybodaeth.<\/p>\n<blockquote class=\"wp-embedded-content\" data-secret=\"8nmsiGNclR\"><p><a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/teithio\/symud-o-gwmpas\/\">Symud o Gwmpas<\/a><\/p><\/blockquote>\n<p><iframe loading=\"lazy\" class=\"wp-embedded-content\" sandbox=\"allow-scripts\" security=\"restricted\" style=\"position: absolute; clip: rect(1px, 1px, 1px, 1px);\" title=\"&#8220;Symud o Gwmpas&#8221; &#8212; Sprout Cymraeg\" src=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/gwybodaeth\/teithio\/symud-o-gwmpas\/embed\/#?secret=EWav6zv3zS#?secret=8nmsiGNclR\" data-secret=\"8nmsiGNclR\" width=\"500\" height=\"282\" frameborder=\"0\" marginwidth=\"0\" marginheight=\"0\" scrolling=\"no\"><\/iframe><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cawsom gyfle yma yn y Sprout i siarad gydag un o&#8217;r bobl yna sydd yn cadw Caerdydd yn rhedeg yn ddistaw bach. Dyma Adam Ali, myfyriwr Prifysgol Caerdydd sydd yn&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":2707,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[77],"tags":[903,910,892,898,893,914,899,894,897,896,909,900,911,895,905,904,902,913,907,908,906,912,901],"class_list":["post-2672","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-amgylchedd","tag-angel-beiciau-dinas","tag-angel-nextbike","tag-beic","tag-beic-llog-caerdydd","tag-beiciau","tag-beiciau-rhent","tag-hurio-beic","tag-llogi-beic","tag-llogi-beic-caerdydd","tag-llogi-beiciau-caerdydd","tag-nextbike","tag-nextbike-caerdydd","tag-pedal-power","tag-rhannu-beic","tag-rhannu-beic-heb-ei-ddocio","tag-rhannu-beic-wedii-ddocio","tag-rhentu-beic-caerdydd","tag-rhentu-beiciau","tag-sut-mae-caerdydd-yn-gweithio","tag-swyddi-anghyffredin","tag-symud-o-gwmpas","tag-trafnidiaeth-cyhoeddus","tag-trafnidiaeth-cyhoeddus-caerdydd"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"amp_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2672","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2672"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2672\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2708,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2672\/revisions\/2708"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2707"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2672"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2672"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/thesprout.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2672"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}